*** START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK 67424 *** [Illustration: “DECHREUODD WEIDDI A CHAU EI DDYRNE.”] NEDW: GAN E. TEGLA DAVIES. WRECSAM: HUGHES A’I FAB, CYHOEDDWYR. —— 1922. _Argraffwyd a Rhwymwyd y Llyfr_ _hwn trwyddo, yng Nghymru, yn_ _Argraffdy y Cyhoeddwyr,_ _Principality Press, Wrexham._ CYNNWYS. _Tud._ I. —HET NEWYDD F’EWYRTH JOHN 5 II. —GNEUD ZEBRAS 14 III. —ANTI LAURA 23 IV. —MESUR TIR 33 V. —MAFON DUON 41 VI. —’RHEN NEDW 54 VII. —EOS Y WAEN 64 VIII. —BOD YN DDIYMHONGAR 73 IX. —DEWYRTH A BODO 84 X. —SEC 95 XI. —GWYNT Y DWYRAIN 106 XII. —IFAN OWEN TY’N LLWYN 121 NEDW. I.—HET NEWYDD F’EWYRTH JOHN. “Nedw,” medde Wmffre Pont Styllod, “ddoi di i hel crabas yn lle mynd i’r ysgol y pnawn ma?” Er mwyn i chi ddallt pethe, fi ydi Nedw, a nghefnder ydi Wmffre. Adeg hel cnau a chrabas yn y Tyno oedd hi. Does ene ddim coed yn y Tyno, ond coed cnau a choed crabas. Ac ar yr adeg yma ar y flwyddyn, mae hi bron bod yn nefoedd ar y ddaear arnom ni, fel mae nhw’n canu yn y capel. Ni fase eisio dim chwaneg i’w gneud hi’n nefoedd hollol, onibae am Joseph y Titshar. Ar ganol dydd y byddwn ni’n hel cnau, a fi ac Wmffre ydi’r ddau heliwr gore. Mi ces hi’n ofnadsen gan Joseph un diwrnod, a dene pam nad ydi hel cnau a chrabas yn nefoedd hollol. Roedd y scŵl ei hun yn digwydd bod yn sâl. Mae o’n well siort na Joseph. Wedi bod yn hel yr oedd Wmffre a minne, a lot o rai erill, ac yn dwad yn ol i’r ysgol â’n pocedi’n llawn,—dwy boced ein trowsuse, a dwy boced ein jecedi, nes oedden ni bob un yn edrych fel y peth mae nhw’n alw’n falŵn, sy â’i llun yn llyfr Standard IV. Wrth lwc, roedden ni’n ddigon buan i’r ysgol y pnawn hwnnw, ac am hynny doedd gan Joseph ddim byd i ddeyd, er ei fod o’n llygadu’n arw wrth weld y bechgyn yn dwad i mewn fel clomenod wedi hanner eu saethu, eu hadenydd nhw’n gostwng, a’u coese wedi chwyddo. Roedd o wedi’n siarsio ni o’r blaen ynghylch torri’r cnau yn yr ysgol, ac wedi deyd be fydde’r gosb. Pan oedd o heb fod yn edrych, mi fydde ene dorri mawr, a gwthio’r blisg i hinjis y ddesc, a phan fydde raid codi a gostwng y ddesc, roedd hi’n helynt. Aethom i’r ysgol y pnawn cyn yr un yr ydwi’n mynd i sôn amdano fo, yn iawn. Wedi canu, dyma rannu’r slaets i ddechre sgwenu. Yn hollol sydyn mi eis i yn wyn ac yn chwys drosta i gyd. “Edward Roberts,” medde Joseph, “ydech chi’n sâl?” Edward Roberts ydi f’enw iawn i wyddoch; ond fydda i ddim yn ei glywed o ond ganddo fo, a chan Jane Jones, Tyddyn Derw, pan yn mynd yno i nôl llaeth. Fedrwn i ddim deyd wrth Joseph mod i’n sâl, o achos toeddwn i ddim; a fedrwn i ddim deyd nad oeddwn i ddim, o achos roeddwn i’n teimlo fy mod i. Mi ddeyda i chi be oedd y mater. Roedd fy mhensel i yng ngwaelod fy mhoced, o dan y cnau i gyd, a’r cnau wedi’u gwthio i mewn mor dyn fel na fedrwn i yn fy myw fynd yn agos ati hi. Fe welodd y bechgyn i gyd yn syth be oedd y mater, am nad oedd o’n ddim byd newydd; ond fedre nhw ddim cynnyg benthyg pensel i mi heb i Joseph weld. Doedd dim i’w neud ond aros fel roeddwn i,—edrych arno fo heb ddeyd dim. Meddyliodd Joseph mod i’n mynd i ffeintio, a gyrrodd fi allan i’r awyr iach. Ac allan â mi gymint fyth. Yn hynny mi fethes. Mae’n debyg fod yr hen Joseph wedi ameu ar fy ffordd o fynd allan nad oeddwn i’n rhyw ffeintlyd iawn, am fy mod wedi mynd ar ddau gam. I ffwrdd â mi i gefn yr ysgol o’r golwg, ac mi deimles fy ngore am y bensel o’r tu allan i waelod poced fy nhrowsus, nes oeddwn i’n chwys. A thuchan a chwysu roeddwn, pan ddaeth rhyw gysgod heibio imi. Mi godes fy mhen, ac mi fu bron imi ffeintio mewn gwirionedd. Pwy oedd yn sefyll uwch fy mhen, yn gwylio pob symudiad, ond Joseph. “Ho, dyma’r saldra,” medde fo. Gafaelodd yn fy nghlust i, a gerfydd fy nghlust yr aeth â fi i mewn. Roedd y bechgyn erill yn ofni ac yn crynu erbyn hyn. Aeth Joseph â fi at y ddesc. “Ffeindia dy bensel,” medde fo. “Fedrai ddim, syr,” medde finne. “Lle mae hi?” medde fynte. “Yng ngwaelod fy mhoced i, syr,” medde finne. Mae’n bwysig galw Joseph yn “syr” ar adege fel hyn. Mi bwysleisies y “syr,” er mwyn y dyfodol, fel mae nhw’n deyd. Gneud i mi dynnu’r cnau i gyd allan ddaru o, beth bynnag; ac wrth bob dyrned o gnau, roeddwn i’n cael pinsh newydd yn fy nghlust, nes fy mod i’n gweiddi, fel Jinny fy chwaer hyna, pan oedd mam yn tyllu ei chlustie hi â’r nodwydd sanne, er mwyn rhoi ear-rings nain iddi. Dydwi ddim yn fabi fel Jinny, chwaith. Er ei gwaetha wrth geisio peidio yr oedd hi’n gweiddi, am mai hi oedd eisio’r ear-rings; ond wrth fy mhwyse, wedi ystyried priodoldeb y peth, roeddwn i’n gneud. Mi wages y cnau i gyd yn y man, ond doedd yno run bensel. “Lle mae’r bensel?” medde Joseph. Wyddwn i ar y ddaear, o achos yn fy mhoced chwith yr oeddwn i arfer a’i chadw hi, a’r pethe gwerthfawr erill yn fy mhoced ddethe. “Gwaga’r boced arall,” medde fo, gan newid ei afael o’r naill glust i’r llall. Wel, doedd dim i’w neud ond gwagu’r llall, a gosod y cnau efo’r lleill ar ei ddesc o, a gweiddi fel porchell mewn llidiard, o dan bob pinshed. Wedi eu gwagu nhw i gyd, doedd y bensel ddim yno chwaith. Wyddwn i ddim be i neud, o achos roeddwn i’n dechre gweled fod cnau’r pocedi erill, pocedi fy jeced, mewn peryg o fynd. A mynd ddaru nhw, nes bod un domen fawr o gnau ar ddesc y scŵl, ond wedi’r cwbwl doedd ene’r un bensel. Mi chwilies ac mi chwilies, a Joseph erbyn hyn yn gafael o’r tu ol imi yn fy nwy glust. Rhois fy llaw wedyn yn y boced yr oeddwn arfer cadw mhensel ynddi hi; tynnes y boced allan, ac er fy syndod, beth oedd yn y gwaelod ond twll, a rhaid bod y bensel wedi llithro trwy hwnnw. Pan welodd Joseph y twll, gollyngodd fy nghlustie. Rhaid oedd imi ddal fy nwylo wedyn a chael dau slap, ond nid cyn iddo fethu lawer gwaith, o achos, rydech chi’n gweld, naturiol iawn ydi i greadur dynnu ei law yn ol heb yn wybod iddo’i hun, pan y mae’r ffon yn dwad i lawr, a chodi pen glin y goes sydd ar yr un ochor â’r llaw honno yr un pryd. Mae’n rhaid eu bod nhw’n gweithio ar yr un llinyn, fel coese a breichie mwnci ar bric. Pheidies i ddim â gneud hynny chwaith, nes teimlo fod dyrnod mewn pen glin yn brifo mwy na dyrnod mewn llaw. Rhaid bod y llinyn wedi torri ar ol y dyrnod hwnnw, am na chododd fy mhen glin wedyn wrth i mi dynnu fy llaw i ffwrdd. Wedi i mi fynd i’m lle, dyma Joseph yn deyd gair wrth yr ysgol i gyd. Mae o’n fwy llym na’r scŵl. Mae nhw’n deyd ei fod o’n disgwyl cael mynd yn scŵl ei hun cyn bo hir. “Wel,” medde fo, “rydwi wedi deyd be fydde’r gosb os daliwn i rywun, a dyma fi wedi dal Edward Roberts.” (Roedd ganddo ryw lach arna i ers tro, rydwi’n siwr). “Y gosb ydi i mi lenwi mhocedi efo’r cnau yma, a thaflu’r gweddill allan i’r ffordd i bawb eu pigo nhw.” Trodd at y ddesc, llenwodd ddwy boced tu ol ei jeced, ac wrth gerdded yn ol a blaen yn yr ysgol y pnawn hwnnw, roedd o am y byd fel y llunie welsoch chi o ferched ers talwm iawn, pan oedden nhw’n gwisgo’r peth mae mam yn ei alw yn “bysl.” Bedwar o’r gloch, dyma ollwng y plant allan, a hel y baich cnau oedd ar y ddesc, a’u taflu nhw i gyd i’r ffordd, a Joseph yn sefyll yn nrws yr ysgol tan wenu, i edrych ar y bechgyn yn scramblo amdanyn nhw, a finne â mhwyse ar wal yr ysgol yn edrych,—minne hefyd yn gwenu, am fy mod i’n nabod y bechgyn yn well na Joseph. Wedi eu hel nhw i gyd, heb un ar ol, daeth Wmffre nghefnder ata i, a phob un o’r bechgyn ar ei ol o, a rhoisant yn ol imi fy nghnau i gyd, gan eu gwthio i mhocedi. Codes fy mhen i edrych ar Joseph, ac mi gwelwn o yn cau’r drws, ac yn mynd i mewn i’r ysgol. Dene’r pam fod Wmffre a minne wedi chware triwels[1] pnawn drannoeth. Mi wyddem na feiddie Joseph neud llawer inni, am ei fod wedi gweld na chai o mo’r bechgyn o’i blaid. Ond mi fase’n well i mi fynd i’r ysgol, beth bynnag am Wmffre. Aethom i’r ysgol bore drannoeth, heb feddwl o gwbl am y triwels yma, ac aeth popeth yn ei flaen fel arfer. I ffwrdd â ni i hel cnau wedyn—ganol dydd,—lond y ffordd o honom ni. Ymhen yr hwyr a’r rhawg, pan oedd Wmffre yn nhop y pren crabas, a minne’n eu dal nhw iddo fo, canodd cloch yr ysgol, ac am yr ysgol â ni am ein bywyd. Yn y man mi sylwes nad oedd Wmffre yno. Trois fy mhen, a dene lle roedd o’n ceisio tynnu ei jeced yn rhydd oddiwrth gangen y pren crabas. Doedd dim i’w neud ond mynd yn ol i’w helpio fo, a chymyd ein siawns wedyn efo Joseph. Cyn gynted ag y cyrhaeddes i yn ol at Wmffre, ac i’r bechgyn erill fynd o’r golwg, mi dynnodd ei hun yn rhydd yn rhwydd ddigon. “Ddoi di i hel crabas yn lle mynd i’r ysgol,” medde fo, “mae ene bren ardderchog wrth ein tŷ ni. Dydi nhad ddim gartre, ac mae mam wedi mynd i edrych am modryb Marged.” Gweles drwy’r bachu wrth y pren yn syth, ac heb ddeyd gair chwaneg, i ffwrdd â ni at Bont Styllod. Fuo ni ddim yno yr un hanner awr, nad oedd pob poced yn llawn, a chan fod swp mawr o gnau ar lawr, oedd wedi eu tynnu o’n pocedi ni, roeddem ni uwch ben ein digon. Wedi bwyta nes mynd bron yn sâl, a digon o amser wedyn ar ein dwylo, roedd yn anodd gwybod be i’w neud. Yng ngwaelod y cae yr oedd ceffyl newydd f’ewyrth John, un broc, un o’r rhai hardda welsoch chi rioed. Dyn od ydi f’ewyrth John, neiff o ddim deyd y drefn yn iawn wrthych chi, fel dyn, am neud drwg. Mynd yn gaclwm gwyllt mae o, ac wedyn torri ei galon, a hanner nadu, ac mae’n gâs gen i weled dyn yn torri ei galon. “Be ddyliet ti o fynd ar gefn y ceffyl acw, a ffogieth[2] tipyn arno ar draws y cae?” medde fi wrth Wmffre. Ac nid cynt y deydes i nad oedd Wmffre wedi taro ar gynllun i’w ddal o, a dyma’r cynllun,—mynd â llond desgil o India Mêl iddo, i Wmffre gymyd yr India Mêl, ac inni ein dau redeg ar ei ol nes ei gael i gornel, i mi wedyn fynd y tu ol iddo fo, rhag ofn iddo droi’n ei ol, ac i Wmffre fynd o’i flaen efo’r India Mêl, a gafael yn ei fwng pan fydde fo yn ei fwyta. Er chwilio a chwilio, fedre ni yn ein byw gael yr un ddesgil, na bwced na dim. Yr unig beth yn y golwg yn unman, a ddalie rywbeth felly, oedd het i f’ewyrth oedd y tu ol i’r drws yn y tŷ. “Ei het ore ydi hi, wyddost,” medde Wmffre; “ond hidia befo, mi cymerwn ni hi, fydd hi ddim yn anodd ei chnau hi wedyn.” Wedi llenwi’r het ag India Mêl, allan â ni i’r cae. Pan welodd y ceffyl ni, dyma fo’n dechre trotian i ffwrdd, a ninne ar ei ol, ac ar ei ol hyd nes bod y ceffyl yn twymno ati hi wrth redeg, a ninne’n chwys diferol. O’r diwedd cawsom ef i gornel, ac eis inne o’r tu ol iddo, gan feddwl cael gafael yn ei gynffon, os methai Wmffre gyrraedd y mwng. Cawsom lawer o hwyl ein dau wrth afael yng nghynffon Mejar, mul du’r Felin, ac ynte’n ein tynnu ni fel y gwynt ar draws y caeau a thrwy’r gwrychoedd a’r ffosydd. Ond mi spwyliodd Wmffre bethe efo’r ceffyl. Yn lle mynd yn dawel at ei ben o, gan gofio nad ydi ceffyl ddim arfer cael bwyd mewn het, rhedodd ato a dangosodd yr het yn sydyn o flaen ei drwyn, a rhaid bod y ceffyl wedi dychrynnu. “Wb!” medde fo, ac mi deimlwn fy hun mewn rhyw wlad ddiarth, rhwng twyll a gole, a rhwng twyll a gole y bu hi arna i’n hir. O’r diwedd mi oleuodd dipyn mwy, a’r peth cynta weles i oedd Wmffre efo llond yr het o ddŵr, yn golchi ngwyneb i. “Frifest ti’n arw, Nedw?” medde fo. “Brifo be?” medde finne, gan synnu be oedd Wmffre eisio yn y wlad honno. “Rwyt ti wedi cael cic ofnadwy yn dy foch,” medde fo. Teimles fy moch, ac yr oedd hi fel taswn i wedi cael tair neu beder dannodd yn syth ar ol ei gilydd. Roedd hi wedi chwyddo’n fawr ofnadwy, ac yn hongian. Codes ar fy nhraed, ond fedrwn i ddim sefyll. “Eistedd i lawr am dipyn,” medde Wmffre, “ac mi awn ni am dro bach wedyn; ond gad imi redeg â’r het yma’n ol yn gynta. Eidïa dda oedd y dŵr yma, mae’r het rwan yn hollol lân, ond mi ges drafferth i gael yr India Mêl ohoni hi.” Aeth Wmffre â’r het yn ei hol, ac am dro â ni. Doedd gennym ni ddim llawer o flas i hel cnau a chrabas. Toc, dyma ni at y tŷ, ac mi glywem ryw sŵn mawr pan yn nesu ato fo. Wedi dwad i’w olwg, be welem ni, ond f’ewyrth John ar garreg y drws yn dawnsio, ac wedyn yn torri i nadu a chrio, tan ddal ei het ore yn ei ddwylo, ac edrych i mewn iddi hi. A nadu o ddifri yr oedd o, ac nid nadu o fregedd. Wel, fedra i ddim dal gweled hen bobol yn nadu, ac mi gychwynnes adre, a rhag ofn styrbio f’ewyrth cyn iddo gael ei nadu allan yn iawn, fe ddaeth Wmffre i’m hebrwng i. Dydio ddim yn beth iach, medden nhw, rhwystro dyn i gael ei nadu allan yn iawn. Mi ddiolches lawer am y cic hwnnw. Arbedodd fi rhag ei chael hi wedi mynd adre, o achos roedd Miriam, fy chwaer, wedi deyd nad oeddwn i ddim yn yr ysgol y pnawn. Ac arbedodd fi yn yr ysgol drannoeth. “Edward Roberts,” medde Joseph yn y bore, “tyn y peth ene allan o dy gêg.” Roedd o’n meddwl mai llond fy moch o grabas, neu rywbeth felly, oedd yn gneud y chwydd, o achos tase’r chwydd yn chwydd dannodd, mi fase gen i wlanen goch am fy mhen, a hogle tyrpentein drostai i gyd; ond doedd gen i ddim byd felly. Dechre nadu ddaru mi beth bynnag, ac mi ffeindiodd Joseph fod rhywbeth mawr o’i le, am na fydda i byth yn nadu. Esboniodd Wmffre iddo fo mai wedi cael cic gan ceffyl oeddwn i, a chlywes i ddim chwaneg am y peth. Hwyrach fod cydwybod Joseph yn ei bigo fo am y cnau rheini. Mi edryches drwy mysedd ar het f’ewyrth ar yr hoel yn y capel dydd Sul, pan oedden nhw’n gweddio, ac roedd hi’n edrych yn dda iawn a chysidro. O! ia, mi anghofies ddeyd wrthych chi mod i wedi ffeindio fy mhensel yn fy hosan, wrth fynd i ngwely nosweth helynt y cnau. ----- [1] _Truant._ [2] Marchogaeth. II.—GNEUD ZEBRAS. Wedi i mi ac Wmffre fynd yn fawr, i Affrica yr yden ni’n mynd, i hela zebras. Er ein bod ni wedi ceisio gneud rhai yn y wlad yma, chawsom ni ddim rhyw lawer iawn o hwyl, am inni fethu dwad o hyd i’r oel iawn. Ardderchog o beth fase dal zebra, mae o’n medru rhedeg ynghynt nag unrhyw greadur arall. Mae o’n gyflymach hyd yn oed na mul bach, a ’does dim anifel yn ein gwlad ni cyn gyflymed a mul bach. Mae mul bach yn medru mynd ynghynt na’r trên, ac mi ddaru mul bach y Felin neud hynny hefyd, pan oedd nhad yn blentyn, medde fo. Hen ewyrth i Spargo fase’r mul hwnnw tase fo’n fyw. Wedi mynd ar y relwe yr oedd o, medde nhad, a dyma’r trên yn dwad, ac i ffwrdd â’r mul bach fel y gwynt o’i flaen o, ac mi fase wedi curo’r trên hefyd, onibae fod o’n mynd mor gyflym nes methu gweled pont y relwe. I honno yr aeth o, ac yr oedd wedi marw cyn i’r trên ei ddal. Wedi inni ddarllen am y zebras yma yn llyfre’r ysgol, doedd na byw na marw wedyn gan Wmffre na faswn i’n addo mynd efe fo i Affrica wedi i ni fynd yn fawr, a dal zebras a’u ffogieth nhw. Ond y mae llawer o amser tan awn ni’n fawr, ac y mae eisio llawer o arian i fynd i Affrica, hynny ydi, os nad oes gennych chi Jac-yn-y-bocs. Mi neiff hwnnw yn lle arian. Mae gen i Jac-yn-y-bocs, ond rhaid imi ei gadw rhag i Isaac ei dorri o. Fy mrawd ieuenga i ydi Isaac, peder oed ydio, ac y mae o’n torri popeth y caiff o afael arno. Mi wyddoch bedi Jac-yn-y-bocs. Wel, dene’r bocs yntê, ac ar y bocs mae ene fach, agorwch y bach, a whiw! dene’r caead i fyny, a chreadur bach penddu yn neidio allan ohono. Y gnethod sydd ag ofn Jac-yn-y-bocs arnyn nhw! Chlywsoch chi rioed fel y mae nhw’n gweiddi. Mi fu Wil Cae Du yn Affrica ddwyweth neu dair, a’r ail dro aeth â Jac-yn-y-bocs efo fo. Pobol dduon sydd yn Affrica, medde fo, run fath a’r rhai sy’n canu ac yn gneud gwynebe ar lan y môr yn yr ha, ac y mae nhw run fath a rheini mewn peth arall hefyd, medde fo, tyden nhw byth yn mynd i’r capel. Mae nhw’n meddwl mai Iesu Grist ydi lot o hen bethe bach fel Jac-yn-y-bocs, ac yn lle mynd i’r capel, medde Wil, mae nhw’n mynd ar eu glinie ac ar eu hyd ar lawr o flaen rheini. Ac fel yr ydech chi a finne’n ofni i Iesu Grist ein gweld ni’n gneud drwg, mae nhwthe yr un fath efo’r pethe yma,—y pethe yma ydi eu Iesu Grist nhw. Be ddaru Wil pan aeth o yno’r ail waith, ond mynd â Jac-yn-y-bocs efo fo, a hel y blacs yma at ei gilydd, ac agor y bocs yn sydyn o’u blaene nhw. Chlywsoch chi rotsiwn weiddi, medde fo. Wedyn mi osododd y bocs a Jac yn edrych dros ei fin, ar garreg, a deydodd wrthyn nhw, “gweithiwch chi rwan, y cnafon, rydwi’n gosod hwn i’ch gwylio chwi,” ac roedden nhw’n gweithio fel nigars trwy’r dydd, medde fo, a fynte’n cael cysgu’n dawel, a fo oedd yn cael yr arian am iddyn nhw weithio. Felly, does dim isio i chi fynd ag arian i Affrica, os bydd gennych chi Jac-yn-y-bocs. Wel, mae gen i Jac-yn-y-bocs, ac rydwi’n mynd i’w gadw fo tan awn ni i Affrica i ddal zebras, ac hwyrach y gwneiff y blacs yma eu dal nhw drosom ni. Fel y deydes i, mae llawer o amser tan hynny, tydi Wmffre na finne ddim wedi gadael ein hysgol na dechre shafio eto, ac mae’n rhaid gneud hynny cyn mynd i Affrica. Wedi meddwl am y pethe yma, a rhoi ein penne ynghyd, mi feddylies i hwyrach y medrem ni neud zebras. Anifeilied gwynion, fel mulod, a llinelle duon ar eu traws nhw, ydi zebras, medde llyfr yr ysgol, a mul gwyn ydi Spargo’r Felin. “Mi ddeyda iti be nawn i,” medde fi wrth Wmffre ryw bnawn Gwener, “mi ffeindies i hen dun hanner llawn o baent, mewn cornel yn stabal y _Crown_, ddiwrnod y cinio clwb. Mae o yno ers blynyddoedd yn siwr i ti, o achos roedd o wedi ’i guddio â gwê prŷ copyn, a does neb ei eisio, neu mi fase wedi mynd cyn hyn.” “Iawn,” medde Wmffre, “ond sut y cawn ni o oddiyno?” Y diwedd fu i Wmffre lwyddo i gael mynd i’r llan ar neges dros ei fam ddydd Sadwrn, drannoeth felly, a llwyddes inne i neud yr un peth, ac yr _oedd_ ein mame’n ein gweld yn fechgyn da’r Sadwrn hwnnw, o achos mae’n gâs gennym ni’n dau negesa. Rhyw waith geneth ydio rywsut. Doedd ene neb o gwmpas stabal y _Crown_, a dyma finne i mewn. Yno yr oedd y tun paent ynghanol hen gelfi, â llwch a gwê prŷ copyn drosto fo. Wedi mynd i’r Cae Cnau Daear, dyma chwilio’r tun, ac yr oedd o’n hanner llawn o baent, ond fod y paent bron wedi sychu. Rhoddodd Wmffre ei fys ynddo fo, “Neiff o mo’r tro,” medde fo, “paent gwyrdd ydi hwn, a marcie duon sydd gan zebra.” “Hidia befo,” medde finne, “does yma neb y ffordd yma wedi gweld zebra, a wyddan nhw ddim amgenach.” [Illustration: “SPARGO’N DAWNSIO.”] Ond be gaem ni i feddalu’r paent? Roedd o’n galed ac yn sych. Paraffin mae nhad yn ei iwsio, rydwi’n meddwl, ond nid ar neges i nol paraffin yr oeddem ni, neu mi fase popeth yn iawn. “Mi ddeyda iti be nawn ni,” medde Wmffre, “mae ene botel yn hanner llawn o naw-math-o-oel yn y stabal acw, a siawns na neiff un o’r naw math y tro, mi rown ni hwnnw arno fo. Wedi mynd â’n negese adre, mi gafodd Wmffre’r oel heb lawer o drafferth, a ffwrdd â ni i’w gymysgu, ac mi gymysgodd yn ardderchog. Doedd ene ddim brwsh yn unman, ond mi ddaeth Wmffre o hyd i ddarn o glwt, a dyma ni’n rhwymo’r clwt am ben pric, ac roedd o’n frwsh dan gamp dybygsem ni. Mi fuom drwy’r pnawn yn chwilio am Spargo’r Felin, a’r paent wedi’i guddio yng Nghae Cnau Daear, ond methu ddaru ni. Wedi methu dwad o hyd i Spargo, meddyliasom am ryw greadur gwyn arall. Y mae gan Wmffre wningen wen, ond doedd o ddim yn fodlon trio’r paent arni hi, hyd yn oed i edrych weithie fo. “Wyddost ti,” medde fi, “dene Gweno’r Fron, mae hi cyn wynned a’r galchen, ac mae’r gwartheg i gyd yn y Cae Pella.” Cae ymhell o olwg pawb ar gwr y Tyno ydi’r Cae Pella, â choed o’i gwmpas o. A buwch ddiniwed, lonydd, ydi Gweno. “Iawn,” medde Wmffre, ac yno â ni ar ol cael y paent a’r brwsh. Roedd Gweno’n pori ymysg y gwartheg erill, ond doedd hi ddim yn anodd ei chael i gornel ar ei phen ei hun. Fi oedd y brwshiwr ac Wmffre’n dal y paent a’r papur. Wedi rhoi’r rhês gynta mi welsom ein bod ni wedi rhoi gormod o baent. A doedd y brwsh ddim yn rhyw weithio’n dda iawn, roedd o’n codi gormod o baent, fel brwsh gwyngalchu, a’r paent dipyn yn dene, ond doedd mo’r help. Mi gawsom well hwyl ar yr ail rês. Gan fod y paent dipyn yn dene, rhedai’r diferion braidd ormod ar chwâl, ond pwy feder neud zebra’n berffaith, mwy na dim arall, y tro cynta, yntê? Yr oedd y drydedd rês yn well fyth. Efo’r gynffon a’r coese y cawsom ni’r drafferth fwya. Fedrem ni yn ein byw rwystro’r llinelle i redeg i’w gilydd. Doedd dim i’w neud ond rhannu’r fargen, a phaentio’r coese a’r gynffon i gyd yr un lliw. Erbyn hyn yr oedd Gweno’n dechre mynd yn anesmwyth, ac wedi inni orffen fasech chi ddim yn ei nabod hi. Yr oedd rhesi gwyrddion ar draws ei chefn, a’i hochre, a’i gwddf, a’i choese a’i chynffon yn wyrdd i gyd. Prin y cawsom ni roi’r brwshied ola arni nad oedd hi i ffwrdd ar garlam, ac yn troi a throsi, a dyrnu ei hun â’i chynffon. Gresyn oedd hynny, oherwydd does ene ddim llinelle croesion i zebra, a dene oedd y gynffon yn neud. Ond roedd ysbryd zebra’n dechre mynd iddi hi, roedd hynny’n glir, o achos welsoch chi rioed y fath brancio a rhedeg. A deyd y gwir, doeddem ni ddim, yn ddistaw bach felly, yn gweld rhyw lawer o debygrwydd ynddi i zebra wedi iddi fynd dipyn oddiwrthym ni, ac aethom ymhellach wedyn er mwyn cael golwg well arni hi. “Wmffre,” medde fi, “be wyt ti’n ei feddwl ohoni hi, ydi hi’n llwyddiant?” Tynnodd Wmffre’r darn papur o’i boced yr oeddem ni’n gweithio wrtho. Llun zebra oedd o, wedi ei gymyd o lyfr yr ysgol. Roedd y ddolen yn rhydd o’r blaen. Nid ni a’i torrodd hi allan. Edrychodd Wmffre’n fanwl ar y llun, ac wedyn yn hir ar Gweno. “Wel,” medde fo, “fedrai ddim deyd ei bod yn rhyw lwyddiant mawr, ond hidia befo, welodd pobol y ffordd yma rioed zebra, fel y deydest ti.” Aethom tuag at Gweno a’i chychwyn at y gwartheg erill, a hithe’n mynd dan brancio a neidio fel zebra iawn. Dene oedd llwyddiant mwya’r paentio. Ond pan welodd y gwartheg erill hi, chlywsoch chi rotsiwn beth. Roedden nhw’n beichio ac yn rhuo, ac amdani â nhw fel un gŵr. Ac mi fasen wedi ’i lladd hi yn siwr ddigon, onibae fod Gŵr y Fron wedi clywed y sŵn, ac wedi dwad yno o rywle. Roeddem ni’n dau ar fin mynd i geisio’i hachub o’u gafael ar y pryd, ond pan ddaeth Gŵr y Fron i’r golwg, mi welsom nad oedd mo’n heisio ni, ac i ffwrdd â ni. Mae’n rhaid fod zebra’n filen wrth wartheg yn Affrica, a nhwthe’n talu’n ol wedi ei gael o i’w gwlad eu hunen, fel mae adar yn ymosod ar ddylluan yn y dydd, ond hi ydi’r feistres yn y nos, yn ei hadeg ei hun. Roedd digon o baent yng ngweddill i neud dau neu dri o zebras erill, a dyma ni’n penderfynu ei gadw, rhag ofn y deuem ar draws Spargo’r Felin. Ac yn wir i chi, be welem ni, wedi dwad i’r ffordd fawr, ond Spargo’n pori’n dawel yn ochr y ffordd, gan lusgo’r drol ar ei ol yn aradeg. Ar y Gefnffordd yr oedd o. Hen ffordd gul â gwrychoedd uchel bob ochr iddi hi, ar odre’r mynydd, ymhell o’r llan, lle mae’r Jipjiwns yn aros, ydi’r Gefnffordd, a dim tŷ yn agos yno ond y “_Black Crow_.” Wrth gwrs, gwyddem mai yno roedd Gŵr y Felin, ac wedi unweth mynd yno na ddeue fo oddiyno’n hir. “Rwan amdani,” medde fi, “mi fydd Spargo’n zebra erbyn y daw’r hen ddyn allan, dawn i byth o’r fan yma.” A fase fo ddim llawer o anfantes i Spargo fod dipyn tebycach i zebra, o achos roedd o’n wahanol iawn i’w hen ewyrth. Fase Spargo byth yn rhedeg yn erbyn pont y relwe heb ei gweld hi, nid am ei fod o’n well am weld, ond am ei fod o’n salach rhedwr, hynny ydi, fedre fo redeg dim. Cawsom well hwyl ar Spargo, roedd practeisio ar Gweno wedi bod yn help inni, ac mi fasech yn ei gamgymeryd am zebra wedi inni orffen efo fo,—tase chi heb weld zebra o’r blaen. Y cwestiwn oedd ymhle i roi Spargo i sychu, ac yr oedd ynte’n dechre magu ysbryd zebra. Ac yn yr ysbryd hwnnw mi fase’n rhwbio ac yn cicio tasen ni’n ei rwymo. “Dyma nawn ni,” medde fi,—yr oedd yno lidiard fawr yn ymyl, llidiard y mynydd, ac mi welodd Wmffre’r cynllun cyn gynted a minne. Dyma ni’n gwthio breichie’r drol rhwng styllod y llidiard, ac yn rhoi Spargo yn ei ol ynddi yr ochor arall i’r llidiard, wedi ei chau hi. Yr oedd Spargo, felly, yn iawn yn y drol fel o’r blaen, ond fod y llidiard rhyngddo fo a’r drol. Fedre fo ddim symud oddiyno. Tase fo’n bacio, fedre fo neud dim ond bacio i’r llidiard, a tase fo’n tynnu, fedre fo ddim tynnu’r drol drwy’r llidiard. Fedre fo ddim mynd i’r ochre chwaith i rwbio. Ac yr oedd o erbyn hyn yn bur ysbrydol, fel zebra’n union. Dene lle roedd o felly i’r dim, yn aros i sychu. Toc, dyma sŵn traed yn dwad o’r pellter, a phwy oedd yn dwad ond yr hen Bitar Jones y Felin, wedi hanner meddwi, a doedd dim i’w neud ond cuddio. Safodd yn ymyl y drol ac edrychodd yn hurt arni. Wedyn edrychodd ar Spargo, a theimlodd y llidiard rhyngddyn nhw. Fedre fo mo’u gweld nhw’n glir iawn, yn enwedig Spargo, am ei bod yn dechre nosi, ac ynte fel roedd o. Crafodd ei ben, “a-wel, a-wel, a-wel,” medde fo’n gyflym efo phob crafiad, fel giar fynydd. “A-wel, a-wel,” mae gieir mynydd Cymreig yn ei ddeyd wyddoch, a “go-back, go-back,” a ddywed gieir mynydd Seisnig. Safodd Pitar Jones yn llonydd wedyn, a dechreuodd ail grafu ei ben, a finne â nwy law ar gêg Wmffre rhag iddo fethu dal, ac medde Pitar Jones, “A-wel, a-wel, yn eno—a-wel—, wel Spargo, sut doist ti fel hyn?” Agorodd y llidiard a gwthiodd drwyddi i’r ochor arall at Spargo, a Spargo’n dawnsio, heblaw bod yn rhesi gwyrddion, a’r ddau beth yn ei neud yn wahanol iawn i’r hen Spargo. “Wel, wel,” medde fo, “rwyt ti wedi dwad drwy’r llidiard yma fel ysbryd. Rhosa funud, bedi’r llinelle ’ma sy arnat ti?” ac edrychodd arnyn nhw’n fanwl. “Ow! annwyl,” medde fo tros y wlad, “ysbryd Spargo ydio!” ac i ffwrdd â fo am ei fywyd. Wedi i Wmffre a finne ddwad atom ein hunen, aethom i dynnu Spargo o’r ochor arall i’r llidiard, ond eyn inni fedru ei roi yn y drol, i ffwrdd â fo ar ol ei fistar fel y gwynt, gan adael y drol ar ol. Welsoch chi ddim tebycach i zebra yn eich oes, yn enwedig gan nad oedd hi ddim yn ole iawn ar y pryd. “Dydio’n rhyfedd,” medde fi wrth Wmffre, “fel y mae’r paent wedi rhoi ysbryd zebra yn y ddau, Gweno a Spargo, er na chawsom ni ddim gormod o hwyl ar eu paentio nhw.” Mi drychodd Wmffre arnai’n syn ac yn bryderus am dipyn. “Wyt ti’n siwr, Nedw,” medde fo, “nad y naw-math-o-oel sy’n eu smartio nhw?” Feddylies i ddim am yr agwedd ene i bethe, ond doedd dim i’w neud ond gobeithio’r gore, a mynd adre. Er i ni rwbio’n hunen ag ired, a gneud ein gore i dynnu’r paent oddiar ein dwylo, methodd Wmffre a fi ei dynnu’n ddigon llwyr, na’u bodloni nhw gartre yn ei gylch. Ymhen ychydig, daeth y stori allan, a chlywodd nhad ac ewyrth John. Wmffre a fi ydi’r ddau debyca i zebra yrwan, a rhesi duon sy ar ein cefne ni hefyd,—nid mor ddu a rhai zebras hwyrach,—glasddu yden nhw. Wnawn ni byth gymysgu paent efo naw-math-o-oel eto. Wmffre oedd yn ei le. Yr oedd Spargo cyn llonydded ag erioed erbyn dydd Llun. Ond y gwaetha ydi fod y paent wedi rhedeg dros Gweno a Spargo i gyd, yn lle aros yn llinelle, a fase fo ddim yn gneud hynny dase fo’n oel iawn. Ond rhoswch chi nes inni fynd i Affrica ar ol tyfu’n fawr. III.—ANTI LAURA. “Edward,” medde mam, ryw fin nos, wrth nhad, “ydech chi’n meddwl bod y sciarlet ffefar yn gatshin?” Eistedd wrth y tân yr oedd nhad ar y pryd yn darllen yr Esboniad tan gau ei lygid, ac yn cyd-weld â popeth a ddarllennai, a barnu oddiwrth ei waith yn nodio. Ac eistedd wrth y tân, yn syllu iddo, yr oedd mam, ac Isaac yn cysgu ar ei glin, a minne’n gneud blaen ar bensel blwm, ac yn ceisio cuddio’r hollt oedd yn gwaedu yn fy mys i, a wnaed pan slipiodd y gylleth, neu ei cholli hi faswn i. “Yn gatshin?” medde nhad, pan sensiodd o fod mam yn siarad, “ydi, debyg iawn. Be wnaeth i chi feddwl?” “Wel,” medde mam, “dene’r ysgol wedi cau, a hyd yn oed Wmffre dani hi, ac mae o’n gryfach o lawer na Nedw ac Isaac bach.” “Wel,” medde nhad, “os ydi hi i ddwad, mi ddaw, a does dim i’w neud ond ei chymyd hi.” “Dydi hi ddim yn y dre,” medde mam. “Nagydi,” medde nhad, “ond pa help sydd yn hynny?” “Hyn,” medde mam, dan grafu ei chlust â phin wallt. A phan wna mam hynny, mae o’n arwydd bob amser ei bod o ddifri. “Mae Laura ’n chwaer-yng-nghyfreth yn byw yno, a braidd yn unig â James oddicartre. Ac roeddwn i’n meddwl y base Nedw ac Isaac yn cael mynd yno am bythefnos, ac Annie’n cael mynd i dŷ Leisa fy chwaer.” “Yr argen fawr!” medde nhad, “Laura! Feder honno roi dim bwyd o’u blaene nhw ond tunie salmon, a chacenne ceiniog. Mi fyddan wedi llwgu, neu wedi marw o’r beil, cyn pen hanner yr amser.” Yr oeddwn i wedi moeli nghlustie ers meityn, ac Isaac wedi deffro. Ac o’r diwedd, wedi i ni ein dau ddangos fel yr oedd arnom ni ofn y sciarlet ffefar, cydsyniodd nhad. Ond nhad oedd yn iawn. Mi fase’n well gen i erbyn hyn taswn i wedi aros gartre i gael y sciarlet ffefar, yn lle cael Anti Laura, a’r sciarlet ffefar. “Pryd cawn ni fynd?” medde fi wrth mam. “Dydd Llun,” medde mam. Ac yr oedd hi yrwan yn nos Iau. Roedd tipyn o amser i aros, ond fase fo ddim llawer onibae am Isaac. Peder oed ydio, ac mae’n amhosibl stwffio dim i’w ben. Ac yr oedd arno eisio cychwyn bob yn ail munud. Bore drannoeth dyma fo ata i, a gofyn pryd yr oeddem ni’n mynd i dŷ Anti Laura. “Yr wythnos nesa,” medde fi. Ac i ffwrdd â fo. Dyma fo yn ei ol cyn pen pum munud, ac yn gofyn,— “Nedw, ai heddyw ydi’r wsnos nesa?” “Nage,” medde fi, “mae eisio cysgu dair gwaith eto.” Ac i ffwrdd â fo wedyn. Tuag amser cinio roedd o ar goll, ac mi fuom yn edrych trwy’r pnawn amdano fo. Tua phedwar o’r gloch aeth mam i’r llofft, a dene lle roedd Isaac yn ei wely yn ei ddillad. Neidiodd mam iddo fo, a deffrodd. A’r peth cynta ofynnodd oedd, sawl gwaith oedd eisio cysgu wedyn cyn mynd i dŷ Anti Laura, gan ei fod o wedi cysgu un ohonyn nhw yn barod. Rhywbeth fel ene gefes i tan amser cychwyn. Mi fase’r sciarlet ffefar yn well na’i holi o. A phnawn Sul mi ddaeth i’r pen arna i. “Pryd yden ni’n mynd, Nedw?” medde Isaac. “Fory,” medde fi. “Ddoe,” medde Isaac. “Nage,” medde fi, “fory.” “Wel, ddoe ydi fory,” medde Isaac. Ac fel hyn yr oedd o tra buom ni yn nhŷ Anti Laura. Pnawn Sadwrn, deydodd mam wrth nhad,— “Mae’n siwr, Edward, fel y deydsoch chi, na chân’ nhw fawr o drefn ar fwyd yno. Feder Laura druan neud fawr o ddim ond dyrnu’r hen biana hwnnw. Be dasen ni’n anfon gwningen a giar iddi hi, a thipyn o wye? Dase’r bechgyn yn mynd â’r wningen efo nhw, ac inni anfon yr iâr erbyn y Sul.” Aeth nhad allan, a chyn bo hir roedd o’n ol efo gwningen. O’r diwedd dyma fore Llun yn dwad. Sôn am Wmffre yn sâl! Ynghanol y fath blagio mi newidiwn ddau le efo fo yn y funud. Efo John Roberts y cigydd roedden ni’n mynd, ac Isaac yn holi a thaeru fel melin bob cam o’r ffordd. Wedi cyrraedd tŷ Anti Laura, fase’r brenin ddim yn disgwyl croeso gwell. Mi cusannodd, ac mi cusannodd ni. Dase ni wedi cael cymin o fwyd tra buom ni yno ag o gusanne, mi fasem wedi pesgi nes methu symud. Ond feder neb dwchu rhyw lawer ar gusanne. A dene ni at y bwrdd. Wyddem ni ddim sut i ddechre bwyta, ac yr oedd Isaac yn cyrraedd at bopeth ar unweth. Rhywbeth gwyn fel pwdin yn trio sefyll ar ei ben, a rhywbeth arall yn edrych reit neis, ond yn wag yn ei ganol wedi i chi roi’ch dannedd ynddo fo, oedd y pethe pwysica. Cododd Isaac a finne oddiwrth y bwrdd heb gael hanner digon. Mi gawsom enwe newydd hefyd i’n dau gan Anti Laura tra y buom ni yno. “Mai Diar,” oedd fy enw i, “Chubby” oedd enw Isaac. Doedd Isaac ddim yn cymyd at ei enw newydd am dipyn, ond fu o ddim yn hir cyn arfer â fo. “Nedw,” medde Isaac wrth i ni fynd i’n gwlâu, “roedd y pethe ene yn dda, ond Isaac eisio bwyd eto. Fase fo yn leicio cael lot fel hyn,”—dan ddangos siâp mynydd o’r peth gwyn hwnnw. Ac mi feddylies am Wmffre a fi un tro yn lle ein tade yn y cinio clwb. Fel arall roedd hi yno. Wedi bwyta nes methu symud dyma Wmffre’n deyd, “Wyddost ti be, Nedw, mi faswn yn leicio taswn i’n ddafad.” “Yn ddafad?” medde fi, “i be?” “Mae gan ddafad beder stymog,” medde Wmffre. Ac mi weles drwy’r peth yn syth. Ar ol tê, dyma fi’n dangos y wningen a’r wye i Anti Laura, a hithe yn gafael amdana i wedyn, ac yn fy nghusannu nes imi deimlo reit wan, gan ei bod hi’n gwasgu fy stymog i, a finne newydd fwyta’r peth gwag hwnnw. Bore drannoeth, wedi inni godi a chael brecwest o rywbeth â rhyw siort o jam arno—chawsom ni rioed jam i frecwest o’r blaen,—aethom allan i chware. Toc, dyma Anti Laura’n bloeddio arna i, a chrec yn ei llais. Mi redes i mewn, a dene lle roedd hi’n edrych yn syn ar y wningen. “Mai Diar,” medde hi, “sut ma mam chi’n cwcio hwn?” “Mae eisio ei blingo hi yn gynta,” medde fi. “Blingo!” medde hi, “What is ‘blingo?’” Wel dydi bachgen deg oed, wedi byw ar hyd ei oes dan gysgod Coed y Plas, ddim heb wybod be ydi blingo gwningen. Gofynes am fenthyg cylleth, a chyn pen chwincied roedd ei chroen hi i ffwrdd, a hithe’n barod i’w stiwio. Dase gen i gyrn ar fy mhen, fase raid i Anti Laura ddim edrych yn rhyfeddach arna i. Oddiarna i edrychodd ar y wningen. “Tydio’n tebyg,” medde hi toc, “i babi bach newydd cael bath poeth?” Ac eis i allan at Isaac. Roedd yn dda mod i wedi mynd. Roedd o’n trio gneud yr un peth i’r gath ag a wnes i i’r wningen, nes imi ei argyhoeddi na fedre fo ddim, am fod y gath yn fyw. Ond wydde Isaac mo’r gwahaniaeth rhwng peth byw a pheth marw, er iddo holi tua mil o gwestiynne ynghylch hynny. Rhwng helpio Anti Laura ac edrych ar ol Isaac, roeddwn i cyn boethed a dase’r sciarlet ffefar arna i. Toc, tawelodd pethe, a finne ac Isaac yn chware reit glên. Yn y man mi glywn yr hogle rhyfedda’n dwad o’r tŷ, a rhedes i mewn. Dene lle’r oedd Anti Laura’n pilio tatws, a’r wningen yn ffrïo ar y tân. “Wel, Anti Laura,” medde fi, “nid ffrïo gwningen y mae nhw, ond ei stiwio hi. Fase waeth i chi geisio ffrïo pen dafad yr un llychyn.” “Bedi stiwio?” medde Anti. Wyddwn i ddim be oedd y gair Saesneg am stiwio, ac mi ddeydes wrth hi mai gair mam am ferwi oedd o. Mi gawsom wningen i ginio wedi hanner ffrïo a hanner ferwi. Reit da hefyd ar y cyfan. ’Doedd gan Anti Laura ddim âm[3] at gwcio. Ac mi gafodd Isaac a fi hefyd chware newydd i fynd hefo ni adre—chware Anti Laura’n golchi’r llawr oedd hwnnw. Mae hi’n picio o gwmpas o un lle i’r llall, fel ceiliog rhedyn, ac yn rhwbio tipyn ar bob smotyn y disgyn hi arno. Chwerthodd Wmffre gymint wrth ein gweld ni, nes iddo fendio’n iawn oddiwrth y sciarlet ffefar, ac ynte wedi penderfynu hefyd bod yn sâl o dani am fis. Ac yr oedd gan Anti Laura ddull da i olchi’r llestri. ’Doedd hi ddim yn cadw morwyn, er y basech yn disgwyl i un fel hi neud, ond cadwai gath. Wedi gorffen pryd bwyd roedd hi’n rhoi’r platie i’r gath eu llyfu nhw, ac wedi eu dipio mewn dŵr a’u sychu â’r llian, dene nhw i’r dim. Dene’r ffordd glenia weles i rioed. A’r peth cynta wnes i ar ol mynd adre a deyd y stori wrth mam, oedd ei chynghori i gadw cath. A barnu ar olwg mam, mi fase pob cath yn deifio dano fo, fel gwlydd tatws dan farrug. Oddiar gathod, fel ene, mae plant yn cael y sciarlet ffefar a’r dipitheria, medde nhad. Rhwng dull Anti o olchi’r llawr, golchi’r llestri, a chwcio, mi welsom lawer o bethe newydd spon. Ymhen diwrnod neu ddau daeth yr iâr. Gan na fedre Anti ddim blingo gwningen, mi feddylies y base hi’n gofyn am fy help i bluo’r iâr, ond ddaru hi ddim. Ac eis i ac Isaac i chware, ond heb fynd o gyrraedd galw. Toc mi glywn Anti yn rhyw grio-nadu, ac mi redes i’r tŷ. Dene lle roedd hi â’i dwylo’n waed ac yn blu i gyd, yn eistedd wrth y tân yn crio. Mi edryches yn syn arni hi. Pan ddaeth ati ei hun,—“Mai Diar,” medde hi, “neith y giar ddim blingo.” “Blingo bybê?” medde fi. A dene hi â fi i’r bwtri. Welsoch chi rotsiwn beth. Roedd croen yr iâr yn ddarne fel tase hi wedi ei rhidyllio, a’i phlu’n rhidens ynghanol gwaed a strel. “Be fuoch chi’n neud, Anti?” medde fi. “Trio blingo fo,” medde Anti. “Blingo giâr!” medde fi. Mi anghofies ar y funud mai ag Anti yr oeddwn i’n siarad. Gwnes y gore o’r gwaetha ac mi roddes yr iâr iddi. Ond fy ngwendid fy hun a orffennodd bethe. “Mai Diar,” medde Anti, “faint mae isio i’r iâr ffrïo?” “Ffrïo giâr!” medde fi. Mi welwn mod i wedi ei digio wrth ddeyd hynny, ac mi eis allan am dro. Toc, mi waeddodd wedyn. “Mai Diar,” medde hi, “faint mae isio i giâr ’ma berwi?” Mi welwn mai potes giâr oedden ni’n mynd i gael. Mae’n well gen i iâr wedi ei rhostio, ond rhaid oedd bodloni. “Dwy awr,” medde fi. “Fi isio mynd i siop,” medde hi, “a rhoi giâr ar y tân cyn cychwyn. Ti aros yn tŷ i edrych tan hi berwi, a rhoi ar papur pryd y mae hi dechre, a ti mynd i chware wedyn, a mi yn ol cyn pen dwy awr.” Aeth Anti Laura i’r siop, a minne’n aros yn y tŷ, ac Isaac yn fy myddaru i eisio gwybod pa bryd yr oeddem ni’n mynd adre. “Mae’r sciarlet ffefar gartre,” medde fi, i’w gysuro fo. “Neith o frathu?” medde Isaac. “Gneiff, ein bwyta ni’n fyw,” medde fi. Meddwl am ei dawelu yr oeddwn i, ond dyma fo’n beichio crio, ac yn deyd y base’r sciarlet ffefar yn bwyta nhad a mam. Roedd yn hwyr gen i weld yr hen iâr yma’n dechre berwi, gael i mi fynd â fo allan. Mi sgwenes ar bapur,—“Mae hi’n dechre berwi rwan.” Ymhen yr hwyr a’r rhawg dyma ni yn ol. Roedd Anti Laura yn y tŷ, yn edrych yn syn ar y sospon, a hwnnw’n dechre cochi yn ei waelod. “Mai Diar,” medde hi, “ti dim deyd pryd y giâr yma dechre berwi, a mi ddim yn gwybod pryd i’w tynnu o.” “Ffrïo mae hi rwan beth bynnag,” medde fi, gan gipio’r sospon oddiar y tân, oedd wedi sychu’n lân, a’r iâr yn grimstin y tu fewn iddo. “Ti dim deyd pryd hi dechre berwi,” medde hi. “Do,” medde finne, ond wedi edrych ar y papur mi weles fy nghamgymeriad. Wrth weld Isaac yn crio, a minne’n welw, mae’n debyg,—“Hidiwch befo,” medde hi, “Mi wedi dwad â tun corn bîff, ni cael hwnnw i cinio a swper. A wedi swper, canu wedyn. Mai Diar, canu i Anti Laura.” Wel, fedrai ddim canu, ac mi spwyliodd hynny weddill y diwrnod i mi. Cawsom y corn bîff, a chacenne mae nhad yn alw yn gacenne gwynt a dim. Wedi i’r gath olchi’r llestri swper, aeth Anti â ni at y piano. Mi gafodd Isaac ei ddyrnu o am dipyn, er mwyn ei dawelu. A dene Anti’n dechre. Chlywsoch chi rotsiwn beth, mor ardderchog oedd hi. Roedd dawnsio’n rhedeg i lawr eich asgwrn cefn, fel dŵr oer, ac i’ch sodle er eich gwaetha. “Mai Diar,” medde hi, “chi canu.” “Fedrai ddim,” medde fi. “Medrwch, medrwch,” medde hi, tan fy nghusannu, “pawb yn medru canu.” Fedrwn i ddim ond “Tôn y Botel,” a honno ddim ond ar un gân.[4] Mae Tomos y Felin wedi ei dysgu i ni ar “Llanfairpwyllgwyngyll.” Mi ofynnes i Tomos ei rhoi i lawr i mi, a dyma hi:— {| l_{1} :l_{1} _{‘}t_{1} _{‘}d |t1 :l_{1} |t_{1} :t_{1} _{‘}d _{‘}r |d .,t_{1} :l_{1} } Llan - fair-pwll gwyn-gyll - go - gerychwyrn-dro - bwll - {| m :r _{‘}m _{‘}f |m .,r :d |r .,d :t_{1} |l_{1} :- |} Llan - ty - sil - io - go - go - goch. Ac mi wyddwn fod “Tôn y Botel” yn mynd ar “Gosod babell yng ngwlad Gosen.” Ond sut i gysylltu Llanfairpwyllgwyngyll â Gwlad Gosen oedd y gamp, gan na fedrwn i ddechre “Tôn y Botel” ond ar y geiriau “Llanfairpwyllgwyngyll.” Y gamp oedd medru dechre efo “Llanfair” a neidio ar y canol i “Wlad Gosen.” “Rwan,” medde Anti. Mi ddechreues, ac yn wir i chi, mi lwyddes. Fel hyn y gwnes i, dechre canu “Tôn y Botel” trwy fy nannedd ar “Llanfairpwyllgwyngyll,” a phan deimles fy nhraed dana, neidies i’r dim ar “Wlad Gosen,” ac agores fy ngenau a chanu ymlaen. Mae’r llythrenne mân yma’n tybio canu trwy ddannedd:— {| l_{1} :l_{1} _{'}t_{1} _{'}d |t_{1} :l_{1} |t_{1} :t_{1} _{'}d _{'}r |d .,t_{1} :l_{1} |} Llan - fair-pwll-gwyn-gyll, yng ngwlad Gos - en. Ac felly ymlaen. Doedd dim diwedd ar waith Anti’n canmol a chusannu, a doedd na byw na marw na chanwn i wedyn. Ond gan fy mod yn gwrthod, roedd yn rhaid i mi addo canu nos drannoeth. Ac roeddwn i’n ofni hynny. Fel Mr. Williams y gweinidog yn dwad heibio acw efo’r saethwrs un diwrnod. Doedd o ’rioed wedi gafael mewn gwn o’r blaen. Cododd gwningen, taniodd Mr. Williams, a tharodd hi’n farw. Roedd pawb yn mynnu ei fod o’n hen saethwr, ac ynte’n chwyddo, ond ei gamgymeriad oedd trio wedyn. A dene ofnwn inne os canwn i wedyn. Fel roedd pethe’n bod doedd dim dal ar Isaac eisio mynd adre drannoeth, a’r diwrnod hwnnw oedd diwrnod marchnad y dre, a’r cerbyde’n rhedeg yno. A gyrrodd Anti ni adre efo’r cerbyde. Pan ddeydes i ’r hanes wrth mam,—“does ryfedd fod James, druan, wedi torri ei galon, ac wedi mynd i’r Sowth i weithio,” medde hi. O dan y Sciarlet Ffefar y mae Isaac yrwan, a finne’n disgwyl yn dawel amdani. Fydd hi ddim gwaeth nag Anti Laura. Ac eto dydwi ddim yn siwr, o achos roedd hi’n glên iawn yn ei ffordd. ----- [3] _No aim_,—dim amcan. [4] Er tegwch â Thomos y Felin, dylwn ddywedyd hyn rhag ei gyhuddo o ladrad. Cyhoeddwyd hanes “Anti Laura” gyntaf yn y “Winllan” am fis Ebrill. Yr haf wedyn cenid “Tôn y Botel” ar y geiriau “Llanfairpwllgwyngyll” yn y seremoni gapio yn un o’n colegau prifysgol. Gresyn a fuasai cyhuddo Tomos ar gam o ladrata ’r drychfeddwl. IV.—MESUR TIR. Y peth mae nhw’n alw’n llabwst ydi Jona’r Teiliwr. Wn i ddim pa grefft ydi honno, ond rydwi’n siwr ei bod hi’n un ddifyr iawn, o achos byd braf iawn ydi byd Jona. Anamal y mae o’n gneud dim ond gwagsymera, a dydi honno, fel y gwyddoch chi, ddim yn grefft anodd iawn i’w dysgu. Rydwi’n siwr o hyn, nad ydio ddim yn deiliwr. Rhyw enw ar y teulu, rywsut, ydi teiliwr. Mae nhw’n galw bachgen ei chwaer o, sydd flynyddoedd iau na fi, yn Robin y Teiliwr, a dydwi ddim yn siwr y gŵyr o’n iawn bedi nodwydd, a barnu oddiwrth ei ddillad o. Mae’n hawdd coelio fod Robin yn credu mewn awyr iach, o achos mae digon o dylle yn ei ddillad i awyr redeg drwyddynt. Un cyfleus iawn ydi Jona i fechgyn. O ran oed, mae o’n edrych yn rhywbeth tebyg i nhad, ac eto mae’n gas ganddo bobol mewn oed. Mae o wastad efo ni y bechgyn, ac yn lladd ar yr hen bobol, ac yn adrodd eu tricie nhw. Felly, trwyddo fo, ryden ni’n dwad i wybod sut rai ydi’r bobol yma sydd bob amser yn deyd wrthym ni fod pawb yn dda ond plant. Ac y mae gan Jona ddigon o amser ar ei ddwylo bob tro y mae Wmffre neu fi yn pasio. Byw ei hun y mae o, ac wastad ar ben y drws yn aros am ymgom efo rhywun sy’n pasio. Hwyrach mai ’r rheswm mai gwagsymera mae o wedi ei ddewis fel gwaith ei fywyd ydi am ei fod o’n gloff. Rhyw hongol o beth ydio, yn hercian cerdded pan fydd o’n mynd i rywle. Ac yr oedd Wmffre a fi efo fo pan aeth o’n gloff. Mynd ar neges oeddwn i, i nol tatws at y Sul, ac Wmffre i nol paraffin. Pwy welem ni’n dwad yn wyllt i’n cyfarfod ni, mor wyllt ag y meder dyn efo traed clwb, â lli yn ei law, ond Jona. “Fechgyn,” medde fo, “dowch efo mi i weithio i Mistar Huws, Plas Isa.” Ac i ffwrdd â ni, heb hyd yn oed ofyn pa siort o waith oedd o. Mae’n ymddangos mai mynd i lifio coed oedd gwaith Jona, a ffwrdd â ni i’r Tyno, at yr hen dderwen. Mae ene dwll yn y dderwen ddigon maint i mi ac Wmffre a dau arall fynd i mewn, ac yno ryden ni’n berwi dŵr i neud tê yn yr ha. Pan aethom ni at y dderwen, dangosodd Jona gangen inni. “Mae eisio honacw i lawr,” medde fo. Mi daflodd raff dros dop y gangen, wedi rhwymo un pen am ei ganol, ac ene Wmffre a finne’n tynnu yn y pen arall, i’w helpio i ddringo. O’r diwedd, eisteddodd ar y gangen, a dechreuodd lifio. Cyn bo hir mi ddarun sylwi ei fod o’n llifio’r gangen rhyngddo a’r pren. Ddaru ni ddeyd dim, o achos ein bod yn meddwl y base fo’n gweld ei fistêc yn ddigon buan. A mwy na hynny, dydio ddim yn beth priodol i blant gynghori dyn mewn oed. Dal i lifio yr oedd Jona o hyd, a chael hwyl ar y gwaith. Pan ddechreuodd y gangen ysgwyd, roedd o’n chwerthin nes oedd o’n sâl, ac yn ein gwahodd ninne i fyny i swingio efo fo. Ond fedrem ni yn ein byw ddim peidio â chwerthin wrth weld Jona’n chwerthin. Dene glec! ac i lawr â’r gangen,—a Jona. Ddaeth y gangen ddim yn hollol rydd oddiwrth y pren. Yr oedd hi’n hongian gerfydd ei gwrisg. Ond mi ddaeth Jona’n rhydd oddiwrth y gangen, a bowliodd fel pêl am lathenni. Doedd dim i’w neud ond rhedeg am ein bywyd i ddeyd wrth Mistar Huws, Plas Isa. Roedd Jona wedi torri ei goes, a bu’n gorwedd yn hir, ac y mae o ac Wmffre a finne’n ffrindie fel dur byth wedyn, am i ni fod mor barod i redeg i nol help. Wedi iddo fo fendio, mi heliodd yr ardal dipyn o arian i’w helpio, drwy neud consart iddo fo. Roeddwn i’n digwydd pasio newydd iddo gael yr arian, ac medde fo, “Nedw, wyddost ti be ydwi’n mynd i brynu efo’r pres yma,—mashîn neud cywion, a’u magu nhw yn y cae y tu ol i’r tŷ.” Doeddwn i rioed wedi clywed am fashîn neud cywion o’r blaen, ac mi sboniodd Jona i mi. Rydech chi’n rhoi peth wmbredd o wye yn y mashîn yma, ac yn troi handlen, a beth sy’n dwad allan yr ochr arall ond cywion. Aeth Jona i ffwrdd yn ddistaw bach un diwrnod, a daeth yn ol efo’r mashîn. Bu’n casglu wye am ddyddie, ond roedd ei stori o’n wahanol ar ol dwad yn ol efo’r mashîn. Mae’n ymddangos nad drwy droi handlen yr ydech chi’n cael y cywion, ond drwy ryw ffordd arall. Ryw ddiwrnod mi glywn floeddio ofnadsen y tu allan i’n tŷ ni cyn i mi godi, a hynny arna i. Pwy oedd yno ond Jona, a phen eis i’r ffenest,—“Nedw,” medde fo, “mae acw gyw, ac un arall â’i ben drwy’r plisgyn.” I ffwrdd â mi i alw am Wmffre ynghynt na chynted gallwn i, ac ar ol Jona. Yn wir i chi, roedd yno gyw a hanner yno. Ond yr oedd Jona mewn helynt. Doedd o ddim wedi meddwl cael bwyd ar eu cyfer nhw. Ac i ffwrdd â mi am fwyd. Roedd Wmffre wedi ei syfrdanu ormod i fedru symud. Pan ddois i yn fy ol, roedd hi’n hwyr lâs i fynd i’r ysgol. A’i chael hi ddaru ni hefyd am fod yn hwyr, ond roedden ni’n barod am hynny, ac yn well allan na’r bechgyn erill wedyn,—doedd yr un ohonyn nhw rioed wedi gweld mashîn neud cywion. Ond marw ddaru pob cyw i Jona druan, er ei fod o wedi cael cannoedd. Ar ol eu cael nhw, wydde fo ar wyneb y ddaear be i neud hefo nhw, o achos er i chi fedru gneud cywion mewn mashîn, rhaid i chi gael gieir i’w magu nhw. Newidiodd Jona’r mashîn am fochyn. A magu mochyn yn y cae y tu ol i’r tŷ y bu o wedyn. A’r cae bach y tu ol i’r tŷ ydi popeth Jona. “Y ffarm acw,” y mae o ’n ei alw, a’r “pethe” y geilw’r mochyn. Ac am y ffarm a’r pethe y mae o’n sôn fyth a hefyd, ond pan fydd o’n sôn am y senedd. Mae o wastad yn gofyn i Wmffre a fi, be sy’n mynd ymlaen yn y senedd. Rhoi bwyd i’r pethe y geilw roi bwyd i’r mochyn. Un nosweth daeth tad Wmffre i’n tŷ ni am dro, ac Wmffre hefo fo. Aethom ni i’n dau i chware gwadnu’r gath. Mae hi’n ddigon hawdd gwneud hynny, os oes gennych chi flisg cnau ffreinig. Raid i chi ddim ond rhoi tipyn o gliw ar y blisg, a rhoi hanner plisgyn ar bob un o draed y gath. Mae hi’n dawnsio wedyn, y difyrra peth welsoch chi rioed. Pan ar ganol y chware, clywes i nhad yn sôn rhywbeth am y senedd. Mi wrandewes yn syth. “Be feddyliech o’r mesur tir newydd sy gerbron y senedd?” medde nhad wrth f’ewyrth. Doedd yr hanes ddim yn rhyw ddifyr iawn, a dyma orffen gwadnu’r gath. Wrth ddwad o’r ysgol drannoeth, pwy oedd ar ben y drws ond Jona. Dyma fo i lawr i’n cyfarfod ni, o achos mae’r tŷ dipyn o’r ffordd. Wedi adrodd hanes y mochyn,—“Sut y mae hi’n dwad ymlaen yn y senedd, fechgyn?” medde fo. “Pasio i fesur tir mae nhw,” medde finne. “Mesur tir!” medde Jona, “yden nhw’n meddwl mesur y ffarm yma?” “Mae nhw’n mynd i fesur pob tir,” medde finne. “Byth!” medde fo. “Mi fydd y fforch acw trwy’r cynta rydd ei droed ar fy nhir i i’w fesur o.” Ac estynodd ei fys at y fforch. O hyd ar ol hynny, am y mesur tir yma y mynnai sôn. Cyn bo hir mi gwelem o ’n mynd â llwyth o ddrain i gau’r adwye, a phlethu drain drwy’r llidiard, ac ni chawsom fawr o ymgom â fo am ddyddie. Ryw fin nos roedd ene lot ohonom ni efo’i gilydd, yn methu gwybod beth i’w neud. Roedd cyfnod y marbls wedi darfod, a chyfnod y pegi heb ddechre. “Wyddoch chi be nawn ni?” medde fi,—“Mynd i fesur tir Jona’r Teiliwr.” Mi ddeydes hanes y mesur tir oedd gerbron y senedd wrthyn nhw, ac yr oedd pawb yn barod, o achos mi fase’n fantes i Jona wybod mesur ei dir o flaen llaw, rhag ofn i’r llywodraeth ei dwyllo. Rhaid er hynny oedd taro ar gynllun i’w fesur o heb i Jona wybod ar unweth. Roedd cartre Wmffre yn rhy bell iddo redeg i nol het ore’i dad, ac mi eis i i lofft ein tŷ ni i nôl benthyg hen het silc taid, sydd acw rioed, a spectols nhad. Aeth Jac y Gelli i nôl benthyg côt a throwsus ei frawd hyna, a thâp mesur ei fam, o achos dresmecar ydi hi. Wedi cael y pethe hyn a thipyn chwaneg gan y bechgyn erill, dyma gychwyn. Aeth pawb ond fi at gae Jona. Eis i am ymgom at Jona ei hun. Mi fase’n biti inni fesur ei dir heb i Jona wybod hynny, ac hefyd mi fase’n biti iddo fo gael gwybod yn rhy fuan. Gan Wmffre yr oedd yr het silc a’r spectol. “Jona,” medde fi toc, “mae’r mesur tir wedi dwad, mi weles ryw fyddigions yn ei gneud hi am eich cae chi gynne.” Aeth Jona cyn wynned a’r galchen. “Bybê?” medde fo, a rhuthrodd i ddrws y cefn. Dene lle roedden nhw. Mae’n ymddangos eu bod nhw wedi darfod mesur y cae, o achos ar ganol mesur y mochyn oedd yn y cae yr oedden nhw ar y pryd. Neidiodd Jona i ben y clawdd, a dechreuodd weiddi a chau ei ddyrne. Cododd y mesurwyr tir eu penne ’n hamddenol. Rhoddodd Wmffre ei bensel yn ei glust, cymerodd afael yn y tâp mesur, a daliodd ef rhyngddo a Jona, fel tase fo’n mynd i fesur Jona hefyd. Neidiodd Jona i lawr oddiar ben y clawdd,— “Mae gen inne ddynion yn trin cwils[5] yn y dre ene,” medde fo, ac i lawr y ffordd â fo fel yr oedd i gyfeiriad y dre fel mellten. Erbyn hyn yr oedd popeth oedd i’w fesur wedi ei fesur. Doedd dim bellach i’w neud ond cuddio’r pethe dros dro, gan fod Jona wedi ei chymyd hi y ffordd y gwnaeth o, a mynd i chwilio pa mor bell i gyfeiriad y dre yr oedd o wedi rhedeg. O achos doedd dim peryg iddo fynd ymhell iawn. I lawr â ni o’r tu ol i’r gwrych. Mi welem Jona’n sefyll i siarad â rhywun, ac yn handlo ei freichie fel melin wynt, ac yn tapio brest y dyn yma, bob yn ail gair, i bwysleisio’r gair. Aethom yn nes atyn nhw y tu ol i’r gwrych. Pwy oedd y dyn, o bawb, ond nhad. “Mesur ’y nhir i mae’r cnafon, Edward Roberts,” medde Jona. “Mae gen inne ddynion yn trin cwils yn y dre ene; oes siwr, mae gen inne ddynion yn trin cwils.” “Ydech chi’n siwr, Jona Thomas,” medde nhad, “nad plant yn cael tipyn o hwyl oedden nhw?” Sut y daeth o i wybod hyn wn i ddim ar wyneb y ddaear. Safodd Jona fel tase fo wedi cael strôc. “Dawn i byth yn symud!” medde fo. “Erbyn meddwl, roedd dyn yr het silc honno braidd yn fychan i’w het, a throwsus y llall hwnnw braidd yn llac. Ond meddwl ddaru mi mai dene’r ffasiwn rwan.” Mi safodd am eiliad heb ddeyd dim,—“Edward Roberts,” medde fo, “mi ddylech fod yn falch o’ch mab. Doedd o ddim efo’r gweilch. Efo fi yn y tŷ yr oedd o ar y pryd. Fo a’i dangosodd nhw i mi.” Anadlodd nhad yn drwm drwy ei ffroene, a dwedodd “pnawn da.” Synnwn i ddim ar ei ddull o anadlu nad ydio wedi cael tipyn o annwyd. Mi redes i yn fy ol, ac yr oeddwn yn y tŷ pan gyrhaeddodd Jona. “Nedw,” medde fo, “pan ladda i’r mochyn, mi gei di ddarn o borc, a’r unig un o’r bechgyn geiff ddarn wyt ti. Nhw sy’n mesur fy nhir i, medde dy dad.” Eis ar ol y bechgyn toc, ond ches i fawr o groeso ar y dechre, am fod nhad wedi deyd wrth Jona mai nhw oedd yn mesur y tir. Ond wedi imi addo tamed o borc bob un iddyn nhw, roedd popeth yn iawn. “Welwch chi, fechgyn,” medde Jac y Gelli, “mi ddylem neud rhywbeth i ddwad â fo at ei goed. Be sy genoch chi yn eich pocedi?” Matshis oedd gan Wmffre, afal oedd gan Jac, cylleth oedd gen i. Roedd y bechgyn yn deyd mai cylleth blwm oedd hi, a minne mai cylleth ddur. Darn o linyn oedd gan Dic Twnt i’r Afon, a marblen a darn o fins pei oedd gan Bob y Felin. Aethom â nhw i gyd, a’u gosod ar garreg drws Jona, wedi iddo gau’r drws a mynd i’r tŷ. Yna aethom at y ffenest i edrych be oedd Jona’n neud, o achos am guro’r drws yr oeddem ni, a mynd rownd y gornel i wylio’r croeso a gai’r presantie. Dydi hi ddim yn beth neis i ddangos gormod arnoch eich hun wrth bresantio neb. Plyges i fy nghefn, ac aeth Jac y Gelli ar fy nghefn, i edrych drwy’r ffenest. Yn lle deyd beth welai, dyma fo’n dechre chwerthin a chwerthin, nes i mi ei daflu i lawr. Cafodd pob un edrych drwy’r ffenest wedyn, y naill ar ol y llall. Wrth y tân yr oedd Jona yn pendympian, â’i ben bron ar far y grât. Yn ei law yr oedd fforcien, ac wrth y fforcien yr oedd golwyth o facn yn hongian. I’w ffrïo y dalie Jona’r bacn, ond fel yr oedd pethe, braidd yn bell yr oedd y bacn oddiwrth y tân. Dalie Jona un pen iddo â’r fforcien, a’r gath yn bwyta’r pen arall. Piti fase rhwystro’r gath ar ganol ei swper. Fase run ohonom ni yn leicio i neb neud peth tebyg i ni, fel y mae’r titshiar bob amser yn deyd, pan yn ein dysgu i fod yn garedig wrth anifeilied direswm. Wedi iddi orffen dyma guro’r drws a gwylio. Dene sŵn yn y tŷ. Y gath ddaeth allan gynta. Roedd hi’n edrych fel tase hi braidd ar frys. Ac wedyn Jona. Edrychodd yn syn pan welodd y presantie. “Mae’r cnafon wedi bod yn chware ar garreg fy nrws i, ac wedi anghofio’u pethe,” medde fo. Dene’r diolch gawsom ni am fod yn garedig. Neidiodd i’r gylleth. “Mi dorra ffon ar eu cyfer nhw y tro nesa y dôn nhw,” medde fo. Ac i’r gwrych â fo i dorri ffon gollen braf. Ond y bechgyn erill oedd yn iawn wedi’r cwbwl,—plwm oedd y gylleth, o achos plygu ddaru hi yn lle mynd drwy’r ffon. Taflodd Jona hi i ffwrdd mewn dirmyg, ac aeth i’r tŷ efo’r pethe erill. Fi oedd yr unig un, felly, gafodd fy mhresant yn ol. Cadwodd Jona ei air. Mi gefes ddarn o borc, ond doedd neb yn digwydd bod yn iach yn ein tŷ ni pan eis i â fo adre. Ac yr oedd y bechgyn erill wedi anghofio’r fargen, fel yr oedd yn rhaid i mi droi ato fy hun, ond y darn a roddes i Wmffre. ----- [5] _Penholders._ Cyfeirio at dwrneiod yr oedd. [Illustration: “YDECH CHI’N LEICIO MAFON DUON”? MEDDE FI.] V.—MAFON DUON. Fi ydi’r unig un o’r bechgyn i gyd i siarad yn iawn â Jinny Williams. Ac nid oes yr un eneth yn debyg iddi yn yr ysgol, heblaw mai geneth newydd ydi hi. ’Does fawr er pan y mae hi yn yr ardal, ac y mae’r bechgyn yn sâl eisio tynnu ymgom â hi. Mi gyffyrddodd Robin bach Ty’n Llidiard fin ei gwallt wrth rannu’r llyfre unweth, medde fo. Ond ’does neb arall wedi bod yn agos ati. Welsoch chi rioed mo’i delach. Dugoch ydi ei gwallt, fel rhedyn wedi aeddfedu, ond ei fod o’n gyrls i gyd, ac yn sgleinio. Mae o ymhobman rywsut,—ar ei hysgwydde hi, yn gweu am ei chlustie, yn troi dan ei gên, yn clymu am ei gwddw, nes gneud ei gwyneb yn ei ganol fel pictiwr mewn ffram wedi’i phlethu. Ac nid oes ganddi byth ddim am ei phen. Am ei llygid, y mae nhw yr un fath a’r mawn sydd yng ngwaelod yr Hen Ffynnon. Ni fedraf yn fy myw byth godi dŵr o’r Hen Ffynnon heb feddwl am lygid Jinny Williams, o achos mae’r dŵr yn troi’r mawn yn loyw. Wrth yr Hen Ffynnon y cyfarfyddes i hi gynta i siarad â hi, dipyn wedi dau o’r gloch y bore. Faswn i byth yn meddwl deyd dim wrthi, ddim mwy na’r bechgyn erill, yn yr ysgol. Ond y mae pethe’n wahanol wrth yr Hen Ffynnon am ddau o’r gloch y bore. Ha sych iawn oedd yr ha dwaetha, a sychodd Pistyll y Llan, a doedd dim i bobol y Llan neud, ond dwad i’r Hen Ffynnon, fel ninne pobol y wlad. Ar ochor y Foel Fawr y mae’r Hen Ffynnon, yng nghanol grug a brwyn at eich ysgwydde. Ac y mae’r holl wlad a’r mynyddoedd pell, hyd at y Foel Ddu, i’w gweled oddiwrthi. O dipyn i beth, gan fod cymint o gario ohoni, aeth yr Hen Ffynnon yn sych liw dydd, a doedd dim i bobol ei neud ond mynd ati am y boreua. Aeth nhad yno un bore am bump o’r gloch, ond yr oedd hi’n hollol sych. Aeth bore drannoeth am bedwar, a chyfarfu â chynulleidfa’n dwad oddiyno. Y pnawn hwnnw, dene Huw fy mrawd hyna’n deyd yr ai o i nol dŵr cyn mynd i’w wely, ar ol dwad o’r gwaith. Gweithio’r nos yr oedd o cyn mynd i’r rhyfel, yn y gwaith plwm yr ochor arall i’r Foel Fawr, a dwad adre tua dau o’r gloch y bore. Meddylies mai iawn o beth fase medru deyd wrth y bechgyn mod i allan am ddau o’r gloch y bore, ac mi gynhygies fynd efo fo. “Olreit,” medde Huw, “cer i dy wely’n gynnar gael i ti fedru codi. Mi fydd yn werth iti weld y wawr yn torri yn yr ha, am unweth yn dy oes.” Mi es i ngwely’n gynnar, gan feddwl peth mor ardderchog oedd i fachgen deg oed weld y wawr yn torri yn yr ha. Ond rydwi wedi sylwi ar ol hynny, nad ydi’r pethe y mae pobol yn eu galw’n weledigaethe mor ddifyr am ddau o’r gloch y bore ag y mae nhw fin nos. Cyn imi gau fy llygid yn iawn, i’m tyb i, pwy oedd uwch fy mhen yn ceisio fy neffro ond Huw. “N-e-d-w-w,” medde fo’n araf ac ysgafn, gan godi ei lais tua’r diwedd. Ond doedd Nedw ddim yn ei glywed o. “N-e-e-d-w-w-w,” medde fo wedyn, gan godi ei lais dipyn uwch tua’r diwedd na’r tro cyntaf. Ond nid oedd na llais na neb yn ateb. Mi sgydwodd chydig arna i. Ymhen tipyn,—“Nedw! Nedw!” medde fo fel ergydion, ond cysgu’n drwm yr oedd Nedw. “Nedwnedwnedwnedwnedwnedw,” medde fo wedyn, fel motor beic, gan fy ysgwyd fel crud. Ond yr oedd Nedw cyn farwed a hoel. Ar hyn dene mam yno,— “Nedw, machgen i, deffra,” medde hi. “Mi golli dy tshans am weld y wawr yn torri, yn siwr iti.” Ond roeddwn i wedi penderfynu gneud fy ngore i ddal y brofedigieth honno’n ddi-gwyn, ers meityn. Ar hyn dene Huw’n deyd,—“Thâl peth fel hyn ddim,” ac yn gafael ynof, ac yn fy rhoi ar lawr y siambar. Doedd hi ddim yn anodd wedyn imi weld fod edrych ar y wawr yn torri o ymyl yr Hen Ffynnon yn brafiach na pheth fel hyn, a doedd dim i’w neud ond codi. Mi welwch chithe’n union mai da oedd imi fod wedi mynd at yr Hen Ffynnon i weld y wawr yn torri, wedi’r cwbwl. Dene gychwyn. Roedd hi’n bur dwyll, ac heb smic i’w glywed yn unman, ond ambell i dderyn yn scrwtian ei adenydd yn y gwrych, ac ambell ddafad yn cnoi ei chil wrth i ni ei phasio at yr Hen Ffynnon. Fel y dringem at y ffynnon, yr oedd yr awyr fel yn rhyw ddechre sgafnu, a’r llwybyr trwy’r grug yn dwad yn gliriach. “Hsht,” medde Huw, “Mae ene rywun wrth y ffynnon.” Ymlaen â ni, ac wedi mynd i ymyli,— “Helo,” medde rhywun. Adnabu Huw ei lais, ac adnabum inne’r un oedd yn llechu y tu ol iddo. Mi gwelwn hi rhwng twyll a gole rhynga i a’r Foel Ddu. Pwy oedden nhw ond Jinny Williams a’i thad. Mi ddechreuodd Huw a’i thad ymgomio am y sychter, a’r cynhaea a chant a mil o bethe felly. Ac yr oedd Jinny a minne’n rhydd i ymgomio fel y mynnem y tu ol iddyn nhw. Mi es yn nes ati, ond y peth cynta a wnes i oedd chwysu’n ddiferol, ac wedyn dechre rhynnu nes i fy nannedd guro’n enbyd. Welsoch chi rioed bethe mor anodd ydi gnethod i siarad efo nhw, pan ddaw’r tshans, heb neb ond nhw a chithe. Mi ddechreues sgwenu fy enw ar y ddaear efo blaen fy nhroed, a chyn belled ag y gwelwn i dan fy nghuwch fod Jinny’n gneud yr un peth. Mi godes fy mhen, ac ni welsoch erioed ffasiwn beth. Roedd top ei phen hi’n union ar gyfer pigyn y Foel Ddu, ac ni allech ddeyd ar y funud prun ai sglein ei gwallt rhyngoch a’r gole a welech chi, ynte ai yn yr awyr ei hun ar ben y Foel yr oedd y lliw. Mi weles toc mai yn yr awyr yr oedd o, ond roedd o’r un ffunud a’i gwallt hi rhyngoch a’r gole. Weles i rioed mo’r wawr o’r blaen yn yr ha,—y peth tebyca a welsoch chi i wallt Jinny rhyngoch a’r gole ydi hi. Ac yr oedd ei llygid yr un fath a gwaelod yr Hen Ffynnon yn union, a’i chyrls fel tase nhw’n gneud eu gore i guddio ei gwyneb. Mi fentres ddeyd gair wrthi,— “Ydech chi’n leicio mafon duon?” medde fi, gan gnoi ngwinedd wedi methu meddwl am ddim arall i’w ddeyd. “Ydw, ymhle mae nhw i’w cael?” medde hi. “Does ene ddim,” meddwn inne, gan ddechre gweld fy meddalwch. O achos mi weles y funud honno mai peth gwirion oedd gofyn a oedd hi’n leicio rhywbeth nad oedd gen i ddim ohono i’w gynnyg iddi. Ac am hynny, roeddwn i’n teimlo braidd fel ci wedi torri’i gynffon. Yr hyn a wnaeth imi feddwl am y peth oedd gweld walie y lle mae nhw’n alw’n “Sgubor Robert Green,” yn dwad i’r golwg yn y pellter rhynga i a’r awyr. Pwy oedd Robert Green fedrai ddim deyd, ond ochre hen dŷ ydi’r Sgubor, a llond y canol o goed mafon duon. Dene’r mafon goreu yn y wlad, medden nhw, ond dydi’r bechgyn byth yn mynd yno, am fod pobol yn deyd fod yno ysbryd. Edrychodd Jinny arnai’n hir heb ddeyd dim, fel tase hi wedi taro ar un meddal am y tro cynta rioed. Edryches inne arni hithe heb fedru tynnu ngolwg oddiarni. Dene su sydyn heibio inni, a pheth oedd yno ond y gôg yn pasio dros ein penne ni, ac yn disgyn ar y pren surion gwylltion yn y pellter, rhwng Jinny a thoriad y wawr. Ac er na weles i rioed mo’r wawr yn torri o’r blaen, yn yr ha, fedrwn i ddim tynnu ’ngolwg oddiar Jinny, i edrych arni hi a’r gôg. Dydio ddim yn beth neis i chi dynnu’ch golwg oddiar eneth i edrych ar rywbeth arall, a chithe’n siarad â hi, hyd yn oed i weld y wawr yn torri, rhwng dau a thri o’r gloch y bore, am y tro cynta rioed yn yr ha. Mi gofies am y gylleth a gefes i ar lawr y diwrnod cynt, ac mi dangoses hi iddi. Mi rhoddes hi i’w gweled yn ei llaw a dene fys cynta fy llaw chwith i yn cyffwrdd am funud bach y bys agosa i’w bys bach hi ar y llaw ddethe. Mi gynhygies fotwm gloyw iddi hefyd, a gefes i ar lawr, a chadwodd hwnnw ym mhoced ei brat. A bu tawelwch mawr, fel y mae’r Beibil yn deyd. Dal i siarad yn ddiddiwedd yr oedd ei thad a Huw. “Ydech chi _yn_ leicio mafon duon?” medde fi wedyn toc, gan fod eidïa newydd wedi fy nharo i. “Ydw,” medde hithe’n ddihidio. Wedi ei siomi’r tro cynta yr oedd hi, mae’n debyg. “Mi wn i ymhle y mae’r rhai gore yn y wlad pan ddaw hi’n amser,” medde fi. “Ymhle?” medde hithe. “Yn y fan acw, yn Sgubor Robert Green,” medde finne, “ond eu bod nhw’n anodd i’w cael, ac am hynny, ’chydig o’r bechgyn sy’n mynd yno.” “O!” medde hithe, fel tase hi ddim yn gwrando. Ond roeddwn i’n rhyw ddechre ennill nerth erbyn hyn,— “Mi a i yno i nol rhai i chi, os leiciwch chi,” medde fi, dipyn yn fwy swil, o achos mi sylwes yn sydyn ei bod yn goleuo’n gyflym. “Olreit,” medde hithe, wedi swilio braidd ei hun. “Ddowch chi efo fi?” medde fi, dan fy llais. “Olreit,” medde hithe yn yr un dôn. Ar hyn mi welai Huw rywun yn dwad at y ffynnon, a dene fo a finne adre un ffordd, a Jinny Williams a’i thad y ffordd arall. Wel, yn wir, wyddwn i ddim ar draed pwy oeddwn i’n cerdded. Ac ni fedrwn feddwl mynd i’r ysgol bore drannoeth heb goler,— “Mam,” medde fi, y bore hwnnw, “hwyrach fod yr inspector yn dwad i’r ysgol heddyw, ac y mae eisio i bawb fod yn deidi. Fase hi ddim yn well i mi fynd yno mewn coler?” Mi drychodd mam arnai, fel taswn i ddim yn gall,—“Coler!” medde hi, “bedi dy feddwl di,—wyt ti’n mwydro?” Mi fedres ei chael i ganiatau un i mi er hynny. Doedd ene ’run imi chwaith, ond hen un i nhad,—coler droi i fyny, a phigie iddi, ac yr oedd honno’n rhyw dair modfedd yn rhy fawr. Honno a ges i, ond bod mam wedi torri darn o’i thu nôl, gan fod coler fy nghôt bron yn cuddio’r fan honno, a gwnio’r ddau ddarn ynghyd yn bur deidi, a rhoi bach yn fy nghôt y tu ôl, i’w fachu yn nhop y goler, i’w dal o’r golwg. Wel, mi es i’r ysgol yn y goler yma fore drannoeth,—ond ddim yn y pnawn. Y peth cynta a wnaeth Jinny Williams pan welodd hi fi, oedd codi ei thrwyn arna i, fel tase hi rioed wedi ngweld i, a’r gnethod erill yn chwerthin trwy eu bysedd bob tro y pasient fi. A’r peth a wnai’r bechgyn oedd tynnu eu capie a bowio i mi, a chadw draw yn lle chware. Rhedent i fy nghyfarfod fel tase nhw am chware. Safent yn sydyn,— “Dacw’r Prince of Wales yn dwad,” medde nhw yn swil. Tynnent eu capie, a bowient hyd lawr, ac aent heibio ar flaene eu traed, gan ddeyd dan eu lleisie,— “Lle mae’r hen Nedw, tybed, na fase fo yn yr ysgol?” “’Tydi’r Prince of Wales yn debyg i Nedw?” Daeth Wmffre ata i toc,—“Nedw,” medde fo, “fel hen ffrynd, cymer gyngor gen i er dy les, cadw’r goler ene adre.” A dene a wnes i. Daeth Jinny heibio i mi wedyn y pnawn, a’i gwallt yn chware yn y gwynt. Ac medde hi, rhwng ei chyrls, wrth fy mhasio i,—“Cofiwch y mafon duon.” Dene a wnaeth i mi fentro i le na bu’r un o’r bechgyn erioed ynddo,—Sgubor Robert Green—i nôl y mafon duon. A phen es i yno, mi weles beth mor debyg i ysbryd, fel yr oedd pobol yn deyd, nes y baswn i wedi dychrynnu i ffitie, onibai bod Jinny efo mi yno. Sôn am ddisgwyl, dene ddisgwyl, a disgwyl, am i’r mafon duon ddwad ac aeddfedu. Yr oeddwn i ar fentro i Sgubor Robert Green amdanyn nhw bob dydd i Jinny, ond bod fy nghalon yn dwad rhwng fy nannedd bob tro y meddyliwn am yr ysbryd. Un diwrnod roeddwn i’n dwad heibio i’r Sgubor, wedi bod yn hebrwng Robin bach Ty’n Llidiard,—dene’r diwrnod y deydodd o ei fod wedi cyffwrdd cyrlen i Jinny. Edrychai’r haul fel tase fo’n rhyw hel ei hun at ei gilydd i fynd i lawr, a phwy a gyfarfyddwn i’n dwad i ’nghyfarfod ond Jinny, fel tase hi ar frys, ond rwy’n siwr mod i wedi ei gweld yn codi oddiar ei heistedd oddiar garreg yn ochor y ffordd pan ddois i i’r golwg. “Nedw,” medde hi dan wrido, “ymhle y mae’r mafon duon?” “Rwan amdanyn nhw,” medde fi. “Ddowch chi efo mi?” “Do i,” medde Jinny. Ac i mewn â ni i Sgubor Robert Green,—y fi yn gynta i sathru’r coed mafon. Roedd yn rhaid dringo darn o wal, a llusgo Jinny ar fy ol. A dene ddechre hel. Welsoch chi rioed fafon tebyg. Heliai Jinny nhw oddiar lawr, a minne’n dringo’r walie, ac yn eu hel i fy nghap, ac yn dwad â chapeidie iddi hi. Dene’r munude difyrra aeth dros fy mhen erioed, ac wedi anghofio popeth am yr ysbryd. Dringes i ben un o’r hen ffenestri, a’r llwyn mafon yn pwyso. Trois i weiddi ar Jinny, ond dene lle roedd hi â’i phwyse yn erbyn y wal yr ochor bella, yn rhythu i’r gornel dan y llwyn yr oeddwn i uwch ei ben o, a’i gwyneb fel eira, ac yn edrych fel tase hi wedi fferru. Beth oedd yno’n eistedd ar garreg, yng nghornel yr hen Sgubor, wedi ei gwthio’i hun dan gysgod y llwyn mafon duon, a hwnnw’n gwasgu arni, ac yn ei sgryffinio, ond hen hen wraig, digon hen i fod yn nain i nhad. Roedd hi â’i phen rhwng ei dwylo, a’i phenelinoedd ar ei phenneglinie, yn crio’n ddistaw. Codes y gangen yn uwch, i gael golwg gwell, rhag ofn mai breuddwydio yr oeddwn i. Cododd yr hen wraig ei phen, a gwelodd fi. “O! Willie bach, ac rwyt ti wedi dwad o’r diwedd,” medde hi,—“lle buost ti, machgen i, mor hir, a dy fam yn dy ddisgwyl di ddydd a nos.” Neidies i lawr, a rhuthrodd hithe i fy llaw i, a gafaelodd yn dyn ynddi. “Ddaru nhw dy frifo di’n arw wrth drwsio dy ben di?” medde’r hen wraig. “Gad imi gusan, Willie bach.” A gwenodd arnai’n dyner, dyner. Rhoddodd ei llaw am fy ngwddw, a chusannodd fi. Fedrwn i ddim yn fy myw feddwl am ei rhwystro, ond o ran hynny, roedd hi reit lân. “Mi feddylies y cawn i di yma,” medde hi, “dyma’r lle y brifest ti dy ben, yntê? Ydi’r dolur yn fawr, ’machgen i? Yn y fan yma roeddet ti pan ddisgynnodd y garreg, yntê?” Chwiliodd fy mhen yn ysgafn. “Wel,” medde hi toc,—“mae o wedi mendio’n iawn,—a nhwthe’n deyd fod y garreg wedi d’ orffen di! Ond choelie dy fam monyn nhw, ’machgen i. Ac rydwi wedi chwilio amdanat a chael dy fwyd yn barod bob dydd, Willie bach, er pan est ti i ffwrdd. A mynd â ti i’r gwledydd pell i dy fendio ddaru nhw?” A thynnai ei llaw yn ysgafn yn ol a blaen trwy fy ngwallt, o hyd, o hyd. “Lle cest ti’r eneth bach yma, Willie?” medde hi, “mae hi fel shou o bropor,—feder hi siarad Cymraeg?” “Na feder,” medde fi, a dene’r gair cynta a ddaeth dros fy ngwefus. Ac roedd o’n wir, o achos fedre Jinny ddim, am y byd, ddeyd gair mewn unrhyw iaith. Dal i sefyll yr oedd hi, yn erbyn y wal, yn edrych fel yr angel ar garreg fedd y Plas, ond bod ei gwallt am ei gwyneb yn deyd na fedre hi fod yn neb ond Jinny. Daliai’r hen wraig i edrych yn fy llygid, dan wenu a rhwbio fy llaw rhwng ei dwylo,—“Wel, Willie,” medde hi, toc, “tyrd, ’machgen i, mae dy fwyd yn oeri. Ac mae hi’n dechre twllu.” A dene hi’n gwthio trwy’r coed mafon heb feddwl am y sgryffinio, a finne’n ei llaw. Cyffyrddes law Jinny wrth basio. Deffrodd hyn hi, a medrodd ei hysgwyd ei hun yn ddigon i gychwyn ar fy ol. Wedi dwad yn fwy i’r gole, trodd yr hen wraig i gael ailolwg arna i,—“Rhosa di, Willie,” medde hi, “nid dyma’r siwt oedd gennyt ti’n cychwyn oddicartre’r diwrnod hwnnw?” Edrychodd yn fanylach,—a hanner neid oddiwrtha i. “Na,” medde hi, “nid Willie bach wyt ti wedi’r cwbwl. Pwy wyt ti, dywed? Ai Edward y Wern?” Roedd hi’n mynd yn dwllach o hyd. Edward y Wern oedd enw ’nhad, medde fo, pan oedd o’n fachgen. A digalon ydi cael eich camgymeryd am eich tad o flaen geneth. “Wel, Edward,” medde hi, â’i gwyneb fel y galchen, ond y gwaed oedd arno,—“ti oedd efo Willie pan frifodd o’n tê? Frifodd o’n arw, Edward bach?” Dechreuodd holi ynghylch brodyr a chwiorydd ’nhad, sy’n hen bobol,—ond fel plant y sonie hi amdanyn nhw. Edrychodd arnai’n hir, a minne arni hithe, a Jinny arnom i’n dau, fel tri mudan. Yn hollol sydyn beichiodd grïo,—“Na,” medde hi, “wyddan nhw ddim byd am Willie bach, dim byd, dim byd.” Gollyngodd fy llaw, fel tase hi’n lwmp o dân, ac yn ol â hi trwy’r coed mafon duon, a’r rheini’n ei sgryffinio i’r byw, heb iddi wybod, ac eistedd ar y garreg danyn nhw, yng nghornel y Sgubor, a rhoi’i phen wedyn rhwng ei dwylo. I ffwrdd â Jinny a fi ar sgruth nes cyrraedd Coed y Felin,—wedyn, sefyll. “Rwan,” medde fi, “am siarad yn iawn â hi.” Ond choeliech chi ddim mai’r cwbl fu rhyngom oedd hyn. Mi godes fy mhen i siarad, a dene Jinny’n codi’i phen, ac edrych i fyw fy llygid i. Ac er bod fy ngwefuse’n agored, wnaen nhw symud dim yn ol nac ymlaen. Roedd y gwrid a gafodd trwy redeg, neu rywbeth, yn rhywbeth na fedrech siarad dim yn ei olwg. Gwyrodd Jinny ’i phen, a dechre sgwenu’i henw efo’i throed, fel wrth yr Hen Ffynnon. Fedrwn inne ddim peidio â dechre gneud yr un peth. Beth wnai’r hen bobol, tybed, oedd heb ddysgu sgwenu, ar adeg fel hyn? Dyma’r adeg y mae hi’n fantes bod dyn wedi cael tipyn o ysgol. Mi lwyddes o’r diwedd i ddeyd gair, ond ddaru Jinny ddim ond gwrido, ac edrych arnai, fel taswn i’n un oedd wedi achub ei bywyd hi,—a chychwyn adre. Mi arhoses nes gweled ei bod bron cyrraedd eu tŷ nhw’n ddiogel, ac wedyn fel awel â fi, wedi chwysu cyn cychwyn. “Ymhle y buost ti mewn difri, Nedw?” medde mam. “Yn hebrwng Robin bach Ty’n Llidiard,” medde fi. Sonies i ddim am y peth mae nhw’n alw’n “ac felly mlaen.” Fedrwn i fwyta fawr o dê, ac yr oedd mam yn bur bryderus.—“Fuost ti ddim yn hel mafon duon?” medde hi,—“mae dy geg di’n ddu.” “Dipyn bach,” medde finne. A dene’r ’gom i gyd. Ar amser swper deydodd nhad wrth mam,—“Mae nhw wedi ffeindio’r hen Fetsen Jenkins unweth eto.” “Yden?” medde mam. “Yden,” medde fo. “Jones y Plismon a’i daliodd hi’r tro yma yn edrych allan trwy un o dylle ffenestri Sgubor Robert Green, ac yn gweiddi ‘Willie,’ â’i gwyneb yn waed i gyd.” “Pwy ydi honno?” medde fi, yn wylltach nag y dylwn i. Ddeydodd neb ddim am dipyn,—“Hwyrach mai’r ysbryd welson nhw, ’nhad,” medde fi, â fy ngwyneb yn rhyw ddechre gwynnu er fy ngwaetha. “Nage,” medde mam,—“does ene’r un ysbryd.” “Pwy ydi Betsen Jenkins?” medde fi. “Wel,” medde nhad yn ara, “hen wraig ydi hi o’r ochor arall i’r Foel Ddu. Mae hi’n crwydro’r wlad ar adege, er pan ydwi’n cofio, bron. Roedd ganddi fachgen unweth, tua’r un oed â fi, o’r enw Willie. Mi lladdwyd o wrth hel mafon duon yn Sgubor Robert Green.” Ond mi gadwodd ’nhad y gweddill o’r stori—ei fod o efo Willie ar y pryd—iddo fo’i hun. Rhyw bigo’i bwyd ac edrych yn syn oedd mam. Toc, mi welwn ddeigryn yn hel i gornel ei llygad,—“Nedw,” medde hi, “nei di addo un peth i dy fam?” Dydi hi byth yn deyd “i dy fam,” ond pan fydd rhywbeth go anodd i’w neud yn dwad. “Bedi hwnnw?” medde fi. “Peidio byth â mynd i Sgubor Robert Green, ’machgen i, i hel mafon duon,” medde hi. Yna trodd ei gwyneb i ffwrdd, gan dynnu ei llaw trwy ’ngwallt i yn ara ac ysgafn,—peth nad ydwi ddim yn cofio ei gweld yn ei neud o’r blaen. Wedyn mi drychodd yn hir i’r gwagle. Yna mi drychodd yn rhyfedd ar nhad, fel tase hi’n gweld trwyddo fo i’r ochor arall, ac roeddwn i’n meddwl fod golwg braidd yn euog arno. Y ffordd y gofynnodd mam i mi, a wnaeth i mi ryw feddalu ac addo. Ond beth petae Jinny’n gofyn imi fynd? Rydw i a hi’n dal yn ffrindie mawr, o achos mae ene un peth na ŵyr neb ar wyneb y ddaear amdano, ond hi a fi. A dene sy’n gneud ffrindie. VI.—’RHEN NEDW. Rhaid mod i’n hen, yn hŷn na John Huws, y Groshiar, a fo ydi’r dyn hyna’r ffordd yma. Mae o’n byw wrth y Felin, a dyn dall ydio, a does gyno fo ddim gwallt, ond tipyn bach o beth rhwng du a gwyn yn hongian, fel cynffon chwiaden ar law, o’r tu ol, ac mae’i groen o’n felyn, ac yn crychu fel swigen mochyn ar ol iddi sychu wedi ichi fethu ei chwthu hi’n iawn, ac y mae’i wiscars o rhwng du a gwyn, ond y stripie melyn sydd dan ei geg o. Roeddwn i yn y capel nos Sul dwaetha, ac yn teimlo reit dedwydd yno, fel roedd pethe’n bod. Waeth gen i pwy fydd yno’n pregethu ar Nos Sul, mi rydwi’n gyfforddus iawn yno, os bydd y bleinds i lawr, a’r darn crwn o’r ffenest o’u tucha nhw’n ddu, a’r lampie a’r canhwylle’n ole. Mae’n well gen i’r capel ar Nos Sul yn y gaea, na’r ha. Dydi John Huws chwaith ddim yn edrych mor hyll yr adeg honno. Yn wir, mae’r hen bobol yn y sêt fawr i gyd yn edrych yn neis, yn canu ei hochor hi, a phob un ond John Huws yn cau eu llygid. Eu hagor nhw y mae o, er ei fod o’n ddall bost. Pan oedden ni’n canu nos Sul dwaetha, yn y cyfarfod gweddi—wel, doeddwn i ddim yn canu fy hun, cnoi nghadach poced oeddwn i,—roeddwn i’n edrych ar yr hen ddynion yma, ac yn deyd yn ddistaw, wrth edrych ar bob un ohonyn nhw yn ei dro, “rydwi’n hŷn na thi, a thithe, a thithe, a thithe,” nes mynd drostyn nhw i gyd. Wn i ddim ydech chi’n teimlo weithie fel tasech chi wedi bod yn y byd yma rioed,—rydwi’n teimlo felly weithie, yn hen, hen iawn, a’r adeg honno tydi Mynydd y Foel ddim yn hen, na’r afon bach dan tŷ, na hyd yn oed Plas Bodidwal. Ac mae’r cwbwl yn hŷn o lawer na taid, medde nhad, ac mae nhad yn hen ddyn, agos i ddeugien oed, medde fo. Ar ol bod yn chware ar ffordd Mynydd y Foel, ac i Wmffre, a Jac Ty’n y Wal, a Morus yr Allt, fynd adre a ngadael inne fy hun, rydwi weithie’n teimlo mod i’n hen. Rydwi’n chware efo’r Foel a’r afon bach, fel tase nhw’n blant. Wrth gwrs, dydi’r Foel ddim yn rhedeg o gwmpas efo fi run fath a’r afon, mae hi’n llonydd, fel Isaac ’y mrawd bach, pan fydd Wmffre a fi a fynte’n chware. Eistedd yn llonydd mae Isaac, fel y byddwn ni’n deyd wrtho fo, ond mae o’n chware er hynny. Felly y mae’r Foel, yn eistedd yn llonydd, a’r afon bach a finne’n rhedeg a chwerthin. A faswn i ddim yn medru meddwl am John Huws y Groshiar yn chware efo nhw. Mae nhw’n hŷn lawer na John Huws, medde nhad, a rywsut fedra i ddim meddwl y base fo’n medru eu dallt nhw. Ac wedi i mi fod yn chware efo nhw, rydwi’n edrych ar nhad a mam, fel mae nhw’n edrych arna i bob amser, yn rhywun i’w ordro o gwmpas. Fi sy’n clymu tei nhad ar fore Sul, feder o ddim clymu’r pethe ffasiwn newydd yma, ac os bydda i wedi bod yn chware efo’r afon bach dan tŷ a’r Foel, nos Sadwrn, rydwi fel taswn i eisio deyd wrtho fo am ofalu bod yn fachgen da yn y capel, a pheidio bwyta fferins, a chnoi ei gadach poced, fel mae nhw’n deyd wrthym ni. Mi ddeydes hynny wrtho fo unweth, heb feddwl, a chlywsoch chi rioed fel roedd o a mam yn chwerthin, nes siglo a gwasgu eu hochre. Meddwl oedden nhw mai smalio oeddwn i, a finne’n cochi at fy nghlustie pan weles i be ddeydes i, ac, wrth gwrs, doedd dim i’w neud ond cymyd arna mai nhw oedd yn iawn. Dydwi ddim wedi deyd y pethe yma wrth neb, hyd yn oed wrth Wmffre nghefnder, rhag ofn iddyn nhw chwerthin am fy mhen i, a meddwl nad ydwi ddim yn gall, ac os unweth y gneiff y bechgyn feddwl nad ydech chi ddim yn gall, wel, mae hi’n amser i chi adael yr ysgol, neu gael glasenw, a dydwi ddim ond deg oed eto. Ond, yn wir, rydwi’n teimlo’n rhyfedd weithie. Dene’r hen dderwen fawr, yn y coed mae nhw’n alw’n Nyrs[6] Goed Llus, mae hi â thwll digon maint ynddi i chi gadw picnic ynddo fo, a dydi John Huws y Groshiar ddim yn ei chofio hi’n cael ei phlannu, medde fo wrth lot ohonom ni oedd yn ei holi yn ei chylch; ond pan oeddwn i yn y Nyrs, y diwrnod o’r blaen, ar fy mhen fy hun, mi roddes fy mreichie amdani i’w chusannu,—roeddwn i’n teimlo’n gymint o ffrindie efo hi. Rywsut, dydwi ddim yn leicio’r coed ifinc, dyden nhw ddim yn cofio dim byd, ond rhaid fod y dderwen yn cofio pethe sydd wedi digwydd ers talwm, cyn i John Huws gael ei eni, ac rydw inne’n eu cofio nhw, weithie, pan fydda i ar fy mhen fy hun. Mae’n well gen i ’r dderwen yma na’r un sydd wrth bont y Llan, am ei bod hi’n fwy unig. Dene’r hen dwmpath wrth odre’r Foel, yn ymyl Bedd y Porthmon, a’r afon bach yn rhedeg heibio iddo fo. Mae ene borthmon wedi ei gladdu yn y fan honno. Ystalwm iawn, medde nhad, roedden nhw’n pedoli gwartheg, gwartheg cofiwch, nid cyffyle, yn y dolydd, ac yn eu cerdded nhw i Loeger, a’r porthmyn ar gefne eu cyffyle yn eu gyrru nhw, ac yn dwad yn ol efo llond pob man o arian. Wel, mi ddaru lot o ddynion oedd yn cyfarfod yn y “_Black Crow_” fynd i gyfarfod un porthmon, a’i ladd o, a chymyd ei geffyl a’i arian oddiarno, a rhedeg i ffwrdd o’r wlad, na welodd neb byth monyn nhw, wedi ei gladdu o yn gynta yn y bedd yma, yn ymyl yr hen dwmpath. Roeddwn i’n pasio’r hen dwmpath un pnawn Llun, y gaea dwaetha, wrth ddwad o’r ysgol. Ryden ni’n byw ymhell o’r ysgol, ar odre’r Foel, a does dim eisio i chi gario grug i gynnu tân yn ein tŷ ni, dim ond mynd i dop y Foel, a thynnu baich na feder dyn mo’i gario fo, ac wedi ei rwymo, rhoi cic iawn iddo. Welsoch chi rioed fel y mae o’n rowlio i lawr, ac yn neidio tros y gwrych i’r ardd. Mae ene dwll yn y twmpath, i lawr o’r golwg, dipyn yn llai na thwll gwningen, ac roedd hi’n dechre nosi’r pnawn yma, pan oeddwn i’n pasio, ond fedrwn i ddim peidio aros i orwedd ar y twmpath, i edrych i mewn i’r twll, ac yr oedd yr afon bach yn rhedeg wrth fy nhraed i, ac yn cadw sŵn fel arfer. Mi ddalies i edrych i’r twll yn hir, heb weled dim byd, nes mynd i deimlo’n drymllyd. Mi feddylies toc mod i’n gweled gole’n symud yn ei waelod o, heb fod yn ddim mwy na gole pry gole. Wrth imi ail edrych, mi welwn rywbeth fel pry yn dwad i fyny’r twll, gan godi un goes, a dal cannwyll fechan, fechan, â’i droed. Roedd arnai dipyn bach o ofn i ddechre, ond rywfodd roedd arnai awydd mawr hefyd gwybod be oedd y pry rhyfedd yma. Pan ddaeth o i geg y twll, mi ddalies fy llaw, ac mi gamodd i’m llaw i, gan ddal y gannwyll o hyd â’i droed. Mi geisies chwythu’r gannwyll, ond pan ddaru mi hynny, neidiodd oddiar fy llaw i, a safodd ar lawr, a dyma fo’n chwyddo, ac yn chwyddo, ac yn chwyddo, nes bod mor fawr a nhad, a be oedd o ond hen ddyn. Wel, mi ddychrynnes dipyn, a phan welodd o fi felly, chwerthodd dros y wlad. “D’wyt ti ddim yn fy nabod i, rhen Nedw?” medde fo. “’Rhen Nedw” mae Wmffre’n fy ngalw i hefyd, pan fyddwn ni’n fwy nag arfer o ffrindie. Yr oedd rhywbeth mor gynnes yn chwerthin yr hen ddyn, nes imi benderfynu mynd yn nês ato. Roeddwn i’n ei nabod o’n iawn, ond fedrwn i yn fy myw gofio ar y funud pwy oedd o. Roedd o’n dawnsio mor ysgafn fel y cynhygies i chware efo fo. “Ddim heno,” medde fo, “mynd i’n gwlâu mae’r hen wraig a finne—edrych i’r twll.” Mi edryches wedyn, a’r hen ddyn yn dal y gannwyll imi, a gwelwn bry arall yn dwad ohono fo. Dalies fy llaw i’r pry hwnnw hefyd, ac mi ddaeth arni hi. “D’wyt ti ddim yn ei nabod hi?” medde’r hen ddyn,—“edrych di’n iawn rwan.” Wrth imi ddal i edrych, mi chwyddodd y pry hwnnw hefyd, a be welwn i o mlaen i, ond hen wraig yn chwerthin mor lawen a’r hen ddyn. “Wel yr hen Nedw!” medde hi, gan daflu ei breichie am fy ngwddw i, a ’nghusannu nes bod bron imi golli ngwyneb. Ac er nad ydwi byth yn leicio’r hen gusannu yma, roeddwn i wrth fy modd, a doedd neb yn edrych. Fedrwn i neud na rhych na gwellt ohonyn nhw, er na fues i rioed yn fwy wrth fy modd efo neb. Roedden nhw’n nallt i rywsut yn well na hyd yn oed nhad a mam, ac mi ddechreues ddeyd pethe wrthyn nhw, nad oeddwn i ddim wedi meiddio eu deyd hyd yn oed wrth Wmffre. “Wel,” medde’r hen ddyn, “mae’n gamp iti ddeyd pwy yden ni er ein bod ni’n gymint o ffrindie.” Be ddeydwn i’n te, ond nad oeddwn i ddim yn cofio? Plygodd yr hen ddyn ata i nes mod i’n clywed ei wynt o’n gynnes ar fy ngwddw, a deydodd yn ddistaw, tan edrych o’i gwmpas,—“Enaid y Foel ydw i, ac Enaid yr afon bach dan tŷ ydi hithe.” Roeddwn i’n methu dallt am funud be oedd o’n feddwl, ond mi gofies fod y pregethwr y nos Sul cynt wedi deyd stori am enaid rhyw fachgen bach yn mynd i ffwrdd, gan ddeyd be oedd enaid, pan oeddwn i’n edrych ar y darn ffenest crwn oedd mor ddu uwch ben y bleind, er mwyn gweled fase ne rywbeth yn edrych trwyddo fo o’r tuallan. Ac mi ddalltes yr hen ddyn yn syth. Roedd o’n mynd i ddeyd rhywbeth arall, ond dyma lais rhywun yn hanner nadu y tu ol i mi. Trois i edrych, ac er fy syndod, roedd hi’n dwyll fel y fagddu, ond fod rhyw ole bach yn dwad o’r pellter, a phwy glywn i’n gweiddi f’enw i ond mam. Dwad yr oedd hi i edrych amdana i efo lantar. Roedd hi’n falch o ngweld i, a minne’n falch o’i gweld hithe hefyd, gan ei bod mor dwyll, a’r hen ddyn a’r hen wraig, erbyn hyn, wedi mynd. Ond welsoch chi rioed mor ifanc roedd hi’n edrych. Ddeydes i ddim am fy ffrindie wrthi: gwyddwn na fase hi ddim yn dallt, ac y base hi’n mynd i nadu wrth feddwl fod rhywbeth o’i le arna i,—mod i’n deyd anwiredd, neu ddim yn gall. Mae Isaac yn methu dallt y pethe sy’n mynd rhwng Wmffre a fi, a pheth diflas ydi ceisio sbonio pan na bydd pobol yn dallt, a fase mam ddim gwell. Eis i ngwely reit gynnar y nosweth honno, a hynny ohonof fy hun. Rywsut roedd nhad a mam yn siarad am bethe anniddorol iawn i mi, wedi ymgom yr hen ddyn a’r hen wraig, fel y mae Winnie ac Isaac, pan fydd Wmffre a fi’n chware. Babi ydi Winnie, a dydi hi ddim yn ddwyflwydd eto, a chofiwch mod i’n ddeg. Ond y nosweth ryfedda oedd honno pan oedd modryb Ann yn sâl, a minne’n gorfod mynd i dŷ cipar Bodidwal i chwilio am wningen i neud potes iddi hi, fel roedd y doctor yn deyd. Plas Syr Hugh ydi Bodidwal, a dydi Syr Hugh ddim yno ers tro. Dydi’r Plas ddim digon maint iddo rwan, medde’r cipar. Mae o wedi cael ei godi gan y llywodraeth, ac mae’r llywodraeth wedi ffeindio lle iddo fo fyw yn Lloeger, medde’r cipar, mwy o lawer na Bodidwal. Wedi cael ei neud yn fancrafft,[7] neu rywbeth fel ene mae o, a’r cipar sy’n edrych ar ol Bodidwal rwan, ac yn byw yn ymyl. Roedd Syr Hugh eisio mynd i’r Senedd unweth, ac roedd yn rhaid i bawb fotio er mwyn iddo gael mynd yno, a daeth y cipar o gwmpas y tai i ddeyd os gwnai pobol fotio iddo, y cawsen nhw wningen am ddim, dim ond gofyn, ac mi fotiodd f’ewyrth John iddo,—dydi nhad ddim yn hidio am wningod, medde fo. Dyn clên iawn ydi Syr Hugh. Mi roddodd pawb oedd gan fflagie rai i fyny, pan aeth o i’r Senedd, ond doedd gennym ni run fflag, medde mam. Doedd pobol ddim mor llawen ag y basech chi’n disgwyl pan gafodd o’i godi’n fancrafft. Dydwi ddim yn meddwl fod pobol yn meddwl cymint ohono fo rwan ag y buon nhw. Pan oedd modryb Ann yn sâl, a’r doctor yn deyd y base potes gwningen yn ardderchog iddi hi, mi es, ar ol tê un nosweth, dros f’ewyrth at y cipar, i ofyn am un, gan nad oedd Wmffre gartre. Y mae tŷ’r cipar yn y coed, dipyn oddiwrth Bodidwal, ac y mae’n rhaid i chi fynd drwy goed, ac wedyn heibio Bodidwal, ac wedyn drwy goed, i fynd yno. Roedd hi’n dechre twllu pan oeddwn i’n cychwyn, ac mae ene lofft wedi ei chloi ym Modidwal na fu neb erioed ynddi hi, ac mae gwaed ar y wal, medde nhw. A deyd y gwir i chi, roedd arna i ofn mawr wrth fynd drwy’r coed cyn dwad at y Plas, a phan roddodd rhywbeth sgrech yn y coed, meddylies fod fy nghap ar fy mhen i fel tase fo ar dop gwrych, fel yr oedd fy ngwallt i’n codi. Roedd hi cyn dwlled a’r fagddu, ac roeddwn i braidd yn falch o hynny weithie, ac yn cerdded ar flaene nhraed, ond er fy syndod, fel roeddwn i’n agoshau at Fodidwal, roedd hi’n mynd yn oleuach o hyd. Rhaid i chi fynd heibio ffrynt y Plas i dŷ’r cipar, ac ar wal y ffrynt, uwchben y ffenestri, ffenestri bychin duon, mae ene rês o hen wynebe cerryg. Mae ene un efo trwyn smwt, a’r llall wedi colli’i glust, a’r llall efo clustie ci, a’r llall heb ddim ond un llygad. Penderfynes na chodwn i mo mhen i edrych arnyn nhw, y rhedwn i heibio iddyn nhw fel y gwynt, o achos mi fum i ac Wmffre’n lluchio cerryg atyn nhw fwy nag unweth wrth basio’r Plas, a neb gartre, a dydwi ddim yn siwr nad ni a roddodd drwyn smwt i’r un sydd hefo un rwan. Ond er imi benderfynu, fedrwn i ddim yn fy myw beidio edrych. Pan godes i mhen roedd hanner ucha’r Plas yn reit ole, a’r penne i gyd yn y golwg, a’r cynta yr edryches i arno oedd yr un efo un llygad. Wedi edrych arno am funud, fedrwn i ddim yn fy myw dynnu fy llygid oddiarno, ac yn wir i chi, be wnaeth o ond wincian arna i efo’r llygad dall. Roedd o mor ddoniol, fel na fedrwn i ddim peidio chwerthin, ac mi anghofies fod arnai ofn. Dene fo’n wincian â’r llygad arall, ac yn crychu ei dalcen yn ol a blaen, fel y bydd nhad yn ei chrychu pan fydd arno eisio i Winnie weld ei gorun o’n ysgwyd, ac yr oedd y gole ar y Plas yn dwad yn is i lawr o hyd. A be feddyliech chi, dyma’r gwyneb un llygad yma allan o’r wal, ac yn dwad ata i,—dim ond pen, ond roedd o’n wincian ac yn gwenu, fel na fedrwn i neud dim ond chwerthin. “Wel, rhen Nedw,” medde fo, “ai ti wyt ti, dywed? Pwy fase’n meddwl dy weld di’n y fan yma, er mod i wedi colli un llygad wrth chwilio am danat ti.—Tyrd i lawr, Owen,” medde fo wrth y gwyneb oedd wedi torri ei glust. A dene’r gwyneb hwnnw i lawr. “Paffiwr ofnadsen ydi Owen yma,” medde fo, “fo laddodd y Sais mawr hwnnw yr wsnos dwaetha, a fi claddodd o. Mi claddes o ar ei eistedd. Fedrodd y Sais neud dim i Owen ond torri ’i glust o.” “Paid a lolian,” medde Owen, “mae chwaneg o baffio i fod.” Trodd ata i. “Faset ti ddim yn leicio’n helpio ni?” medde fo wrtha i. “Rwan, tyrd yn dy flaen,—ac yn ol a blaen yr aethom ni ein tri am hydoedd,—y ddau ben un bob ochor imi, a minne’n martshio yn y canol rhyngddyn nhw, nes berwi o chwys, a’r penne erill yn ein gwylio ni a gweiddi hwrê. A doeddwn i’n gweld dim yn od o gwbwl yn y penne heb ddim cyrff yma. Mi anghofies bopeth am y wningen a phawb, dim ond disgwyl gweld sowldiwrs diarth yn codi eu penne dros y graig oedd ar ochor y Plas. Mi wyddwn mai Owen Glyn Dŵr oedd y pen cyfa yma, o achos roedd y scŵl wedi deyd wrthym ni. Be feddyliech chi o feddwl eich bod chi’n byw yn oes Glyn Dŵr? “Helo,” medde rhywun o’r tu ol inni. “Dene nhw’n dwad!” medde fi, gan droi mhen,—a phwy oedd yno ond y cipar. Trois yn ol i edrych ar y penne, ond roedden nhw yn eu lleoedd ar y wal, heb symud dim o gwbwl, yn edrych dros y coed, yng ngole’r lleuad. Wyddwn i ddim yn iawn ar y dechre lle roeddwn i, ac yr oedd y cipar yn edrych yn od arna i. “Be haru ti, dywed?” medde fo, “yn rhedeg o gwmpas yng ngole’r lleuad yn y fan yma, yn lle bod yn dy wely?” A dene’r adeg y cofies i mai bachgen oeddwn i, ac nid sowldiwr, ac fod gen i dad a mam. Mi ddeydes fy stori wrtho, pan oedd o ar fin gafael yng ngholer fy jeced i. A phan glywodd o enw f’ewyrth John, newidiodd ei wêdd, a daeth yn ddyn neis. “Tyrd efo mi,” medde fo. Wel roeddwn i’n synnu ato fo’n siarad braidd yn chwyrn, heb ddeyd “os gweli di’n dda,” wrth un oedd gymint hŷn na fo, ond ddeydes i ddim byd. Waeth i chi heb ddeyd pethe fel hyn wrth gipars. O ran hynny, fedrwn i ddim deyd yr hanes wrth nhad a mam chwaith, pan oedden nhw’n synnu lle bum i mor hir, ac wedi bod yn anesmwyth, medde nhw, a nhad ar fin cychwyn i edrych amdana i. Ond yn wir yr oedden nhw’n edrych yn ifanc yn ymyl Owen a’r gwyneb un llygad hwnnw. Ydech chi’n teimlo’n hen weithie, deydwch, ac yn fwy cyfforddus efo pobol oedd yn y byd yma ers talwm iawn, nag efo neb arall? Fydda inne ddim yn teimlo felly, chwaith, o ran hynny, ond pan fydda i ar fy mhen fy hun. ----- [6] Nyrs—_Nursery_, llwyn mamaeth. [7] _Bankrupt._ VII.—EOS Y WAEN. Ddisgwyliodd Wmffre a fi rioed gymaint am ddim ag a wnaethom ni am nosweth y Majic Lantar, a chawsom ni rioed ein siomi gymaint mewn dim. Mi fase’n siom hollol onibae am un llygedyn yn y diwedd. A hynny am ddau reswm. Y rheswm cynta oedd Daniel Williams, Eos y Waen, ac mi soniaf am y llall yn nes i ddiwedd y stori,—mi drodd hwnnw’n dipyn o fendith i ni. Does arnom ni’r bechgyn ddim ofn neb yn yr ardal i gyd ond Daniel Williams, Eos y Waen. Ac y mae o’n llwyddo i ddwad ar ein traws ni ymhobman, hyd yn oed yn y lleoedd mwyaf annhebyg, fel y cewch chi weld. Os sibryda rhywun pan fyddwn ni ar ganol chware fod Daniel Williams, Eos y Waen, yn dwad, dene ddigon. Diflanna pawb fel tase’r ddaear wedi eu llyncu ar darawiad amrant. Os bydd y llyncu hwnnw’n amhosibl, ryden ni’n gadael ein tacle chware yn y lle y mae nhw, prun bynnag ai marbls, neu pegi, neu gneuen goblo fydd ar droed ar y pryd, ac yn ffurfio’n llinell mor agos i’r wal neu’r gwrych ag y medrwn ni, a’n gwasgu’n hunen iddyn nhw nes i’r pigie fynd i’n cnawd ni, os gwrych fydd tu ol i ni. Fel y daw Daniel Williams i’r golwg, ryden ni’n edrych arno heb dynnu’n golwg oddiarno fo, a’i ddilyn â’n llygid gan sylwi’n fanwl ar bob symudiad, yn enwedig ar ei chwythu o. Mi gaf sôn am hwnnw eto. Wedi iddo basio mae hi bob amser yn helynt, a Morus yr Allt sy’n ei dechre fel rheol. Dydi Morus ddim yn dwad i’n capel ni, ac y mae Daniel Williams, Eos y Waen, yn dwad. “Weldi o’n chwythu,” medde Morus bob amser ar ol iddo basio. “Cofia di,” medde fi neu Wmffre, neu Willie’r Pant, neu rywun arall fydd yn dwad i’n capel ni, “ei fod o’n fardd.” Os bydd bechgyn diarth yn ein mysg ni, eu cwestiwn nhw bob amser ydi bedi bardd. “Dyma ydi bardd,” ydi ateb Morus yr Allt, “dyn yn chwythu ac yn tagu fel injian ddyrnu bob amser.” “Nage,” ydi ateb Bob y Felin neu rywun tebyg iddo fo, sy’n mynd i’r capel ucha,—“dyn yn medru codi——,” wel, mi gaf ddrwg am ddeyd yr un gair ag a ddeydodd o, o achos un yn deyd geirie mawr ydi Bob. Ond yr hyn mae o’n feddwl ydi mai dyn yn medru codi ysbrydion drwg ac yn eu rhoi nhw i lawr ydio. Ar hyn, mi neidia rhywun arall i mewn a deyd, “Os felly, dydi Daniel Williams ddim yn fardd yrwan o achos mi ddaru’r ysbrydion drwg fynd yn fistar arno fo unweth a’i dynnu drwy gant o wrychoedd.” Rydwi wedi clywed yr ymgom ene bellach ugeinie o weithie. Ond er mod i wedi hen arfer â hi, fedrai ddim pasio Daniel Williams heb arswyd. Ond y tro cynta y clywsom ni hi i gyd, yr adeg honno y cawsom ni’n dychrynnu’n iawn. Un diwrnod yn y gaea, ryw dair blynedd yn ol oedd hi, a nifer o fechgyn wedi bod yn chware’n rhy hir ar eu ffordd o’r ysgol. Yr oedd hi’n twllu’n gyflym cyn inni gyrraedd adre, ac mi ddaeth yn gawod drom o law, a ninne’n aros i ymochel dan bren. Pwy a welem ni’n ymochel rhwng twyll a gole yr ochr arall ond Jona’r Teiliwr. Dydi pobol ddim yn edrych ar Jona fel yn rhyw gall iawn, fel y gwyddoch chi, heblaw ei fod yn gloff a chanddo draed clwb. Ac efo’r plant y mae o’n leicio bod. Heb baratoi dim arnom ni at y peth, dyma fo’n croesi atom ni ac yn deyd,—“Mae Daniel Williams, Eos y Waen, yn medru codi cythreulied, a dacw fo’n dwad yrwan.” Mae Jona yn cael caniatad pobol i ddeyd y gair mawr ene am nad ydio ddim yn rhyw gall iawn. I’r gwrych i ganol y drain dros ein penne â ni y funud honno, a chau’n llygid nes i Daniel Williams basio. Yna i ffwrdd â ni fel yr awel adre. Yr oedd Jona wedi ei siomi’n arw na fuasem ni’n aros am gom ar ol y newydd ene. “Mam,” medde fi ar ol mynd adre, “ydio’n wir am Daniel Williams, Eos y Waen, ei fod o’n medru codi’r pethe hynny?” “Pethe hynny” ydi enw mam arnyn nhw. “Ydi,” medde mam, “_wedi bod_, ond dydio ddim yn eu codi nhw yrwan.” A dene hi’n deyd mai hynny oedd ei fusnes o un adeg, fod llyfre ganddo i’r pwrpas, ac y galle fo eu codi nhw a’u gostwng pan fynnai. Ond iddo fynd yn rhy hy arnyn nhw unweth, neu eu codi a methu a dwad o hyd i’w lyfre’n ddigon buan, ac i rywun fore drannoeth ei weld o’n hanner marw a’i ddillad yn rhidens. Mi losgodd ei lyfre wedyn yn ol y stori a glywodd mam. Ond y drwg ydi nad oedd mam ddim yn glir ar y darn ola ene,—ei fod o wedi gollwng ei afael ohonyn nhw. Ac eto, mae hi’n anodd peidio â chwerthin wrth edrych arno fo os byddwch chi’n sâff oddiwrtho, fel yn y capel neu rywle felly, o achos y chwythu yma. Wrth gymyd ei wynt mae o’n tynnu ei foche i mewn nes eu bod nhw’n cyfarfod ei gilydd yn ei geg o, wedyn gollwng ei wynt allan nes bod ei foche’n mynd fel dwy swigen. A rhwng pob anadliad mae o’n crychu a chodi a gostwng ei drwyn yr un fath yn union a gwningen. Yn y capel mae o’n gneud hyn ore, ac mi wyddom oddiwrth ei ddull o sut bregethwr sy’n y pulpud. Weithie pan fydd y pregethwr yn gweiddi ac yn ratlo, nes bod yn goch ei wryneb, ac Wmffre a fi’n meddwl mai dyma’r pregethwr gore a glywsom ni rioed, mi drycha un ohonom ar Daniel Williams, yna pwtian y llall a deyd,—“Dydi hwn fawr o bregethwr.” “Sut y gwyddost ti?” medde’r llall. “Dydi Daniel Williams ddim yn chwythu’r nesa peth i ddim,” medde’r edrychwr. Weithie fel arall y mae hi. Dyn tawel fydd ambell bregethwr, a ninne’n mynd braidd yn anesmwyth, ac edrych o gwmpas. Yn sydyn, mi wêl un ohonom Daniel Williams, ac mi ddywed wrth y llall,— “Dy! lad, dyma iti bregethwr.” A’r achos o hynny ydi’r olwg ar Daniel Williams. Mi fydd ei foche fel megin, a’i drwyn yn mynd i fyny ac i lawr gymint fyth, a rhyw ole rhyfedd a diarth yn ei lygid o fydd yn ein llonyddu, nes inni fethu â chwerthin, er gwaetha’r ystumie. Mi welwch, felly, rhwng popeth, fod Daniel Williams yn ddychryn i ni i gyd. Mae gan hyd yn oed nhad ryw hanner ofn Daniel Williams. Mi ofynnes iddo un diwrnod,— “Nhad, pam na newch chi roi smocio heibio?” “Wel,” medde nhad mewn rhyw arswyd, “glywest ti’r stori honno am Daniel Williams, Eos y Waen? Mi benderfynodd ynte unweth roi smocio heibio, a threiodd hi am flwyddyn. Mi guddiodd ei faco a’i getyn mewn twll yn y cae dan tŷ, a chyn brecwest bore pen y flwyddyn mi aeth yno i’w nhôl nhw, a smocio mae o byth.” A lle sal oedd hi i nhad fedru ei roi heibio os methodd Daniel Williams. Mae ofn Daniel Williams ar bawb felly. Ond os oes gan bobol erill resyme tros ei ofni o mae gan Wmffre a fi lawn mwy o resyme dros hynny na neb arall, fel y gwelwch chi rwan. Dyma i chi ddau dro y cawsom ni rywbeth i’w neud â fo, ac mae’r ola yn dwad â ni at y Majic Lantar. Un nosweth y gaea dwaetha mi yrrwyd Wmffre a fi i’r Seiat i gynrychioli’n dau deulu. Ac mae gennym ni gryn ddwy filltir i’r capel. Ar y ffordd ryden ni’n pasio’r Mynydd Bach,—boncyn llawn o eithin lle mae merched Pen Llan yn sychu dillad ar ddiwrnod golchi. Yr oedd hi’n bur dwyll, ac wrth basio beth welwn ni ond fflam fechan yn dechre yn yr eithin a rhywun yn gwibio’n ol a blaen heibio iddi. Aethom yno, a phwy oedd yno ond Morus yr Allt, Dic Twnt i’r Afon, Bob y Felin, a Jac y Gelli, yn dechre rhoi’r eithin yma ar dân. A rywsut mi ddarum anghofio i ble roeddem ni wedi cychwyn, a dechre eu helpio nhw ’n ddiymdroi. Cyn pen ychydig o eiliade roedd y fflamie’n lliwio’r awyr y peth propa welsoch chi. Ymhen tipyn dene’r sgrechian mwyaf anobeithiol a ddisgynnodd ar glustie neb erioed, y tu ol i ni, a holl wragedd yr ardal ar ein hole. Pan ddaru nhw gyrraedd yno, doedd yno neb i’w croesawu, na siw na miw yn unman ond sŵn y fflamie. Wrth feddwl am gartre, a be dase’r stori’n mynd yno, mi gofiodd Wmffre a fi’n sydyn mai ar y ffordd i’r Seiat roeddem ni. A doedd dim rheswm gwell i’w roi dros fod heb wybod am yr helynt na deyd ein bod ni yn y Seiat. Ac yno â ni. Pan oeddem ni’n sefyll y tuallan i’r capel yn petruso trwy ba ddrws i fynd i mewn, agorodd un o’r dryse, a’r bobol yn dechre dwad allan. Mi ddechreuodd gwefuse Wmffre grynu. “Hidia befo,” medde fi, “raid inni ddim deyd adnod.” A dene ni’n troi’n ol a dechre toddi i mewn i’r gynulleidfa. “Helo!” medde llais fel taran o’u canol nhw, “ymhle y buoch chi?” “Dowch i mewn bobol,” medde’r llais wedyn, fel taran arall. Ac i mewn â phawb. Wedi inni godi’n llygid, pwy oedd yn edrych i lawr arnom ni fel un o’r pethe hynny fedre fo godi a gostwng, ond Daniel Williams. Ddeydodd o ddim, ond edrych arnom ni. Ac roedd hynny’n ddigon. Roedd y distawrwydd yn llethol, a’r torri cyntaf arno oedd ein gwaith ni’n snyffio crio. Yna gofynnodd Daniel Williams inni am adnod. “Cofiwch wraig Lot,” medde Wmffre dan ddal i snyffio crio. “A Job a atebodd ac a ddwedodd,” medde finne yn yr un gyflwr a fo. Dene lle buom ni wedyn allan o hydoedd yn gwrando ar Daniel Williams yn deyd hanes Job a gwraig Lot. Mi allswn i feddwl ar ei stori o, yn ol yr hyn oeddem ni’n ddallt arni, fod y ddau’n ffrindie mawr. Wedi iddo fo orffen deyd hanes y ddau, aeth pawb adre. Yr oedd arnom ni ofn Daniel Williams o’r blaen, beth am yrwan, te? A dene sut roedd hi ar bethe rhyngom ni a Daniel Williams ddiwrnod y Magic Lantar, pan ddaru ni neidio o’r badell ffrïo i’r tân. Y gweinidog o’r dre oedd yn dwad i roi Magic Lantar, i dynnu tipyn ar ddyled y capel. Mi ddaeth yn gynnar yn y pnawn i’r Hendre yn ei gerbyd, a’i gelfi efo fo. Ond doedd dim lle i’r ferlen yno am mai gaea oedd hi, a’r anifeilied i gyd i mewn, a’r Hendre’n ffarm fechan. Dyma air i’n tŷ ni eisio i mi fynd i’r Hendre. Ac mi es i ac Wmffre. “Nedw,” medde John Edwards yr Hendre, “fedri di ddreifio?” “Medra,” medde fi. Fum i rioed yn gafael mewn awenne, ond wedyn doeddwn i ddim gwaeth er trio. “Fedrwch chi’ch dau fynd â’r cerbyd yma i’r Waen i dŷ Daniel Williams?” medde John Edwards. “Medrwn,” medde ninne efo’n gilydd. “Ewch i mewn,” medde John Edwards. Ac i mewn â ni, mi’n gafael yn yr awenne a John Edwards yn gafael ym mhen y ferlen nes inni fynd o’r buarth i’r ffordd fawr. Wedi deyd wrthym ni am gymyd gofal, aeth John Edwards yn ei ol. Mae’r ffordd o’r Hendre i’r Waen yn agos i dair milltir, a’r un ffurf a’r llythyren Z, ac yn ffordd fynydd bron i gyd. Wedi mynd o olwg yr Hendre, dene stopio’r cerbyd i feddwl sut i neud. Roeddem ni wedi clywed lawer gwaith am ddynion yn gyrru nes bod carne’r ceffyl yn gwichian. Ac mi ddarum benderfynu y carem ninne glywed carne ceffyl yn gwichian am unweth yn ein hoes. A dene yrru, a gyrru, ond doedd carne’r ferlen ddim yn gwichian er ei bod hi’n rhedeg yn ofnadwy. Dyma ni’n trio cynllun arall,—codi ar ein traed yn y cerbyd, a neidio ar i fyny, a disgyn yn ol iddo, mor debyg i lwyth o gerryg ag y medrem ni. A phob tro y gwnaem ni hynny, roedd y ferlen yn rhoi plwc newydd, ac yn chwyrnellu mynd, ond doedd ei charne hi ddim yn gwichian. Wedyn dene drio sut y llwyddai dawnsio yn y cerbyd a gneud oernade. Mae’n wir fod y ferlen yn mynd, ond doedd ei charne hi ddim yn gwichian. Er tynnu at yr awenne a phlycio a neidio, a sgrechian, doedd dim yn tycio,—methu â chael ei charne i wichian ddaru ni. Wrth gwrs, doedd gennym ni ddim syniad sut i droi trofa, neu basio rhywbeth ar y ffordd. Y peth a wnaem ni’r adeg honno, oedd tynnu at yr awenne nes i’r ferlen stopio, a mynd i lawr a gafael yn ei phen. Wedi dwad heibio braich olaf y ffordd, yr oeddym yn rhydd i fynd fel y mynnem wedyn, a chafodd y ferlen fynd, a ninne’n y cerbyd yn dawnsio a neidio a gneud y sŵn mwyaf priodol i’r amgylchiade. Mi ddaru’n gyrraedd y Waen rywsut heb feddwl, a phwy oedd yn sefyll ar ganol y buarth, yn chwythu yn ddigon trwm i’n taro ni i lawr, ond Daniel Williams ei hun. Daeth ymlaen heb ddeyd gair, gafaelodd yn y ferlen oedd yn laddar o chwys, a throdd ei gefn arnom. Mi ddaru’n i’n dau sylwi fod ei war o’n goch iawn wedi iddo droi. O’r cerbyd â ni fel awel, a heibio’r gornel o’r golwg cyn i Daniel Williams ddwad yn ei ol, neu wn i ddim sut y base hi arnom ni. “Wel,” medde Wmffre, “dene ddigon ar Daniel Williams,—y Magic Lantar bellach.” Doeddem ni ddim wedi meddwl am ddim arall ers wythnose. Ac i feddwl ein bod ni wedi cael gyrru cerbyd dyn y Magic Lantar. Mi wyddem y bydde dannedd y bechgyn i gyd yn rhedeg. Dene fynd i’r capel, a gosod ein hunen mewn lle amlwg i weld pethe, ryw ddwylath oddiwrth y gynfas. Toc, mi gododd y gweinidog. “Dydi’r cadeirydd ddim wedi dwad,” medde fo, “ac mae’n bleser gen i ofyn i Daniel Williams, Eos y Waen, gymyd ei le.” Mi gurodd pawb eu dwylo ond Wmffre a fi. Dyma Daniel Williams ymlaen, ac eistedd yn syth o’n blaene ni, gan edrych i’n cyfeiriad ni, ac mi spwyliodd y cwbwl. O drugaredd mi aeth y gole i lawr a Daniel Williams o’r golwg, ond yn y munud mi waeddodd Wmffre dros y lle,—“Mae rhywun yn fy mhinsien i.” Wyddom ni ddim yn iawn hyd heddyw pwy ddaru, ond roeddem ni o fewn cyrraedd braich Daniel Williams. Mi ddarum feddwl y base rhyw gysur ar ol i’r gole fynd i lawr, ond mi’n siomwyd wedyn, a dyma fi’n dwad at yr ail reswm y sonies i amdano. Welsoch chi rotsiwn beth, roedd y lantar yn mygu fel odyn. “Llun blacs o Affrica sy ar y gynfas rwan,” medde’r gweinidog. Ac mae’n debyg ei fod o’n deyd y gwir. Welem ni mo’r gynfas, ond mi welem flacs yn nofio yn yr awyr ymhob man. A beth bynnag a ddeydai’r gweinidog oedd ar y gynfas, welem ni ddim ond y blacs yma, nid ar y gynfas, ond rhyngom ni â hi. Dene’r gole i fyny o’r diwedd, ac yr oedd Wmffre a fi, oedd yn ymyl y lantar, fel blacs ein hunen, yn enwedig lle roedd Wmffre wedi crïo tipyn ar ol y pinsh hwnnw. Ond roedd ene un cysur,—pan gododd Daniel Williams i ddiolch i’r gweinidog, mi welem ei fod ynte fel blac hefyd. A fedre fo ddim mynd yn ei flaen gan fel roedd pobol yn chwerthin am ei ben o. Ac roedd cael chwerthin am ben Daniel Williams, Eos y Waen, yn beth mor newydd nes ei fod o bron cystal â Magic Lantar. VIII.—BOD YN DDIYMHONGAR. Mae Wmffre a fi wedi cael diwrnod da iawn heddyw at ei gilydd. Doedd ene’r un ysgol am fod merch y Cwm yn priodi, a’r scŵl eisio bod yn yr Eglwys yn canu’r organ. Roedd y rhan fwyaf o’r bobol a’r plant wedi mynd i weld y briodas a’r rhialtwch, ond tydi pethe felly ddim yn apelio atom ni ein dau. Mynd i’r mynydd i chware at dŷ Winnie Jones y Llety ddaru ni. Mae tŷ yr hen Winnie wedi ei wthio i’r mynydd, ac mi fedrwch gerdded oddiar y mynydd ar y tô yn ddigon hawdd. Doedd yr hen wraig ddim gartre, roedd hithe wedi mynd i weld y briodas, ac i ddawnsio yn yr helynt. Yr ore yn y wlad am ddawnsio step y glocsen ydi hi, medde nhw. Pan oeddem ni ar ganol chware, beth welem ni’n mynd i mewn i simdde’r Llety ond jac-dô. Mae nhw’n bla yn yr ardal yma. Yn y simddeue y mae nhw’n gneud eu nythod, a thrwy hynny yn eu cau i fyny. “Wmffre,” meddwn i, “be tase ni’n ei ddal o?” “Fedrwn ni ddim,” medde Wmffre, “mae ’i nyth o ’n rhy isel i lawr.” Ar y funud mi gofies am geiliog Winnie Jones. Pe tase hi gartre chaem ni ddim trio dal hwnnw. Mae hen bobol fel plant bach, medden nhw, wyddan nhw ddim beth sy ore ar eu lles nhw. Sefyll yn eu gole eu hunen wna’n nhw. Mi sylwes lawer gwaith pan ddisgynne jac-dô ar ein buarth ni, fod y ceiliog ar ei ol o ’n syth. “Be tase ni’n dal y ceiliog, a’i anfon i lawr y simdde ar ei ol?” medde fi wrth Wmffre. “I’r dim,” medde Wmffre, ac i chwilio am y ceiliog â ni. Rhuthrodd Wmffre iddo fo, ac i ffwrdd â fo yn syth dros y gwrych i’r mynydd. Mi weles yn union fod yr hen air,—“Yn ara dêg mae dal yr iâr”—yn wir am geiliog hefyd. Ond y mae gan Winnie Jones ddau geiliog, ac am y llall â ni. Wrth fynd yn amyneddgar cawsom o i’r cyt, a’i ddal mewn dim amser. Dechre sgrechian dros y wlad wnaeth o, ond mi dewodd yn fuan. I fyny’r tô â ni, a’i ddal uwchben y simdde. Buom yn petruso tipyn ai’r peth gore oedd ei roi i lawr ai peidio. Cofies i fod mam reit amal yn dal y gath a mynd â hi at dwll llygoden. Ac os gosod cath i ddal llygoden, pam nad gosod ceiliog i ddal jac-dô? Doeddem ni ddim wedi sylwi fod neb yn y golwg, a phan oeddem ni’n ymresymu ynghylch y ceiliog,— “Helo,” medde rhywun fel taran odditanom ni. Mi ddychrynnes gymint nes gollwng y ceiliog o nwylo. I lawr y simdde â fo, a dene’r jac-dô allan fel bwlet. Chlywsoch chi rotsiwn sŵn a’r un ddoi o’r tŷ. Roedd y ceiliog yn sgrechian a gweiddi, ac fel tase fo ymhob man ar unweth. Mi syrthiodd trwy’r simdde i’r gegin yn lle bachu’r jac-dô ar ei ffordd. Mi ddaru ni cyn gadael gyfri saith o blatie’n disgyn o rywle, ac yn torri’n chwilfriw. Pwy oedd yn y ffordd yn aros amdanom ni ond William, brawd Wmffre, sydd newydd ddarfod ei goleg. Bu raid esbonio’r neges ar ben y tô, a meddwl ddaru William, wedi clywed y stori, nad oedd yr eidïa o roi ceiliog i ddal jac-dô yn un ddwl, tase’r ceiliog yn un teilwng. Roeddem ni’n meddwl mai rhywbeth fel ene fase ei ateb o, o achos mae William bob amser yn sôn am ryw eidïa neu’i gilydd ar ol bod yn y coleg,—eidïa dda, neu eidïa ddwl, neu eidïa heb fod mor ddwl. Dene fel y mae o yn eu rhannu nhw. “William,” medde fi wrtho, i droi’r stori, “bedi bod yn ddiymhongar?” “Faset ti’n leicio gwybod, Nedw?” medde fo. “Baswn,” meddwn inne. Mi gipiodd fy nghap oddiar fy mhen, a rhoddodd o ar ei ben ei hun. Dydio ddim arfer a gwisgo dim am ei ben, er mwyn bod yn y ffasiwn. Dechreuodd neidio a rhedeg, a’r cap yma fel cocyn hitio ar ei ben o, o achos mae pen William wedi gorffen tyfu. Rhoddodd gic i hen dun corn bîff oedd ar ochor y ffordd, rhedodd i ben corn simdde Winnie Jones, ac edrychodd i lawr, neidiodd dros giât yr ardd ac yn ei ol, a dechreuodd neud nade fel pob math o greaduried. “Mi allswn feddwl,” medde Wmffre wrtha i, pan oedd William yn mynd trwy’r ciamocs yma, “nad ydi bod yn ddiymhongar ddim yn rhyw wahanol iawn i fod ddim yn gall.” Dene oedd yn rhedeg trwy fy meddwl inne, ond nad oeddwn i ddim yn leicio deyd. Wedi’r cwbwl, y mae Wmffre’n frawd iddo, a minne’n ddim ond cefnder, a nês penelin na garddwrn. Wedi colli ei wynt yn lân, daeth William atom ni. “Dene ydi bod yn ddiymhongar,” medde fo. “Mae’n ddrwg gen i ddeyd,” medde fi, “nad ydwi fawr gwell eto.” “Wel di,” medde fo, “mi fum i’n hogyn fel ti, yn gwisgo cap fel ene, yn cicio tunie a neidio dros giatie, a gwatar creaduried, a thaflu pethe i lawr simdde Winnie Jones, ond rwan rydwi wedi bod yn y coleg, ac wedi newid. Dyma ydi bod yn ddiymhongar, cymyd arnat nad wyt ti wedi newid dim o’r hyn oeddet ti estalwm. I fod yn glir,” medde fo, “dyma’r ysgol yma,”—roedd ene ysgol yn pwyso yn erbyn ysgubor Winnie Jones,—“Mae eisio iti ddringo i ben yr ysgol yma, ond er hynny cymyd arnat mai yn y gwaelod yr wyt ti o hyd. Dyma fi wedi dringo’r ysgol a mynd i’r Coleg,—bod yn ddiymhongar ydi actio fel taswn i heb ddringo dim.” “Wyt ti’n deyd,” medde Wmffre, “mai actio ar ben ysgol fel tase ti yn y gwaelod ydi bod yn ddiymhongar?” “Dene fo,” medde William. “Dydwi ddim yn gweld felly,” meddwn inne, “fod bod yn ddiymhongar yn rhywbeth sâff iawn, a gadael allan y ffaith nad ydio ddim yn edrych yn beth hynod o gall.” “Rydwi o’r un farn â ti,” medde William, braidd yn chwerw, “ond rhaid i mi ei thrio hi.” Yr hyn gychwynnodd yr ymgom ene oedd y peth glywsom ni bob dydd ar ol i William ddwad o’r coleg. “William bach,” medde’i fam wrtho fyth a hefyd, “gofala di ddal yn ddiymhongar.” “William,” medde fy mam inne, “gofala, machgen i, fod yn ddiymhongar, a phaid ag anghofio dy deulu.” “William,” medde nain, “paid ag anghofio, ngwas i, y graig y nadded di ohoni. Bydd yn ddiymhongar, machgen i.” “William,” medde Modryb Marged, “mi dalith iti fod yn ddiymhongar ac edrych am dy deulu, pobol felly sy’n wir fawr.” “Beth sy gennych chi fechgyn i neud y pnawn yma?” medde William wrthym ni ill dau. “Dim byd o bwys,” medde ninne. “Ddowch chi efo mi?” medde William. “Rydwi am drio bod yn ddiymhongar, a chwilio am fy nheulu, a bod efo nhw fel ers talwm. A dene lle’r ydwi’n mynd yrwan.” “Lle byddi di amser tê?” medde Wmffre. “Yn nhŷ modryb Elin,” medde fo. “Reit!” medde ni ill dau, ac i ffwrdd â ni. Roedd yn bwysig bod yn siwr o fan y tê cyn cychwyn, o achos mae’n anodd i ddyn ffansïo pawb o’i deulu yr un fath, wyddoch. Ond y mae modryb Elin yn lân iawn. Y lle cynta inni alw ein tri ynddo oedd tŷ Janet fy nghneither. “Sut ydech chi yma heddyw?” medde William, pan aethom at y drws, a ninne’n dau wrth ei gynffon o. Roedd Janet yn eistedd ar stôl wrth y tân, yng ngodre tomen o ludw, a babi ar ei glin, a gwenodd arnom heb ddeyd dim. “Sut ydech chi yma heddyw?” medde William wedyn. “Hy!” medde hi’n fodlon, dan wenu. Roedd yn ddigon hawdd gweld ei bod hi’n falch o’n gweled ni, mor falch nes anghofio ein gwâdd ni i mewn. “Mae hi’n braf,” medde William, oddiar garreg y drws. “Hy!” medde Janet, tan wenu o hyd. “Mi ddaw i lawio hefyd toc,” medde William. “Hy!” medde Janet wedyn, a rhyw chwerthin gneud yng nghorn ei gwddw. “Pnawn da,” medde William. “Pnawn da,” medde Janet, a dene’r gair cynta ddaeth dros ei gwefuse hi. “Y drwg ydi,” medde William ar ol mynd allan, “na neiff pobol ddim gadael iti fod yn ddiymhongar efo nhw. Mi chwaraeodd Janet a minne lawer efo’n gilydd ers talwm. A dene fi wedi trio bod yn ddiymhongar efo hi, ond chai ddim.” Y lle nesa oedd tŷ Leisa nghneither. Pan aethom ni at y drws, dene hi’n gweiddi cyn inni guro, “Helo’r hen William, tyrd i mewn, a chofia paid ag actio’r dyn mawr yma. Os wyt ti wedi bod yn y coleg, mi fu yno rai o dy flaen di. Pwy ydi’r rhein sydd efo ti?—Wmffre a Nedw, y ddau hogyn gwaetha yn y wlad. Be ddyliet ti o mhlant i?—mae ma naw. Mae John yma wedi brifo’i law, ac wedi mynd at Marged Evans y Foel i’w phwltrisio hi,” ac felly ymlaen. Daeth y cwbwl ene a chwaneg allan yn llinynne ar un gwynt. “Dyma le da i fod yn ddiymhongar,” medde fi wrthyf f’hun. Eisteddasom, a gwrando ar Leisa’n brygowtha fel ene am chwarter awr yn ddi-daw, dan siglo’r crud. Roedd ganddi hithe fabi. Mae’n teulu ni yn un mawr iawn mi wela. Deffrodd y babi, fel y basech yn disgwyl, a dene hithe’n ei godi a’i nyrsio. “Helo!” medde rhywun o’r tuallan. “Y cigydd,” medde hi. “Hwde hwn am funud, Wil, paid â bod yn sydêt, os wyt ti wedi cael coleg.” Taflodd y babi i William, ac allan â hi. Edrychwn i ac Wmffre’n reit syn, rhag ofn i ninne gael gwaith tebyg, o achos mi welwn ddau neu dri erill yn edrych arnom ni braidd yn big dlawd, heb i’r un ohonyn nhw fod yn fawr mwy na babi. Mi glywem Leisa wrthi hi’n siarad â’r cigydd mor ddi-ddiwedd ag wrthym ni. Edrych yn druenus iawn oedd William, a’r babi’n crïo ar ei lin nerth asgwrn pen. Doedd dim i’w neud ond codi a’i ddandlo ar hyd y llawr. Choeliech chi byth mor hir y bu raid iddo fod wrthi cyn i Leisa weld yn dda ddwad i’r tŷ. Dwn i ddim yn iawn be oedd ein teimlade ni. Mi garem chwerthin am ben William, ond roedd arnom ni ofn ein dau cael un bob un o’r lleill i’w nyrsio pan ddoi hi i’r tŷ. Rhyw hanner ganu a hanner chwyrnu, a deyd rhwng ei ddannedd nad oedd hi ddim yn talu i fod yn ddiymhongar oedd gwaith William. Toc, dyma Leisa i’r tŷ. “Rydwi’n meddwl yr âi rwan,” medde William, pan ddaeth hi i mewn, “ryden ni ar dipyn o frys. Pnawn da.” “Pnawn da, Wil,” medde hithe, “a tyrd yma eto am gypaned pan fyddai’n fwy trefnus, a phaid â bod yn sydêt.” “I ble nesa?” medde Wmffre a fi, “dim cam ymhellach os na chawn ni dŷ heb fabis a thomennydd lludw.” Edrych reit digalon ddaru William. “Beth petase ni’n ei gneud hi am gypaned i dŷ modryb Elin?” medde fo. Doedd gen i fawr i ddeyd, am nad ydi’r modryb Elin yma’n perthyn dim i mi. Modryb i William ac Wmffre o ochor eu tad ydi hi, a minne’n perthyn iddyn nhw o ochor mam. Wedi cyrraedd y drws a churo, dyma modryb Elin i’r drws. “Ho!” medde hi reit chwyrn, “chi sy’ ’ma, ai ê? Dowch i mewn, yn lle sefyll fel pyst ar garreg y drws. Pwy ydi hwn sydd efo chi?”—gan bwyntio ata i. Deydodd William wrthi, ac eisteddodd pawb i lawr. Roedd ei bachgen hi wedi methu yn y coleg, fel yr oedd mwya’r piti. “Sut y mae dy dad, ydio’n dandlo cymint ar dy fam ag erioed?” medde hi wrth William. Wydde William ddim yn iawn sut i ateb y cwestiwn dwbwl yma, a bodlonodd ar ateb y rhan gynta’n unig. “Mynd i nôl glo ar y tân oeddwn i,” medde hi, ac allan â hi. Ac allan y bu hi am hydoedd a hydoedd, nes ein bod ni wedi mynd reit bryderus am ei diogelwch hi, a’n stymogie ni hefyd braidd yn anesmwyth erbyn hyn. Eis allan i gymowta tipyn, o achos fum i rioed yma o’r blaen, ac mi glywn siarad. Modryb Elin oedd yn deyd wrth wraig y drws nesa, “Mae’n siwr eu bod nhw wedi hel eu hunen yma i dê, ond dydwi ddim am gynnyg tê iddyn nhw, o achos ’does gen i ddim dyled i fachgen Edward Roberts ene. Tase William ei hun yma mi fase’n beth arall.” Syrthiodd fy ngwep i’n syth, o achos fi ydi y mab Edward Roberts dan sylw wyddoch. Eis yn ol at ddrws y tŷ, a chodes fy mys ar Wmffre. Roedd William ar y pryd yn edrych ar y llunie ar y wal. Pan ddeydes i ’r stori wrth Wmffre,—“Wel, ta, ta, modryb Elin,” medde fo rhyngddo a fo ei hun. Ac i ffwrdd â ni tuag adre’n ddiseremoni. Wedi croesi cae neu ddau, mi welem lo modryb Elin yn pori’n dawel ar ganol y weirglodd. “Llo blwydd,” medde Wmffre. “Llo deunaw mis,” medde finne. “Dim ods,” medde fo. “Ydi’r creaduried isddynol yn ddiymhongar tybed?” [Illustration: “DROS EI BEN A’I GLUSTIE YR AETH O I MEWN.”] Gair mawr John Jones y Gwŷdd yn yr Ysgol Sul ydi “creaduried is-ddynol.” Fo ydi’n hathraw ni, ac y mae o’n sôn fyth a hefyd amdanyn nhw. Fel enghreifftie mi ddaw ag asen Balaam, y llo pasgedig, y mul bach fu’n cario Iesu Grist, a’r pethe hynny yn y gynfas honno a fwytaodd Pedr. Felly, mi welwch mai mulod, lloue, gwningod, a phethe felly ydi creaduried is-ddynol. “Gad inni drïo,” medde fi, “os ydio’n ddiymhongar, actio fel llo neiff o. Does dim achos iddo beidio â bod,—fu o rioed mewn coleg. Dos di ar ei gefn o, mi dywysa inne, ac mi gei weld na symuda fodfedd.” “O’r gore,” medde Wmffre, a neid ar ei gefn. “Wb!” medde’r llo, ac i ffwrdd fel mellten. Ches i ddim ond rhuthro i’w gynffon, na baswn i wedi ngadael ar ol. Dene lle roeddem ni’n rybedio mynd,—Wmffre ar gefn y llo yn gafael yn dỳn yn ei flew, a minne’n ei gynffon. Ac Wmffre’n gweiddi,—“Twy-llw-llw-wr y-di-i-o-o-o. Nid llo-o-o-o ond ce-e-ce-ff-yl ra-a-as.” Fedre fo ddim siarad yn naturiol, oherwydd bympiade’r rhedeg, a rhwng y bympiade yr oedd o’n cael ei eirie allan. Peder gwaith rownd y weirglodd yr aethom ni, yna trwy adwy i gae arall, ac i lawr fel mêl trên tua’r afon, trwy’r afon ac i lawr y dolydd, ac Wmffre ’n deyd ei stori wrtha i bob yn dipyn fel y caniatai’r bympio. Yng ngwaelod y dolydd y mae llyn o fwd, a thua hwnnw y cyfeiriodd y llo. Mi gredes mai yno y basem ni ein tri. Ond pan o fewn rhyw chwe modfedd, mwy neu lai, i’r llyn, stopiodd y llo yn stond. ’Daeth neb i’r llyn ond Wmffre. Dros ei ben a’i glustie yr aeth o i mewn. ’Doedd dim i’w neud bellach ond gollwng cynffon y llo i’w gael o allan. Roedd golwg mawr arno, yn poeri baw, a rhwbio’i wyneb â glaswellt, a disgrifio’r llo. “Nid llo ydio,” medde Wmffre, “ond ceffyl râs a mul wedi’u cymysgu,—yn rhedeg fel ceffyl râs a stopio fel mul.” Wedi cael Wmffre’n weddol lân, a’i dawelu, yr anhawster oedd beth i’w neud â’r llo, o achos symude fo ddim. Doedd dim i’w neud ond ei droi yn ferfa trwy godi ei ddau droed ol fel breichie berfa, a’i wthio. Ond i ble i fynd â fo? Roedd ei gartre’n rhy bell i’r dull yma o drafaelio. Roedd dwy ffarm yn ymyl,—y Graig a’r Waen. Cofiasom fod llo’r Graig wedi marw ddeuddydd cyn hynny, a bod iddo, felly, le yng nghornel hwnnw, ac yno ag ef. Doedd neb o gwmpas. Wedi gorffen dene eistedd i lawr i orffwys, o achos gwaith caled ydi gneud berfa o lo. Ymhen tipyn mi glywem sŵn. Seina ’r forwyn oedd yn dwad i odro. Doedd dim i’w neud ond cuddio nes cael y ffordd yn glir i fynd adre. Dechreuodd Seina odro, a phan oedd y stên bron yn llawn brefodd y llo o’i gornel, cornel dipyn yn dwyll. Dene sgrech, y llaeth ar hyd y llawr, a Seina allan o’r côr fel ergyd o wn dan weiddi,—“Y llo wedi adgyfodi oddiwrth y meirw. Dyma’r diwedd wedi dwad. Yr udgorn a gân, a’r meirw a gyfodant.” Un dda iawn am ddeyd adnode ydi hi. Rhag ofn fod rhywun arall yn ymyl, doedd dim i’w neud ond mynd adre gynted gallem ni, oherwydd roedd yn amlwg ein bod ni wedi gneud tipyn o gamgymeriad. Pan yn ymyl y tŷ eisteddasom i orffwys,—“Nedw,” medde Wmffre, “ydi bod yn ddiymhongar yn rhinwedd, dywed?” “Wel,” medde fi, wedi meddwl tipyn, “dydio ddim yn rhinwedd mewn dynion, ond synnwn i ddim nad ydio felly mewn lloue.” Cydsyniodd Wmffre’n galonnog â hyn, oherwydd ei brofiad efo’r llo. Cydsyniodd William hefyd, ymhellach ymlaen, pan welsom ef, oherwydd ei brofiad efo pobol. O! ia, mi fu ceiliog Winnie Jones, a ddiangodd, am ddyddie yn gneud ei ore i ladd yr un aeth trwy’r simdde, o achos ei fod yn meddwl mai ceiliog diarth oedd o. Roedd hwnnw wedi troi o fod yn geiliog coch, i fod yn un du. IX.—DEWYRTH A BODO. Un gwirion ydi dewyrth, beth bynnag, o achos mae o’n meddwl nad oes neb yn gall ond fo, ond rydwi wrth fy modd efo fo er hynny. Gŵr bodo ydio. Am bodo, un yn siarad bob amser fel tase hi’n gyrru’r gath allan o’r bwtri ydi hi. Dydi dewyrth yn gneud dim byth pan fydd o hefo chi, ond eich holi. Yr un math o gwestiyne sydd ganddo fo bob amser,—rhai o’r Beibil. Ac rydwi’n leicio’i gwestiyne fo, o achos tydio ddim yn disgwyl i neb eu hateb nhw. Eu gofyn mae o er mwyn cael cyfleustra i’w hateb nhw’i hun, ac er mwyn cael ei wynt. Mae’i wynt yn fyr, ac y mae gofyn cwestiyne’n fantes iddo fo orffwys wrth fynd i fyny allt. Fel arall y mae bodo, ac mae’n gas gen i hi. Mae hi’n gofyn cwestiyne fel tase hi’n awyddus i roi cweir i chi, ac yn gobeithio na fedrwch chi mo’u hateb nhw, er mwyn iddi gael esgus dros neud. Un bore yn y gwylie ha, roeddwn i’n mynd yno dros mam. Pwy oedd yn eistedd i orffwys yng ngwaelod yr allt ond dewyrth. “Rhosa, Nedw,” medde fo. “Wyt ti’n mynd acw?” “Ydw,” medde finne. “Cymer ofal,” medde fo, “dydi _hi_ ddim yn ei phethe heddyw. Mae’r ffit lân arni hi. Rhaid iti dendio dy begie. Rhosa funud mi ddo i efo ti.” Ac roedd o’n siarad fel y gwelsoch chi drên yn trio’i phwffian ei hun i ben yr allt ar ddiwrnod gwlyb, a methu. Dene ni’n cychwyn ill dau. Wedi mynd ryw ddwsin o game, mi welwn dewyrth yn chwilio am le i eistedd, ac mi wyddwn y bydde ene gwestiyne i mi’n union, er mwyn iddo fo gael esgus i eistedd, o achos tydio ddim am i neb wybod fod ei wynt o’n fyr. “Nedw,” medde fo, wedi cael carreg i eistedd arni, “gad imi ofyn cwestiwn iti,—pam fod yr efengylydd Ioan wedi sgwenu ei Efengyl mewn geirie bychin?” “Wyddwn i ddim ei fod o wedi gneud,” medde fi. “Do,” medde dewyrth, ac yn ei flaen â fo. Roedd o wedi cael ei wynt ato erbyn hyn. “Nedw,” medde fo, ymhen tipyn, tan edrych o’i gwmpas am le i eistedd a phwffian, “ddeydest ti ddim pam fod Ioan—pwff—wedi sgwenu’i Efengyl—pwff a pheswch—mewn geirie bychin?” “Naddo,” medde fi. Erbyn hyn roedd o wedi cael ei wynt ato wedyn. I fyny â fo, ac yn ei flaen. Mi gwelwn o’n crafu yn y man, ac yn pesychu fel ceubren, fel mae pobol yn deyd, ac yn gorffwys ar foncyff draenen, wedi ymlâdd. “Nedw,” medde fo, “faset ti—pwff a pheswch—yn leicio gwybod?” “Baswn,” medde finne. Ond ymlaen a fo wedyn, wedi cael ei wynt ato unweth yn rhagor. Ymhen ennyd dene arafu, ac eistedd ar wal, a phwffian a phesychu na welsoch chi rotsiwn beth. Ond yr hwyl oedd ei fod o’n trio cymyd arno nad oedd o ddim yn gneud. “Nedw,” medde fo ar ol eistedd, “faset ti’n leicio gwybod?—pwff a pheswch.—Wel, am na fedre fo ddim ei sgwenu hi mewn geirie mawr.” “O,” medde fi, yn hollol fodlon ar ei ateb. Dene dewyrth yn edrych arnai’n syn, fel tase fo’n deyd wrtha i,—“rwyt ti’n un gwirion, Nedw, na faset ti’n gofyn i mi pam, er mwyn imi gael esgus arall i gymyd fy ngwynt trwy aros i dy ateb di.” “Pam?” medde fi. “Mi ddeyda iti,” medde fo. Ond ddaru o ddim deyd. Mynd yn ei flaen ddaru o. Yna gorffwys wedyn i bwffian a phesychu. “Ysbrydolieth a’i gorfododd o, machgen i,” medde fo yn y man, rhwng y pwffiade a’r pesychiade. “Bedi ysbrydolieth?” medde fi. Yn ei flaen â fo. Yna eistedd wedyn a phwffian a phesychu, a chymyd arno nad oedd o ddim yn gneud. “Weldi’r sowldiwr acw?” medde fo toc, tan ddangos sowldiwr pren ar hoelen a pholyn yn yr ardd yn troi efo’r gwynt. “Gwela,” medde fi. “O,” medde dewyrth, ac yn ei flaen â fo. Ymhen eiliad, eistedd wedyn, a phwffian a phesychu fel tiwn gron. “Sôn am ysbrydolieth oedden ni’n tê?” medde fo. “Ia,” medde fi. “Wel, Ioan ydi’r sowldiwr pren, ac ysbrydolieth ydi’r gwynt sy’n ei droi o,” medde fo rhwng hanner dwsin o bwffiade a phesychiade. Ac yn ei flaen â fo wedyn. Stopiodd yn y man fel tase fo eisie i mi ofyn cwestiwn, ond ddaru mi ddim. “Wyt ti’n dallt?” medde fo. “Dallt be?” medde fi. “Dallt bedi ysbrydolieth?” medde fo. “Rydwi’n meddwl mod i,” medde fi. “Be?” medde fo wrth godi i ailgychwyn. “Gwynt yn troi sowldiwr pren, yntê?” medde fi. “Twt, lol,” medde dewyrth, ac yn ei flaen â fo nes dwad i ben ei dennyn. “Fel hyn,” medde fo yn y man, “roedd ysbrydolieth yn gorfodi Ioan i sgwenu mewn geirie bychin—pwff a pheswch—fel y gwynt y sowldiwr pren.” “Ond tydi’r gwynt ddim yn gorfodi’r sowldiwr pren i sgwenu mewn geirie bychin,” medde fi yn ffwndrus. Aeth dewyrth yn gaclwm gwyllt yn y fan yma, nes i’w besychu roi pen ar ei stori. Ac roeddwn i yn y niwl yn lân. Wyddwn i ar wyneb y ddaear pwy oedd ysbrydolieth. Ond cyn i mi gael amser i ofyn iddo, i ffwrdd â fo. Stopiodd wedyn i eistedd. “Nedw,” medde fo toc, “prun ai dyn tal ynte dyn byr oedd Paul?” Atebes i mono fo am dipyn. Roeddwn i’n meddwl am yr ysbrydolieth yma. Mi allswn i feddwl ar dewyrth mai dyn wedi cael rhyw siort o strôc ydio, a rhywun yn gafael yn ei law ac ynte’n ddiymadferth, a’i defnyddio hi i sgwenu’r hyn mae o’n ddymuno. Ond yn ol y tipyn a glywes i am Ioan, dydio ddim yn edrych yn debyg iawn i fel tase’i Efengyl o wedi’i sgwenu gan ddyn wedi cael strôc. Mae’n rhaid, felly, fod rhyw ddrwg yn y caws, ynglŷn â syniad dewyrth amdano fo. Erbyn imi gael fy meddwl at ei gilydd, wedyn, ynghylch Paul, roedd dewyrth wedi mynd. Eis ar ei ôl o, ac roedd o’n aros amdana i, ac yn pwffian a phesychu, a’i frest fel rhegen rych. “Prun, Nedw?” medde fo. “Dyn tal,” medde fi. Cododd ac aeth yn ei flaen gam, ac eistedd wedyn, dan yr un amgylchiade ag arfer. “Sut gwyddost ti?” medde fo. “Dwn i ddim,” medde fi, “ond mod i’n meddwl.” “Thâl meddwl ddim i grogi dyn,” medde dewyrth yn ffrwt, a’i wyneb yn goleuo. “Dyn byr oedd Paul,” medde fo, “y lleia ohonyn nhw i gyd.” Ac yn ei flaen â fo. Eisteddodd wedyn, ac edrych arna i fel tase fo eisio i mi ofyn cwestiwn arall. “Sut hynny?” medde fi. “Mae o’n deyd ei hun,” medde fo,—“Myfi y llai na’r lleiaf o’r holl saint,—y byrra ohonyn nhw i gyd oedd o’n siwr i ti. Dene iti adnod ar y pwnc i’w dysgu erbyn y Sul nesa.” Erbyn hyn yr oeddem ni ar dop yr allt, ac yn ymyl ei dŷ o a bodo,—tŷ bychan ar dop yr allt ydio,—a dewyrth, bellach, yn medru cerdded heb bwffian a phesychu, ac am hynny ’doedd dim achos gofyn mwy o gwestiyne. Wrth fynd at y drws, “Cymer di ofal,” medde dewyrth dan ei lais, “cofia fod y ffit lân arni _hi_ heddyw.” “Hi” mae dewyrth yn galw bodo, a “nacw” mae bodo’n ei alw fynte. Ac roedd yn amlwg fod y ffit lân ar bodo’n drwm. A pheth diflas ydi’r ffit lân, yn enwedig ar amser bwyd. Mae hi i radde er bodo bob amser. Does ene ddim farnish ar yr un o’r cadeirie, mae bodo wedi’i rwbio i ffwrdd wrth eu cnau nhw. Ac y mae cader dewyrth bron yn dwll, gan y rhwbio parhaus arni, ac yn splintars i gyd. Am hynny, wedi i dewyrth unweth eistedd yn ei gader, feder o ddim symud ond efo gofal. Ac am y llawr,—llawr pren ydio,—mae o cyn wynned a thrensiwr. Os bydd y cadeirie, a’r ffendar a’r heyrn tân, i gyd ar ben y bwrdd, mae hynny’n arwydd fod y ffit lân yn drom iawn ar bodo. Pan aeth dewyrth a fi i mewn, doedd yno ddim ond un gader ar lawr, a honno wrth y drws, a’r gweddill i gyd â’u gwadne i fyny ar ben y bwrdd, a’r ffendar a’r heyrn tân, a’r canwyllbrenni pres, a’r scelet, ar dop y cwbwl. Doedd bodo ddim yn y tŷ, ond roedd ei sŵn hi yn y bwtri. “Tyrd i mewn, Nedw,” medde dewyrth, “gad imi edrych am yr adnod honno iti.” Ac estynodd y Beibil oddiar y dresal. Dene Bodo i mewn fel tân gwyllt, ac yn cipio’r Beibil oddiarno fo, ac yn bloeddio fel gwraig wallgo,—“Be haru’r dyn, deydwch?—yn darllen ei Feibil liw dydd gole glân, a finne newydd ei ddystio fo hefyd.” Ar hyn, sylwodd arna i yn eistedd ar y gader, yr unig un oedd i’w chael, a dene ddyrnod i mi ar draws fy ngwyneb efo’r carp llawr, nes fy mod i’n speden. “Eistedd ar y gader ene ar bob dydd!” medde hi, “a hel dy draed ar hyd y llawr yma,—mae carreg y drws yn ffisiant i ti.” Ac allan â fi ar garreg y drws, a dewyrth ar fy ol i fel oen llyweth. “Tyrd am dro, machgen i, i weld yr ardd,” medde fo. Ac i’r ardd â mi. Roedd yno fath o setl i eistedd arni, a dene ni’n dau yn eistedd, a dewyrth yn pwffian yn ysgafn am yn hir fel tase fo’n smocio cetyn anweledig. Toc, dene fo’n troi ata i,—“Nedw,” medde fo, “mi wnest dipyn o gamgymeriad wrth eistedd ar y gader ene. Arni hi roedd o ’n eistedd ar y Sul. A ’does neb byth yn cael eistedd arni o gwbwl rwan. Dydi _hi_ ddim yn ei phethe’n rhyw dda iawn byth er pan ddaru hi ddigio tipyn wrth y Brenin Mawr. Dydi hi ddim ar delere da efo’r Brenin Mawr o gwbwl rwan. Mi dreuliodd lawer ar ei glinie wrth y gader ene yn gofyn i’r Brenin Mawr roi’i aden drosto _fo_, ond ddaru o ddim dybygswn i, os nad oedd _o_ ’n gwrthod mynd dan ei aden o wedi cael cynnyg. Mae ffordd fel ene o edrych arni, wyddost. Ac am wn i nid ar y Brenin Mawr oedd y bai.” Yn y fan yma mi ddaru rhyw ddeigryn bach hel i gornel llygad dewyrth. “Gad inni droi’r stori, Nedw,” medde fo. “Faset ti’n licio imi dy holi di eto?” Yn gweld y plesie hynny fo, mi ddeydes “baswn.” “Wel,” medde dewyrth, “prun ai gŵr priod ynte hen lanc oedd Paul?” “’Dwn i ar wyneb y ddaear,” medde fi. “Mi allswn i feddwl mai hen lanc.” “Pam?” medde dewyrth. “Doedd o byth adre,” medde fi. “Dydi’r ateb ene’n deyd dim, mae o’n torri ddwy ffordd,” medde dewyrth. “Gŵr priod oedd Paul iti.” Ac mi drychodd arnai’n hir tan smocio’r cetyn anweledig yma, yn disgwyl i mi ofyn cwestiwn iddo. “Sut ydech chi’n deyd hynny?” medde fi o’r diwedd. “Mae ene adnod yn deyd,—’Pwy a’m gwared i oddiwrth gorff y farwolaeth hon?’” Ac medde fo wedyn dan ei lais,—“Mae nhw’n deyd mai at ei wraig roedd o’n cyfeirio. Ac mae’n hawdd gen i ’u coelio nhw, achos un garw am siarad ar ddamhegion oedd Paul.” Bu’n ddistaw am dipyn wedyn, ac yna dwedodd dan ei lais,—“Nedw, y peth sydd rhynga i a ti, rhynga i a ti y mae o, yntê, machgen i?” Aeth ymlaen am dipym wedyn i smocio’r dim byd yma, gan bwffian yn ysgafn o hyd. “Dos ar flaene dy draed,” medde fo’n union, “ac edrych trwy ffenest y siambar, i weld be mae _hi_’n neud.” Mi es fel y deydodd o. “Ar ei glinie mae hi,” medde fi, wedi dwad yn ol, “wrth y gader yr eisteddes i arni, ac yn ei dystio fel tase hi ddim yn ei gweld hi, ac yn edrych i’r lle tân.” Ac yn wir, roedd yr olwg ryfedda ar bodo. Ar ei glinie o flaen y gader yma roedd hi, yn edrych fel tase hi’n cysgu â’i llygid yn agored, ac yn dystio. Mae’n debyg mai ceisio dystio sêt y gader oedd hi, ond doedd hi ddim yn ei chyffwrdd y rhan fwyaf o’r amser. Roedd hi’n dystio’r awyr ryw ddwy neu dair modfedd uwchben sêt y gader, ac yn edrych felly i’r tân, a siarad rhyngddi a hi ei hun. “Meddwl amdano _fo_ mae hi,” medde dewyrth, “dene’i gader _o_ ar y Sul, wyddost.” “Ia,” medde dewyrth ymhen tipyn,—“ei gader _o_ ar y Sul oedd hi.” Yna aeth â’i ben i’w blu. “Ia,” medde fo fyth a hefyd, “ei gader _o_ oedd hi ar y Sul.” Ac anghofiodd dewyrth bopeth amdana i. Mi rois gic bach i’w ffon o toc, ac mi ddeffrôdd. “Ia,” medde fo, “ei gader _o_ oedd hi,—helo, Nedw, ac rwyt ti yma? Rhosa di,” medde fo dan sirioli, “ddaru rhywun ddeyd wrthyt ti dy fod di’n debyg iawn iddo _fo_?” “Pwy ydi _o_?” medde fi. “Be! doeddet ti ddim yn ei nabod _o_?” medde dewyrth, fel tase rhywun wedi ei daro,—“ac mae cymint o amser a hynny? Erbyn meddwl, ’doeddet ti ddim wedi d’eni. Mae’n rhyfedd meddwl fod neb yn y lle yma, hefyd, heb ei nabod _o_. Ond rwyt ti’r un ffunud a fo, Nedw. Mae’r hen wraig wedi deyd hynny lawer gwaith.” Wel, wir, rydwi’n methu dallt pobol. Mae nhad a mam yn hollol wahanol i’w gilydd. Ond mae rhai’n deyd mod i run bictiwr â nhad, eraill mod i run ffunud â mam. A dyma ddeyd rwan mod i’n debyg iddo _fo_, ond neb yn deyd mod i ’n debyg i mi fy hun. “Nedw,” medde dewyrth toc, “dos eto ar flaene dy draed i edrych be mae _hi_’n neud.” Mi es, ac wedi dwad yn ol, “Ar ei glinie wrth yr hen gader y mae hi o hyd,” medde fi, “ond bod ei phenelinie hi ar y gader rwan, a’i dwylo ar ei gwyneb fel tase hi’n deyd ei phader, ac mae’i gwefuse hi’n mynd. Ond rydwi’n siwr mai deyd rhywbeth arall y mae hi, o achos fase neb yn deyd ei bader ar amser cinio, ai fase dewyrth?” “Wel,” medde dewyrth yn drist, “mi fydd yn well toc. Gobeithio y closhith hi dipyn yn nes at y Brenin Mawr.” “Lle mae’r cadeirie erill?” medde fo yn y man. “Ar dop y bwrdd,” medde fi. “A’r ffendar a’r stôl haearn?” “Ar dop y bwrdd.” “A’r canwyllbrenni pres a’r scelet?” “Ar dop y bwrdd.” “A’r setl?” “Ar dop y bwrdd.” “Ia, meddwl amdano _fo_ mae hi,” medde dewyrth, “a phan fydd hi’n meddwl mwy na’i gilydd amdano _fo_ mae hi’n cael y ffit lân yn drom iawn. Mi fase’n biti iddo fo ddwad i dŷ budur. Dos i edrych eto.” A dene fi’n mynd. Roedd hi ar ei thraed yrwan, yn sychu sêt y gader, oedd yn wlyb, yn ofalus. Ac wedyn yn mynd i dynnu’r cadeirie erill i lawr. Wedi imi ddeyd hynny, “Mi awn ni’n ol ymhen rhyw funud neu ddau,” medde dewyrth. Ac ymhen munud neu ddau, yn ol â ni, a minne’n cadw tu ol i dewyrth. Pan aethom ni i mewn,— “Nedw,” medde bodo, mewn llais na chlywes i mono ganddi hi rioed o’r blaen, llais toddedig a meddal fel yr afon bach dan tŷ pan ydech chi’n dal y’ch llaw ynddi hi. “Nedw,” medde hi, “tyrd yma, ’ngwas i.” Dene fi i mewn. “Dyma iti frechdan jam,” medde bodo. A rhoddodd frechdan jam dan gamp i mi. “Tyrd yma, Nedw bach,” medde hi wedyn. Mi roddodd y gader y tarodd hi fi â’r carp llawr am eistedd ynddi, ar ganol y llawr. “Nedw,” medde hi, “eistedd yn honene â’r frechdan jam yn dy law, a rho dy draed, fel ene, ar ffon y gader.” Ac mi ddarum, er bod fy esgidie i’n fudron. Edrychodd hithe arna i. Cymerodd gam yn ol, ac edrychodd wedyn. Cymerodd gam arall yn ol, a daliodd i edrych. A dewyrth yn edrych dros ei hysgwydd hi. “John,” medde hi wrth dewyrth toc. Ond pan drodd hi ei phen ’doedd dewyrth ddim yno. “John,” medde hi wedyn, ond ddaeth dewyrth ddim i’r golwg. Mi aeth i drôr y dresal, a chymyd cylleth wedi rhydu oedd yno, ag un llafn iddi wedi torri, a’i rhoi hi i mi. “Hwde, Nedw,” medde hi, “cadw hon yn ofalus, a dos adre.” Wrth fynd beibio’r penwar bach, pwy oedd yn eistedd ar garreg â’i ben rhwng ei ddwylo, yn siarad â fo’i hun bob yn ail ag edrych fel tase fo’n dal i smocio’r cetyn anweledig yma, ond dewyrth. “Cymyd ar ol teulu’i fam mae Nedw,” medde fo, “mae o run fath a _fo_ i’r dim.” Dene fi’n rhoi clec mawr ar y penwar. Mi gododd dewyrth ei ben. “Ac rwyt ti’n mynd?” medde fo. “Hwde, machgen i.” Mi aeth i’w boced, a thynnodd swllt allan, a rhoddodd o yng nghil fy nwrn i gan wincio arnai, ac edrych yn hir arnai wedyn heb ddeyd dim. “Wyddest ti be?” medde fo o’r diwedd, tan ochneidio, “mi leiciwn o waelod fy nghalon tase d’enw di’n Isaac. Rhed adre rwan.” Ac i ffwrdd â mi. Wedi cyrraedd gwaelod yr allt mi dryches yn ol. Dene lle roedd dewyrth a bodo ar ben y drws, a bodo a’i braich ar ysgwydd dewyrth, fel tase dim wedi bod rhyngddyn nhw, yn edrych ar fy ol i, ac yn chwifio’u dwylo. “Mam,” medde fi ar ol mynd i’r tŷ, “pam fod Isaac ni yn Isaac?” “Ar ol bachgen dewyrth a bodo,” medde mam. “Lle mae o, ydio wedi marw?” medde fi. “Rhed, machgen i, i Dyddyn Derw, mewn munud i nol cnegwarth o laeth, cyn iddyn nhw gychwyn i’r dre,” medde mam, gan dorri ar fy nhraws i. Ac i ffwrdd i Dyddyn Derw â mi. Mi welwn ar wyneb mam ar y pryd mai dene oedd ore. X.—SEC. Ddychrynnes i fawr erioed yn fwy na’r nos Iau cyn y dwaetha. Roedd hi wedi mynd braidd yn hwyr, ac yn twllu yn o drwm, a minne’n croesi Pont y Llan. Mae ene adwy yn ochor y bont, a phren derw mawr, gwag, yn ei chanol, a gwrych coed cnau mawr bob ochor i’r ffordd wedyn. Wrth basio’r adwy a’r pren derw, rhwng twyll a gole, mi welwn rywbeth gwyn yn estyn allan o ganol y twll, ac yn gneud sŵn gwichlyd,—“Ne-ene-ene.” Mi roddes neid ac i ffwrdd â mi fel y fellten. Wedi mynd heibio’r gornel, mi sefes i wrando, ac mi glywn wedyn y llais yn uwch a mwy nadlyd,—“Ne-ene-ene-edw, Ne-e-dw.” Adwaenes o’n syth, a throis yn fy ol. Llais Sec oedd o. Pwy ydi Sec, fedrai ddim deyd wrthych chi, ond Eseciel Bingley ydi ei enw fo ar lyfr yr ysgol, ac y mae o’n byw efo’r hen Jinny’r Gardden, yn Nhwnt i’r Afon. Dydio fawr o beth, i ddwad o dŷ Jinny, o achos mae hi ei hun yn garpie, a’i chroen fel melyn ŵy wedi torri, a ffrïo gormod—yn grebachlyd, heblaw bod yn rhyw felyn-ddu. Un ryfedd ydi Jinny. Hi ydi’r wraig sy’n mynd allan o’r capel i boeri. Mae hi’n eistedd yng ngwaelod y capel, a reit amal, pan mae’r pregethwr yn dechre mynd i hwyl, fe gyfyd Jinny yn sydyn, ac aiff allan i boeri, ac i mewn yn ei hol i wrando, fel tase dim byd wedi digwydd. Daeth Sec ati hi’n sydyn, na ŵyr neb o ble, pan oeddwn i yn Standard I., a rhoddwyd ynte’n Standard I. Rydwi yn Standard IV. yrwan, ond dal yn ffyddlon yn Standard I. y mae Sec o hyd. Doedd fawr o bwys ymha Standard y basech chi yn ei roi o, cyn belled ag yr oedd dallt pethe yn y cwestiwn, ond gan mai Standard I. fu’n ddigon caredig i’w dderbyn o, mae’n ymddangos nad ydi ynte am droi ei gefn ar hen ffrynd. Dene a ddywed Joseph y Titshiar. “Wel, Sec,” medde fi, “be wyt ti’n ei neud yma?” “O-o-es ge-n-n-o-t ti fa-a-ra b-b-ri-i-ith, Ne-ene-edw?” medde fo. Dwad adre o de parti’r Ysgol Sul yr oeddwn i, ac yr oedd yn naturiol imi fod wedi celcio tipyn o fara brith, fel y bechgyn erill i gyd, a’r un mor naturiol i Sec dybio hynny. “Oes, was,” medde fi. “Ga-a-i da-a-me-ed?” medde fo,—“i-i-sh-i-o—” Ond mi dorres ar ei draws o. “Dene be’ sy’ i gael am beidio â dwad i’r Ysgol Sul,” medde fi, ac i ffwrdd â mi, a thros y gamfa, ac i’r Nyrs Goed Llus. Erbyn hyn roedd hi’n mynd braidd yn dwyll. Pan yn nyfnder y nyrs,—“Ne-ene-ene—” medde rhywbeth dan fy nhraed i, ac mi roddes waedd a neid. Fedrwn i symud dim am funud, a dene’r “Ne-ene-ene—” hwnnw wedyn dan fy nhraed i. Beth oedd o ond sŵn bwrlwm y ffos fach dros garreg. Mi godes fy nghalon, ac ymlaen â fi yn bur ddewr, nes clywed,—“i-i-ish-sh-sh-i-o—” yn fy ymyl wedyn, a’m fferodd. Beth oedd o ond cangen yn rhwbio’r wal. [Illustration: “Y—SY—SY—SLUM,” MEDDE SEC.] “Thâl hi ddim fel hyn,” medde fi, “mi â i yn ol, a rownd y ffordd. Pan eis i at y gamfa, pwy oedd yn crïo â’i ben arni ond Sec, ac yn dal rhywbeth yn hongian yn ei law. “Bedi’r mater, Sec?” medde fi. “A-a Ne-ene-edw i-i-ish-i-o-o bw-bw-yd,” medde Sec. Ac mi ddalltes mai trïo deyd hynny yr oedd o pan adawes i o. Ond cyn imi fedru ei ateb, dene fo’n dangos y peth oedd yn ei law i mi. “Bedio?” medde fi. “Y-sy-sy-slum,”[8] medde Sec, “u-u-n by-w-w, mi-i c-c-ei o a-am d-a-a-me-ed.” Ac yn wir i chi, be oedd o ond slum y nos. Roedd o wedi dwad o hyd iddo yn yr hen geubren derw wrth Bont y Llan, y lle y bydde fo, gan amlaf, yn cysgu ynddo y nos, medde fo, er fy syndod i. Ac mi ddeydodd fod chwaneg yno, ac y cawn i stoc ohonyn nhw am damed o rywbeth bob dydd. Roedd pethe’n dechre gloywi erbyn hyn,—a gwyneb Sec yn llwyd. Wel allan â’r bara brith. Doedd o, rywsut, ddim mor flasus ar ol gweld gwyneb Sec. Mi cafodd o i gyd, ac mi wnaeth i minne gymyd y slum. Dene a ’nghychwynnodd i yn ddelar[9] slumod a gwningod. Mi ddeydes “nos dawch” wrth Sec, ac er ei bod hi’n bur dwyll erbyn hyn, roeddwn i adre heb yn wybod i mi fy hun, wrth feddwl beth ddeyde’r bechgyn fore drannoeth wrth weld slum byw gen i yn yr ysgol. Doedd y rhan fwyaf ohonyn nhw erioed wedi gweld yr un yn nes na’r awyr. Mi cadwes o ym mhoced fy nhrowsus dros y nos, a’r unig anlwc oedd iddo fo ddwad yn rhydd, ac i minne dorri orniment wrth ymbalfalu amdano yn y twllwch. Ond deliais o’n sâff, a chadwes o dan y gobennydd tan y bore. Sôn am boblogiedd,—doedd dim siawns i neb ond fi bore drannoeth. Chai neb weld y slum, ond ar yr amod eu bod nhw’n dwad â hanner dwsin o biwied i’w fwydo, o achos mai ar biwied y mae o’n byw. Wmffre oedd yn derbyn a chyfri’r piwied, a minne wedyn yn dangos y slum. Wedi ei weled o, doedd na byw na marw na chai Robin bach Ty’n Llidiard y slum yn eiddo iddo fo’i hun. Roedd o’n barod i roddi unrhyw bris amdano, medde fo, o feipen i wningen fach. A dene’r slum yn mynd iddo am wningen. Ond erbyn bore drannoeth roedd y slum wedi marw. Robin oedd wedi trïo rhoi pry copyn yn fwyd iddo, ac ynte’n byw ar y pethe a ddalie pan ar ei aden. A phwy erioed a welodd bry copyn yn hedeg? Felly, mi welsom un peth, fod pryfed cop yn wenwyn i slumod. Ar amser chware, dene Sec yn codi ei fys arna i,— “En-ne-edw,” medde fo,—“by-by-brech-d-a-an i m-i-i am sy-sy-slum.” A dene fargen. Roedd gen i slum arall yn mynd i mewn ar ol amser chware, ac mi werthes hwn hefyd i Robin am wningen. Roedd rhyw wendid am slumod wedi dwad ato fo. Erbyn hyn roedd gen i ddwy wningen. Roedd gan amryw o’r bechgyn wningod, a dene’r gair allan fod Nedw’n barod i werthu unrhyw nifer o slumod i’r bechgyn am wningen yr un, neu ryw bris rhesymol arall. Welsoch chi rotsiwn beth y pnawn hwnnw. Roedd gan bron bob bachgen yn yr ysgol wningen efo fo, a chyn gynted ag y troai’r scŵl ei gefn, yn galw arna i—dydi’r scŵl ddim yn clywed yn dda o gwbwl—ac yn dangos pen gwningen i mi o’u pocedi,—rhai o bob math a lliw, gwyllt a dôf. Rydwi’n siwr fod ene tua naw neu ddeg, i gyd. Amser chware roedd pawb yn gwthio ei wningen i mi am slum, a minne heb ddigon o slumod i’r farchnad. Mi addewes ddyfod â stoc newydd i’r ysgol drannoeth. Llwyddodd Sec i gael tri neu bedwar imi rywfodd, yn ystod y nos, ac addawodd beidio â deyd gair wrth neb amdanyn nhw. O dipyn i beth daeth holl wningod y lle yn eiddo imi. Ar ol i rai ohonyn nhw farw, ac i’r gath fwyta dwy, roedd gen i bump wedyn. Mi gadwes dair a rhoi dwy i Wmffre. Roedd hynny’n ardderchog, nes iddi ddwad yn bwnc o fwyd iddyn nhw. Mae cael digon o brofant[10] i gymint ag oedd gen i o wningod yn dipyn o beth. Mi weles ei bod yn haws dal piwied i slumod na hynny. Cynghorwn bawb i gadw slum yn lle gwningen, yn enwedig gan fod rheswm arall tros ei gadw y cai sôn amdano eto. O’r diwedd darfu gwningod y bechgyn. Doedd gan neb yr un i gynnyg i mi, ac yr oedd pawb eisio slum. A doedd hi ddim yn deg gwerthu rhai slumod a rhoi’r lleill. Y peth y methe plant ei ddallt oedd, ymhle y cawn i ’r holl slumod yma, ac yr oedd Sec wedi addo peidio â deyd, na gwerthu rhai ei hun, ar draul colli ei damed. Felly, mi gefes, rydwi’n meddwl, y peth mae nhw’n ei alw’n “patent” ar slumod, er nad ydwi ddim yn siwr mod i’n dallt y peth yn iawn. Er mwyn bod yn siwr, mi ofynnes i John Roberts, y post, ar y ffordd un diwrnod. Mae o’n giamstar ar y pethe yma, medde nhw. “John Roberts,” medde fi, “bedi ‘patent’?” “I be wyt ti’n gofyn, Nedw, ngwas i?” medde fo’n reit glên. “Rydwi’n meddwl, os nad ydwi’n methu, mod i wedi cael patent ar slumod,” medde fi. “Mae’r Brenin Mawr wedi cael patent arnyn nhw ymhell o dy flaen di, Nedw bach,” medde John Roberts, yn gwynfanus, a throdd ar ei sawdl. Dydwi ddim yn siwr eto, felly, o’r peth; ond does dim i’w neud ond deyd wrth y bechgyn mai gen i mae’r patent, a chadw’n ddistaw ynghylch ei ystyr o. Roedd hi wedi mynd, o dipyn i beth, i mi rannu ’nghinio efo Sec, a phan fydde pawb o ’nghwmpas i ar ganol dydd, a’r farchnad yn o boeth, fe gai Sec y cinio i gyd. Bob yn dipyn roedd graen go dda yn dechre dwad ar ei wyneb, a minne’n gwerthu’r slumod am y pris ucha’n bosib,—pensel lâs, neu feipen, neu addo cnau daear, a phethe felly. Yn sydyn un diwrnod darfu’r slumod hefyd. Methodd Sec â dwad o hyd i’r un yn unman. Wyddwn i ar y ddaear beth i’w neud, a minne wedi cael lot o faip ac addo cnau daear ar dryst, ac Wmffre a fi wedi eu bwyta nhw, neu neud lanterni maip. Ac am y feipen ges i gan Willie Ann Huws, roedd honno’n ddigon maint i neud lantar i ffitio post llidiard y Plas. Un min nos, a minne’n cysidro dros yr amgylchiade, â ’mhwys ar wal y buarth, pwy a ddaeth heibio ond Sec. “Ne-e-edw,” medde fo, “mi-i w-w-wn i ym-ym-mhle mae sy-slumod.” “Ymhle?” medde fi. A dene fo’n deyd ei fod wedi gweld rhai’n dwad allan y nosweth honno o seilin yr ysgol, yn ymyl y gloch. Ond sut i gael i’r seilin oedd y cwestiwn. Mi gofiodd Sec am y peth mae nhw’n alw’n fanol,[11] uwch ben y cloc mawr yn yr ysgol, a’r llall uwchben y bôrd y mae’r scŵl yn sgwenu arno. Bore drannoeth wedi gweld Wmffre, dyma fi’n cyhoeddi y bydde gen i slum bob un cyn nos i bob un yr oeddwn i yn ei ddyled, ac un am ddim i unrhyw un o’r plant a’i cymere fo ar fy nhelere i. Roedd y lle yn fyw i gyd yn syth. Ganol dydd, pan oedd y plant yn mynd allan, mi slipiodd Wmffre a fi i’r cwpwr llyfre, ac mi addawodd Sec fod yn ddistaw. Dene bawb allan, a’r rhai oedd yn bwyta yn yr ysgol yn ol at eu cinio, a Sec yn bwyta fy nghinio i reit ddistaw. Toc, mi gliriodd pawb, a dene ni’n dau o’r cwpwr, a dringo ochor y cloc mawr, i’w dop, yna oddiyno’n codi caead y manol, ac i mewn i’r seilin. Doedd gennym ni ddim llai nag ofn, oherwydd dene “shiw” mawr yn y seilin cyn gynted ag yr aethom i mewn. Wedi cau’r caead dene dwllwch dudew. Roedd gennym ni focs o fatshis, gawsom ni gan Sec. Un da am ddwad o hyd i bethe felly ydio. “Hei,” medde Wmffre, “dyma un,” ac i’w boced â fo, slum braf iawn. Erbyn amser canu’r gloch, roeddem ni wedi dal naw. Cyn inni feddwl am ddwad i lawr, dene’r gloch yn canu, ac i mewn â’r plant. “Rwan am y telere,” medde fi wrth Wmffre, “i’r un sydd eisio slum am ddim. Os meder un ohonyn nhw ddal hwn, mi caiff o.” Mi godes y caead yn ddistaw bach. Yr oedd Standard I. bron odanom ni, ac mi luchies y slum i’w canol nhw. Dene sgrech fyddarol, a’r scŵl yno. Roedd y sgrech yma’n ddigon hyd yn oed iddo fo ei chlywed. Mi glywen y scŵl yn gofyn yn wyllt,—“What’s this?” Ddeydodd neb air am funud, ond toc dyma lais Sec,—“A-sy-sy-sy-slum sy-syr, a-slumsyr.” Dene’r tro cynta erioed i neb glywed Sec yn yr ysgol yn ateb cwestiwn yn gywir. “‘Bat,’ you mean,” medde’r scŵl yn wyllt. “N-n-o-o b-a-a-at, sy-sy-sy-slumsyr,” medde Sec. Gofynnodd y scŵl pwy ddaeth â fo. Wydde neb ddim, ond gan fod gan Sec rywbeth od bob dydd yn yr ysgol, edrychodd pawb arno fo. “Come out,” medde’r scŵl, ac aeth â fo at ei ddesc, ac mi cadwodd yno nes cael amser i’w ddyrnu, a thaflodd y slum allan. Safodd Sec fel dur heb glepian, a gwelsom ninne na thale hi ddim iddo fo gael ei gweir am ddim byd. A gwyddem mai ei gweir gai o, o achos ni chlepie Sec ddim arnom ni. Tarawyd ar gynllun i’w achub o. Cerddasom fel cathod ar draws y seilin at y manol arall, sy uwchben y bôrd y mae’r scŵl yn sgwenu arno. Mae hwnnw ymhell oddiwrth y ddesc lle y safe Sec. Symudwyd y caead dipyn bach o’r ffordd. Roedd Isaac y Graig wrth y bôrd yn gneud sym, a’r scŵl y tu ol iddo. Methai Isaac neud y sym yma, a’r scŵl yn dechre malu ewyn. Er mwyn ceisio tynnu sylw’r plant, dyma fi’n danglo slum yn eu golwg gerfydd ei goes, ond ni sylwai neb gan fod Isaac yn methu gneud y sym. Edrychai pawb yn fanwl ar y bôrd, gan drïo ei helpu trwy siarad rhwng eu dannedd, rhag ofn i rywun arall gael ei alw at y bôrd. Gan nad ydi’r scŵl ddim yn clywed, ryden ni wedi dysgu, i gyd, siarad yn uchel, heb symud ein dannedd na’n gwefuse. Methu gneud y sym ddaru Isaac, beth bynnag, a dene “hold out” iddo fo. Pan oedd y ffon ar fin dwad i lawr, mi blygodd Wmffre ar fy nhraws i weld, gan wasgu ar fy mrest, ac ar y funud, pan drois i fy mhen i ddeyd wrtho am beidio, mi drôdd y slum gan sgryffinio fy llaw, a gollynges o heb yn wybod i mi fy hun. Roeddwn i wedi bwriadu gollwng un ymhellach ymlaen, pan fydde cosb Sec ar ddigwydd, er mwyn i’r scŵl weld nad oddiwrtho fo y doi’r slumod, ond nid cyn hynny. Mi ddisgynnodd y slum yn union ar ben Isaac, ac wedyn rhyngddo a’r scŵl, gan ddechre crafangu ei drowsus, a’i ddringo, a dene sgrêch annaearol, a’r plant yn ferw i gyd. Chawsom ni ddim ond cau’r caead, nad oeddem ni’n siwr fod pob llygad yn edrych tuagatom. “What’s this again?” medde’r scŵl. Ni atebodd neb am funud, ond yn y man, ynghanol distawrwydd mawr, dene ateb o’r pen arall i’r ysgol, oddiwrth ddesc y scŵl,— “A-sy-sy-slum, sy-y-r, slumsyr.” Doedd dim posib bod Sec wedi taflu hwn, ac ar bwys hyn anfonwyd ef i’w le heb ei guro am y llall chwaith. Mi ochneidiodd Wmffre a fi yn rhydd wedi gweld arbed Sec rhag ei gosbi. Roedd yr ysgol yn ferw, fel y deydes i. Ond o ble doi’r slumod? Aeth y scŵl a Joseph y Titshiar allan, wedi cysidro tipyn. Roeddem ni’n gweld tipyn o’r symudiade trwy hollt bach yng nghaead y manol. Wedi iddyn nhw fynd, dene fi’n codi’r caead ac yn edrych i lawr. Gwelodd pawb fi, a dene tshiars i mi, o achos gwelsant yn syth delere’r addewid am slum yn rhad,—eu dal wrth iddynt ddisgyn o’r seilin. Mi wyddwn na ddeyde neb wrth y scŵl, o achos yr oedd rhai o fechgyn cryfa’r ysgol ymysg y rhai oedd wedi rhoddi maip a phethe erill i mi am slumod ar dryst, a gwae neb a achose iddyn nhw golli eu slumod. Dene’r scŵl a Joseph yn ol yn y man, efo rhywbeth fel tri neu bedwar coes brwsh wedi eu rhwymo wrth ei gilydd. Caeais y caead pan weles i nhw’n dwad. Roedd yn hawdd gweled eu hamcan,—edrych oedd y caead yn peidio â bod wedi symud, a’r slumod yn dwad y ffordd honno. Eisteddodd Wmffre a fi ar y caead yn syth. Dene’r ffyn i fyny, a’u taro yn y caead o hyd ac o hyd, ond symude fo ddim. “Mae honene’n iawn beth bynnag,” medde’r scŵl. “Mi drïwn y llall rwan.” Roedd cymint o ferw a sŵn yn yr ysgol erbyn hyn, fel nad oedd yn anodd i Wmffre a fi redeg ar draws y seilin at y llall heb i neb ein clywed ni. Ac erbyn iddyn nhw gyrraedd a dechre curo’r caead hwnnw, roeddem ni ill dau yn eistedd yn gyfforddus arno. Dene ddistawrwydd mawr. Y cwestiwn i’r plant a ninne oedd, beth wnai’r scŵl. “Wel,” medde fo, “does dim amser i chwilio mwy tan ar ol yr ysgol. Awn ymlaen yrwan efo’n gwaith.” Ac ymlaen yr aethant, a ninne’n dau reit falch fod yr hen Sec yn sâff, yn enwedig gan inni fod o dipyn o fantes iddo ymgodi, trwy fod yn achos iddo ateb un cwestiwn yn gywir yn yr ysgol unweth yn ei oes. Pnawn Gwener oedd hi. Cyn gynted ag y cawsom le, i lawr â ni twy’r manol, ac efo ochor yr hen gloc mawr, ac allan trwy ffenest adre. Llwyddasom i dalu ein dyled o slumod i bawb oedd wedi prynu rhai, cyn iddi dwllu’r nosweth honno. Roeddem ni’n meddwl mai ni fase popeth fore Llun, wedi llwyddo i gael slumod i gymint o’r bechgyn, ac wedi dwad o hyd i stoc newydd, a pharatoisom ein hunen ar gyfer y ganmolieth, trwy ofalu dwad i’r ysgol wedi molchi ein gyddfe, ac iro’n sgidie. Meddyliem wrth glywed y bechgyn yn canmol, y tynne hynny sylw’r merched. A dene lle byddem ni i dderbyn eu sylw nhw yn smartiach na neb. Ond siomwyd ni yn fawr. Chawsom ni mo’r croeso a ddisgwyliem o lawer. Yn wir, edrych yn bur ddigalon yr oedd y bechgyn i gyd, bob tro y deuem i’r golwg, yn enwedig arna i, ac ambell i un â golwg drymllyd iawn ar ei wyneb,—yn enwedig o’r rhai oedd wedi prynu slum am wningen. Methem ddallt pethe am dipyn, ond fuom ni ddim yn rhyw hir iawn heb ddwad i’r gole,—y slumod oedd i gyd wedi marw, a’r gwningod gennym ni, a hynny oedd yn spâr o’r maip. Wedi bod dan y digalondid hwn o eiddo’r bechgyn am dipyn, a chysidro yn o drwm, mi ddarun deimlo mai braidd yn ormod o faich i’w cadw oedd y gwningod, yn enwedig pan fydde’r bwyd yn brin. Felly, fe’u gwerthwyd i’r bechgyn yn ol, ar y peth mae pobol yn alw yn delere rhesymol. Y fargen ore gês i, oedd darn o gŵyr crydd gan Shoni’r Pentre am ei wningen o yn ol. A dene’r rheswm arall y sonies amdano, pam ei bod hi’n fwy manteisiol cadw slumod na gwningod,—mae nhw’n siwr o farw cyn i chi lân flino arnyn nhw. Fel y gallsech feddwl, dipyn yn dwyll ydi hi ar farchnad Sec yrwan. Ond wedi’r cwbwl, wnaiff hi mo’r tro iddo lwgu, a ’does dim i neud ond imi ddal i rannu fy nghinio efo fo, nes i’r cnau daear fod yn addfed. Rydwi’n dallt arno fo nad oes mo’i well am eu ffeindio nhw. ----- [8] Ystlum=_bat_. [9] Ddelar=_dealer_. [10] _Provender._ [11] _Manhole._ XI.—GWYNT Y DWYRAIN. Fe wydde mam yn dda am wynt y dwyrain ers tro byd, o achos y fo oedd yn dwad â’i bronteitus hi, ond wydde hi fawr tan yn ddiweddar am y dwyrain ei hun, ond bod y doethion yn byw yno, a’r seren honno wedi cychwyn oddiyno. A’r unig anhawster y gweles i mam yn ei gael o’r Beibil erioed oedd paham yr oedd y doethion yn hoffi byw yn y dwyrain, a’r fan honno yn gartref i’w wynt o. A hefyd sut na fase’r Beibil yn deyd rhywbeth eu bod nhw’n diodde oddiwrth y fronteitus. O achos, medde hi, roedd yn amhosibl i bobol fyw yng nghanol gwynt y dwyrain heb y fronteitus, os oedd, pobol fel hi, mor bell o’r dwyrain, yn dioddef oddiwrtho. Cododd y mater yn yr Ysgol Sul unweth, a gofynnodd y cwestiwn i’r hen Bitar, ei hathraw, neu Pitar Isaac Roberts, fel y bydd hi yn ei alw,—mae mam yn rhoi ei enw llawn ar bawb yn wastad. Ateb Pitar Isaac oedd nad oedd bronteitus ddim wedi codi yn y cyfnod hwnnw, mai’r cyntaf yn y byd i’w gael o oedd Teitus yr apostol, y dyn y sgwennodd Paul ato, a phobol erill wedi ei gatshio oddiwrtho. Ameu’r esboniad ene braidd yr oedd nhad, ond nid oedd waeth iddo dewi. Y mae gair yr hen Bitar yn ddeddf i mam bob amser. Doedd dim yn blino mam yn debyg i wynt y dwyrain, a’r syndod ydoedd ei bod yn dallt mai gwynt y dwyrain oedd hi pan nad oedd gwynt o gwbwl. Mi fum i lawer gwaith yn sefyll allan nes bod wedi rhynnu, yn dal pluen i fyny yn fy llaw i edrych oedd ene wynt pan oedd mam yn y tŷ yn cwyno oddiwrth y fronteitus, ac yn beio gwynt y dwyrain, a’r bluen heb symud dim. Pan oedden ni’n byw yn yr hen dŷ roedd mam yn gwybod yn iawn cyn i’r fronteitus ddechre ymha gyfeiriad yr oedd y dwyrain, oherwydd ’roedd hi wedi sylwi lawer gwaith mai pan chwythe’r gwynt ar draws y Foel Fawr y bydde’i brest hi’n gaeth. Doedd hi’n cymyd fawr o sylw o’r caethiwed a gai hi pan chwythe’r gwynt dros Lwyn y Brain, a hithe’n glychu ei thraed wrth ddwad o’r capel. Ac oherwydd fod ein tŷ ni yn gwynebu’n union tua’r Foel Fawr y bu raid inni ei adael. Yr oedd hynny ychydig ar ol i Huw fy mrawd fynd i Ffrainc. Y mae ein tŷ ni rwan yr ochor arall i’r Foel. Tŷ unig ydi’r tŷ newydd, yng ngodre’r Foel, ddim ymhell o’r “_Black Crow_.” Ac ar nosweithie twyll y gaea ’does dim i’w glywed ond y gwynt yn chwythu yn y derw yn nhop yr ardd, a’r pistyll bach sy’n ymyl y cyt moch, a sein y “_Black Crow_,” yn cwyno wrth ysgwyd yn y gwynt. Ac am yn hir ar ol inni ddwad yno, doedd dim gwynt yn taro’r drws fel yn yr hen dŷ. A da oedd hynny, neu mi fase’r drws yn agor o hyd, oherwydd ’does dim ond darn o glicied arno fo, a honno’n agor ar ddim. Un nosweth yn y gaea ene, doedd dim byd yn y capel, a doedd Abram y Fron ddim yn digwydd cael ffitie. Y tŷ agosa i ni ydi’r Fron, ac y mae Abram yn diodde bob mis oddiwrth ffitie. A’r adeg honno y fi sy’n gorfod rhedeg i’r Llan,—pellter o ddwy filltir,—i nol asaffeta i rwbio cledre ei ddwylo a gwadne ei draed o. Peth da, medde nhw, ydi asaffeta, ond i chi ei gymyd drwy eich dwylo a’ch traed. Gwn i mai peth ofnadwy ydio wrth ei gymyd drwy’ch ceg. Lawer gwaith y rhedes i nol asaffeta i Abram pan oedd y glaw yn patshio, a sein y “_Black Crow_” yn sgrechian, a’r nos mor dwyll nes i chi fethu gweld eich llaw. Ond fel roedd y gore, doedd Abram ddim yn sâl na dim byd yn y capel y nosweth yma, fel yr oedd hi’n nosweth i mewn arna i. A’r nosweth yma, hefyd, roedd pawb gartre. A lle digalon sydd yma ar ol hanner awr wedi saith yrŵan, yn enwedig pan nad ydi Huw ddim gartre, ac Wmffre a fi yn byw ymhell oddiwrth ei gilydd. Am saith o’r gloch ar nosweth fel hyn mae’r swper wedi ei glirio, a’r plant lleia yn eu gwlâu. Wedi golchi’r llestri y mae nhad a mam yn tynnu eu cadeirie at y tân, neu’n hytrach mae nhad yn tynnu’r sgrîn, a mam y setl, ac os ydw inne am dân, ’does dim i’w neud ond eistedd ar y blocyn. Dechre smocio ac edrych i’r simdde y mae nhad fel rheol, a dechre gweu neu wnïo y mae mam, a gorffen trwy bendympian. Ar ol i mam olchi’r llestri y nosweth hon, mi gymerodd pawb eu lle,—nhad â’i draed ar y ffendar, yn smocio a gneud cyrls o’r mŵg, a’u gwylio’n toddi i’w gilydd, ac yna’n mynd yn un llinynne i fyny’r simdde. Arhosai nes i’r llinyn ola ddiflannu, yna mi ddechreue wedyn ar neud y cyrls mŵg, a hynny am allan o bob hyd, heb gofio o gwbwl fod yr amser yn mynd. Yr ochor arall roedd mam yn gweu, ac am dipyn clywid sŵn y gweill yn clician yn gyson, yna’n arafu, a sefyll. Edrych trwy’r Beibil yr oeddwn i am adnod â’r gair “echdoe” ynddi. Dene’r tasg buddiol a gawsom gan yr athraw y Sul cynt. Ac am y tro roedd Wmffre a fi wedi penderfynu trio. Gwyddwn pam fod y gweill wedi sefyll heb imi edrych. Dene lle roedden nhw ar lin mam, yn suddo’n ddyfnach, ddyfnach i’w glin hi o hyd, a’i dwylo yn llithro o dipyn i beth heibio ei hochor, a’i phen yn dwad i lawr gam a cham yn gyson, nes dwad i fan neilltuol. Yna, mi golle’r balans, ac i lawr â fo. Arfer mam ar ol y sgytiad yma bob amser ydi deffro’n sydyn, edrych arna i a ydwi’n gneud rhywbeth o’i le, yna cau ei llygid, a’i phen yn cychwyn ar yr un daith wedyn. Dan swyn y symud yma ar ben mam, mi anghofies chwilio am y gair “echdoe.” Ac roedd nhad yr un mor ddiddorol a hithe. Pwysai ef ei benelinoedd ar ei benneglinie, edrychai’n syn i fyny’r simdde, ac o amgylch ei ben yr oedd yr awyr yn llawn cyrls mŵg, yn troi’n llinynne. Yr unig sŵn oedd tipiade’r cloc bach, yr oedd y cloc mawr wedi stopio ar ol inni ddwad i’r tŷ newydd, gan fod nhad wedi methu ei osod o’n union,—a gwich ysgafn fel dechre bronteitus o frest mam. Ni chlywech hi’n anadlu o gwbwl. Dene beth ydwi wedi sylwi lawer gwaith, nad ydech chi byth yn clywed pobol yn anadlu pan fyddan nhw yn pendympian. A hefyd sŵn “w-pŵ, w-pŵ, w-pŵ,” araf o gyfeiriad nhad, wrth y gwaith pwysig o neud cyrls mŵg. Wrth glywed y wich yn dechre ym mrest mam, dechreues betruso beth oedd cysylltiad gwynt y dwyrain â’r fronteitus tybed. Mi chwilies bob man yn esboniad Idrisyn o dan y geirie “dwyrain,” “doethion,” “gwynt,” a “seren,” ymhob lle y cofiwn eu bod yn y Beibil, ond ches i ddim goleuni. Dene’r fantes y mae’n debyg o roddi chwilio am eirie fel “echdoe,” ac felly ymlaen, yn dasg yn yr Ysgol Sul, oherwydd wyddoch chi byth pa bryd y daw gwybodaeth o’u lle nhw yn y Beibil yn handi, fel ar adeg fel hyn i mi. Yna eis i edrych y geiriadur—Geiriadur Dr. Davies—dan yr un geirie, ond doedd dim i’w gael am gysylltiad gwynt y dwyrain â bronteitus. Yna eis i edrych dan yr enw Teitus, ond doedd dim byd ar hwnnw chwaith. O dipyn i beth eis i feddwl ymhle yr oedd y dwyrain tybed. Ar fy nglinie ar gader wrth ben y bwrdd yr oeddwn i ar y pryd, yn pwyso mhen ar fy nwylo a’m penelinoedd ar y bwrdd. Yna eis i feddwl am y doethion, ac ymhen tipyn mi welwn y seren yn codi yn y dwyrain, a’r doethion yn dwad yn un haid ar ei hol hi. Haid o bobol dduon oedden nhw, yn rhuthro ar draws ei gilydd, yn ddigon i ddychrynnu gwraig â babi bach ganddi, a rhedeg am y cyntaf roedden nhw am Fethlehem. Ar y funud pan oedden nhw yn nesu at y lle, dene ddyrnod annaearol imi ar bont fy nhrwyn, nes imi weld miloedd o sêr, ond dim un doethyn yn eu dilyn. Neidiodd mam ar ei thraed, a phan welodd beth oedd yn bod, dene hi’n dechre llefaru. Wedi bod yn pendympian oeddwn inne a mhen i wedi llithro’n sydyn o’n nwylo gan ddyfod i gyfarfyddiad heb ei ddisgwyl â Geiriadur Dr. Davies. Wedi imi olchi nhrwyn oddiwrth y gwaed, safodd mam uwch fy mhen yn traddodi araith rymus ar beryglon pendympian fel gwendid ym mywyd bachgen gobeithiol deg oed. A’r unig sŵn a glywn pan oedd hi’n cael ei gwynt ati oedd tipiade’r cloc bach, y wich fach yn ei brest hi, ac “w-pŵ, w-pŵ, w-pŵ,” cyson o gyfeiriad nhad. Ar adeg fel hyn pan fydd y wich fach yn dechre, feder mam byth siarad yn hir, a meddiennes inne fy hun mewn amynedd, gan wybod y bydde popeth wedi llonyddu’n fuan. Mi orffenes olchi nhrwyn ac aeth hithe i’w lle i weu, a dene gliciade’r gweill yn dechre mor gyson â thipiade’r cloc. O dipyn i beth arafai’r gweill, a chodes inne mhen ar ol y gwaith ofer o chwilio am “Teitus” i wylio pen mam yn dechre gwyro o gam i gam nes dwad at y dibyn, yna,—i lawr. Bob tro y digwydde hyn, neidiai i fyny, ac mi ddechreue eilweth ar y gweu, ac yna trwy’r un cwrs drachefn. Ar ol y trydydd cwymp o eiddo ei phen ysgydwodd ei hun, a gofynnodd i nhad yn hanner chwyrn, fel tase hi wedi digio wrtho am beidio â’i hateb eyn iddi hi ofyn iddo,— “Edward, ymhle mae Belgiam?” Cymerodd nhad ei amser i neud hanner dwsin o gyrls mŵg, ac edrych arnyn nhw’n diflannu’n llinynne,— “T’wnt i Wrecsam,” medde fo. “Sut ydech chi’n deyd hynny?” medde mam yn hanner blin. “Wel, trwy Wrecsam mae pawb yn mynd yno,” medde nhad, a dechreuodd gyrlio mŵg wedyn. Dechreuodd y pendwmpian drachefn, a dechreuodd y pen wyro, a gwyro bob yn fodfedd, a modfedd, nes cyrraedd y jerc. Neidiodd mam i fyny eilweth,— “Edward,” medde hi, “ymhle mae Wrecsam?” “T’wnt i Gaer,” medde nhad, ac yn ei flaen i blethu mŵg. “O!” medde mam, a bodlonodd. Dechreuodd mam weu wedyn am ysbaid, nes ei gorchfygu gan y pendympian, ac i lawr â’r pen,—hyd y jerc. Yna neidiodd mam, trodd at nhad, a gofynnodd,— “Ond Edward, ymhle mae Caer?” “T’wnt i Wyddgrug,” medde nhad, gan ddal gyda’r gwaith cyrlio mŵg. Ond yr oedd mam wedi deffro drwyddi erbyn hyn. “Nid t’wnt i le’n y byd ydwi’n feddwl, Edward,” medde hi, “ond prun ai’r ffordd ene, neu’r ffordd ene, neu’r ffordd ene, neu’r ffordd ene, y mae Belgiam,” gan bwyntio at y tân, y drws, y grisie, a’r ffenest, yn ei thro, gan fod y pedwar hyn un ymhob ochor i’r tŷ. Deffrôdd hyn nhad hefyd. Trodd ati’n bwyllog. Edrychodd arni’n hir a syn, a mam â’i phen ar un ochor fel Robin Goch yn chwilio am beryg, a’i bys yng nghornel ei cheg yn disgwyl wrtho. “Wel, Ann,” medde fo, “fedra i ddim deyd, o achos tydwi ddim yn siŵr o gyfeiriad llefydd o’r tŷ newydd yma.” Y gwir ydi na fu o erioed yn siŵr, o’r hen dŷ chwaith, ond bod yn dda cael rhyw esgus i mam pan fydde hi wedi deffro’n derfynol o’i phendympian. “Y cwbwl wn i,” medde fo, “ydi fod Belgiam ‘rywle yn Ffrainc,’ fel y bydd y bechgyn yma’n deyd.” Doedd hyn ddim yn ddigon i mam. Roedd arni eisio gwybod i ba gyfeiriad yr oedd Belgiam o’r tŷ. A doedd na byw na marw na cheisiwn i gael allan hynny iddi. Ond wedyn peth annifyr i fachgen yn Standard IV. ydi bradychu ei anwybodaeth trwy chwilio’r map am le y gŵyr pawb amdano. Ond ’roedd mam yn benderfynol o gael gwybod nes i lythyr ddwad ryw fore oddiwrth Huw. Yna collodd bob diddordeb ym Melgiam. Roedd o wedi mynd i rywle arall medde fo yn hwnnw, na wyddem ni ddim amdano. Pwy alwodd y min nos hwnnw ond Mr. Edwards y gweinidog, ac y mae mam yn dangos pob un o lythyre Huw iddo fo. Wedi iddo ddarllen y llythyr, dyma mam yn troi ato fo, ac yn gofyn, “Lle ’rydech chi’n deyd y mae Huw, Mr. Edwards?” [Illustration: “EDWARD, YMHLE MAE BELGIAM.”] “Yn yr un fan, ym Melgium mae’n siŵr,” ebe Mr. Edwards. “Ai yn Ffrainc y mae’r Pink ene hefyd?” medde hi. “Pa Pink, Mrs. Roberts?” ebe Mr. Edwards. “Dydio’n deyd ei fod o mewn rhyw le o’r enw Pink,” medde mam. Methodd Mr. Edwards ei dallt hi am funud, nes imi ddangos y frawddeg iddo lle y dywedai Huw, “don’t trouble about me, I am in the pink.” Bu Mr. Edwards yn hir yn trio dallt y frawddeg, â’i gefn atom. Yna trodd atom â’i lygid yn gochion, gan ddeyd mai lle ym Melgium yn ddiau oedd y Pink yma. “Mr. Edwards,” medde mam, “ymhle mae Belgiam?” Dywedodd ynte mai yng ngogledd Ffrainc. “Ond yr hyn sydd arna i eisio wybod,” medde mam, “ydi prun ai’r ffordd ene, neu’r ffordd ene, neu’r ffordd ene, neu’r ffordd ene y mae o?” gan gyfeirio at bedwar pared y tŷ. “Dowch i’r drws, Mrs. Roberts,” ebe Mr. Edwards, “welwch chi’r ceiliog gwynt acw ar dô’r ‘_Black Crow_?’” “Gwela,” medde mam. “Welwch chi’r llythrenne N. E. S. W. acw o’i gwmpas o?” medde fo. “Gwela,” medde mam. “Wel,” ebe Mr. Edwards, “pan y mae pen y ceiliog bron yn cyfeirio tua’r E. yna, gan droi oddiwrth yr S., y mae o’n cyfeirio tua Belgium.” “Be mae’r ‘E’ ene yn ei feddwl?” medde mam. “‘East,’ neu yn Gymraeg ‘Dwyrain,’” medde Mr. Edwards. “Y dwyrain! Pam fod y ceiliog â’i ben weithie i’r dwyrain?” medde hi. “Wel,” medde Mr. Edwards, “pan fo’r gwynt yn chwythu o’r dwyrain, y mae pen y ceiliog yn troi tuag yno.” “Gwynt Belgiam ydi gwynt y dwyrain te?” medde hi yn wyllt. “Ia, os mynnwch chi,” medde ynte dan wenu. Gwelwodd mam, dechreuodd ei gwefuse grynu, ac aeth i’r tŷ. Gwelodd Mr. Edwards fod y sôn am Belgium wedi ei chyffwrdd, ac aeth ymaith heb ddeyd gair. Ar ol swper y nosweth honno, aeth mam dros stori Mr. Edwards yn fanwl i nhad. “Rwan, felly,” medde hi, “mae grât y gegin yma i’r gogledd; a’r grisie i’r de; y ffenest i’r gorllewin; a’r drws i’r dwyrain, wedi’r cwbl, fel yn yr hen dŷ. Pan y mae’r mŵg yn taro i lawr, gwynt y gogledd ydi hwnnw, pan y mae’r gwynt i’r drws, gwynt y dwyrain ydi hwnnw, pan y mae’r ffenest yn ysgwyd, dene wynt y gorllewin, ac yr wyt ti ac Isaac, Nedw, yn mynd tua’r de i’ch gwlâu.” “Os felly,” medde fi, “mae ffenest fy llofft i i’r dwyrain. Mae’n dda na dydech chi ddim yn cysgu yn y llofft honno efo’ch bronteitus.” Bu nhad yn smocio tipyn, a mam yn pendympian, ar ol yr ymgom yma. Yna aeth pawb i’w gwlâu. Erbyn y nosweth wedyn, roedd mam wedi cael diwrnod o gysidro, Ar ol swper, dene hi’n gofyn reit sydyn i nhad oedd o’n peidio â ngweld i’n llwytach nag arfer. “Oes genot ti boen yn rhywle, Nedw?” medde hi. “Yr ydw i’n iawn,” medde fi. “Nhroed i ydi’r unig le gwan arna i.” “Dydwi ddim yn siŵr o hynny,” medde hi, “mae gen i ofn fod yr hen lofft ene uwchben y siambar yn rhy oer iti, machgen i. Ac y mae Isaac yn pesychu tipyn yn ddiweddar. Mi newidiwn ni heno, eiff dy dad a finne i honno, ac mi gewch chithe ddwad i hon uwchben y gegin.” “Dydi gwynt y dwyrain ddim yn blino troed bachgen a’i brifodd drwy syrthio o ben pren eirin. Chlywes i rioed fod y fronteitus ar draed neb,” medde fi. Ond, gan fod mam yn deyd, ’doedd dim arall i fod. Yr oedd un peth cysurus yn y llofft newydd—wynebu’r gorllewin, cartre Jinny Williams, yr oedd y ffenest, ac yr oedd yn fwy cyfforddus o lawer, a chysges hyd yn oed ynghynt na nhad y nosweth honno, o achos chlywes i mono fo’n chwyrnu. A ’doeddwn i’n clywed dim oddiwrth wynt y dwyrain oedd yn chwythu i ddannedd ffenest y llofft arall. Rywbryd ynghanol y nos, mi glywes nhad yn gweiddi, “Ann, Ann, lle rydech chi?” heb neb yn ateb. Gwaeddodd nhad wedyn, a dene lais mam, annhebyg iawn i’w llais hi hefyd, yn ateb yn fain, o’r pellter, “Yn y fan yma.” Taniodd nhad fatshen, ac ymddengys iddo weld mam yn eistedd ar gader, yn ei becon nos, ac wedi codi’r bleinds, yn edrych i’r twllwch dudew tua’r dwyrain. “Ann,” medde nhad yn floesg, “bedi peth fel hyn da?—eistedd yn y fan ene berfedd nos yn edrych i’r twllwch, heb ddim ond eich becon nos amdanoch!” “O!” medde mam, yn yr un llais main, “methu cysgu roeddwn i, rhaid fod y tipyn caws ene gawsom ni i swper wedi gneud drwg imi,—fedrai byth gysgu ar ol caws,—a chan ei bod hi’n nosweth glos, mi ddois yma i edrych oedd y wawr ar dorri, o achos mi gwelwn hi o’r ffenest yma gan ei bod hi’n edrych tua’r dwyrain.” Ac yr oedd ei llais hi’n mynd yn feinach, feinach, nes darfod yn lân ar y gair ola. “Dowch i’ch gwely, Ann bach,” medde nhad, ynte mewn llais meinach nag a glywes i rioed ganddo fo, o achos baswr ydio, “mae bod yn y fan ene â gwynt y dwyrain ar y ffenest yn ddigon am y’ch bywyd chi. Ac mae arnai ofn, Ann bach, y bydd hi’n hir, hir, hir iawn cyn i’r wawr yr ydech chi’n disgwyl amdani dorri.” A meinach, meinach yr âi ei lais ynte hefyd, nes darfod yn lân ar y gair ola. Y peth nesa a glywn i oedd nhad yn diffodd y gannwyll, a’r ddau yn y twllwch, heb ddeyd gair wrth ei gilydd yn torri i sobian yn ddilywodreth. A’r unig reswm y medrwn i ei gasglu dros hynny oedd fod y nos mor dwyll, a’r wawr mor hir yn torri. Rhyfedd fod dau mewn oed a synnwyr hefyd yn beichio crïo am fod y wawr yn hir yn torri. Wrth frecwest bore drannoeth, gofynnodd mam i mi a oeddwn yn teimlo’r llofft uwchben y siambar yn glos iawn pan oeddwn yno, ei bod hi’n dechre credu’n wir fod gair Dr. Huws yn ddigon iawn mai amod iechyd oedd i bawb agor eu ffenestri y nos, ei bod hi ers tro yn cael cur yn ei phen yn y boreue, ac yn mynd oddiwrth ei bwyd yn arw. “Wel,” meddwn inne, “dene’r peth gore yrwan y mae pawb ar eu lwfans.” “Wedi’r cwbwl,” medde mam, “does dim tebyg i awyr iach.” Y diwrnod hwnnw gwelwn fod pen y ceiliog tua’r “E,” ac er hynny nad oedd fawr o wich ym mrest mam. Wrth fynd i’n gwlâu medde hi wrthai, “Nedw, gofala agor dy ffenest heno. Mi agorwn inne’n ffenest hefyd.” “Gwynt y dwyrain ydi hi,” medde fi, “ac y mae’n beryg i chi gael bronteitus.” Gwelodd mam fod gwaith esbonio. Daeth yn ei hol, gosododd y gannwyll ar y bwrdd, ac eisteddodd ar y setl. Yn ei gweld fel hyn, eisteddodd nhad ar y sgrin, a minne ar y blocyn. “Wyddoch chi,” medde mam yn bwyllog, “rydwi wedi meddwl llawer am y peth, ac wedi dwad i’r penderfyniad nad oes a wnelo gwynt y dwyrain ddim â’r fronteitus, o achos dydio ddim arnai weithie pan y mae gwynt cry o’r dwyrain. Ond rhaid i chi drwsio’r glicied, hefyd,” medde hi wrth nhad, “cyn i storm ohono fo ddwad.” “Mae pawb yn meddwl,” medde fi, “mai gwynt y dwyrain sy’n codi bronteitus.” “Dydio ddim yn wir,” medde mam yn bendant. “Dene Dei Hurt yrwan sydd yn stesion y dre, yn dwad yno o’i ben a’i bastwn ei hun efo’i chwisl. Mae o’n chwislo, ac y mae’r trên ymhen tipyn yn mynd. Mae o’n meddwl fod y trên yn mynd am ei fod o’n chwislo, ond mynd wnae’r trên prun bynnag a fydde Dei yno druan ai peidio. Ac y mae hi yr un fath efo’r fronteitus yn siŵr iti. Weithie mi ddaw pan fydd gwynt y dwyrain yn chwythu, ac weithie mi ddaw hebddo.” Cysgodd mam y nosweth honno â gwynt y dwyrain yn chwythu ar ei gwyneb, a chododd yn llawen bore drannoeth, am nad oedd wedi rhoi’r fronteitus iddi. Ymhen diwrnod neu ddau dyma lythyr oddiwrth Huw yn deyd ei fod yn mynd i gael “leave” ymhen yr wythnos, ac y bydde fo adre nos Lun wythnos i’r nesa. Ac yr oedd mam uwchben ei digon. Parhaodd y gwynt i chwythu o’r dwyrain ar hyd yr wythnos honno, a mam yn y drws y rhan fwyaf o’r dydd, a’r awel yn chwythu ar ei gwyneb drwy’r nos, heb iddi gael bronteitus o gwbwl. Daeth y diwrnod i Huw ddwad adre, ac yr oeddwn i wedi disgrifio i mi fy hun lawer gwaith sut y doi o i’r tŷ. Pan ddoi Huw i mewn, agorai’r drws bob amser yn sydyn ac yn llydan, a doi fel awel o wynt ar ddiwrnod heulog a gwên bob amser ar ei wyneb. Ddaru chi sylwi fod yn ddigon hawdd nabod cymeriad dyn oddiwrth y ffordd y mae o’n agor y drws a dwad i’r tŷ? Ond ’does gen i ddim amser i ddeyd chwaneg ar y pen ene heddyw. “Nedw,” medde mam pan ddois i o’r ysgol, “dos i’r Llan i edrych am dun salmon reit neis, fedrai ddim meddwl am ddim mwy wrth fodd Huw.” Ac mi redes inne ynghynt na chynted gallwn, ac mi ddois â thun salmon reit helaeth gan nad oedd salmon wedi bod yn y tŷ ers blynyddoedd, er bod ei gael yn tolli ar ein lwfans cig ni. Bu mam trwy’r pnawn yn gneud cacen datws, a chacen gri, pethe wrth fodd Huw. Daeth nhad o’r gwaith, ymolchodd, a rhoddodd ei ddillad gore. Dydio byth yn gneud hynny ganol wythnos ond ar adeg cyfarfod pregethu, neu ddiolch am y cynhaea, neu ginio clwb—dydio byth yn dwad i de parti’r Ysgol Sul. Ac arhosodd heb ei dê, dim ond rhyw damed bach i aros pryd. Daeth y nos, ac un dwyll oedd hi, ac yr oedd gwynt y dwyrain wedi codi’n storm er y bore. “Mae ene un cysur,” medde mam, “mae o’n cael y gwynt o’i du i ddwad dros y môr ene,”—ac aeth i’r drws. Doedd dim i’w glywed ond y gwynt yn llwyn top yr ardd, a sein y “_Black Crow_” yn sgrechian yn wyllt. Aeth nhad i lawr y ffordd dipyn. Yna ymhen ennyd taflodd mam ei ffedog dros ei phen ac aeth ar ei ol, a minne’n aros yn y tŷ rhag i’r gath fynd ar y bwrdd. Daeth y ddau yn eu hole, ac arosasant fel yr oeddynt am ychydig. Tynasant eu pethe yn y man, ac eisteddodd nhad ar y sgrîn a mam ar y setl. “Wyddoch chi be,” medde nhad, “mae gwynt y dwyrain yma’n oer hefyd.” “Ddim mor oer chwaith ag y base rhwfun yn meddwl,” medde mam, a chododd i fynd i’r drws wedyn. Caeodd o wedi syllu’n hir i’r twllwch, a daeth yn ol. Ymhen tipyn dene’r drws yn agor yn sydyn, nes taro yn erbyn y pared. “Huw!” medde ni ill tri ar unweth. A dene’r plant lleia, oedd yn eu gwlâu, i gyd ar eu traed. Ond doedd yno ddim heblaw pwff o wynt, a daeth “bŵ-ŵ-ŵ-ŵ” mawr i’r tŷ efo fo. Chwythodd yr almanac oddiar y wal, a diffoddodd y gannwyll, cyn i neb fagu calon i gau’r drws. Yn y man codes i a chaues o. A bu gwrando distaw, maith, tan syllu i’r tân. “Bŵ-ŵ-ŵ-ŵ,” medde gwynt y dwyrain, yn awr ac eilweth mewn llais bâs dyfn o dan y drws, ond ni chlywem ddim sŵn arall yn unman. Ddaeth Huw ddim y nosweth honno, ac aeth pawb i’w gwlâu heb y salmon. Wedi meddwl, doedd neb yn hidio rhyw lawer am salmon. Ac er ei bod yn storm, cadwodd mam y ffenest yn agored trwy’r nos i gael awyr iach. A medrodd ddisgrifio i’r dim fel y torrodd y wawr o dipyn i beth fore drannoeth. Un iawn am ddisgrifio ydi hi pan fydd hi mewn hwyl. Ac ni chlowyd y drws chwaith y nosweth honno, ac yr oedd yn rhaid i rywun godi’n barhaus i’w gau, am fod y gwynt o hyd yn ei chwythu’n agored. Erbyn y nosweth wedyn, roedd mam wedi ail newid ei meddwl am gysylltiad gwynt y dwyrain â’r fronteitus. Caeodd y ffenest yn dyn, er mai gwynt y dwyrain—y gwynt oedd wedi lladd ei chur yn y pen—oedd yn chwythu. Clowyd y drws a rhoddwyd sach yr aelwyd o dano. Ac yr oedd hi’n mynd i’w gwely, a’i llygid yn gochion, ei phen yn drwm, a’r fronteitus arni nes methu anadlu bron. Dene’r bore drannoeth y daeth y llythyr melyn hwnnw o’r War Offis, yn galw Huw—ein Huw ni—yn nymbar rhywbeth neu’i gilydd, a’r tipyn papur hwnnw ynddo fo, o gydymdeimlad wedi’i brintio, oddiwrth y brenin. Fedra i ddim tynnu o fy meddwl rwan y nosweth honno wrth yr Hen Ffynnon, pan oedd Huw a finne yno am ddau o’r gloch y bore. XII.—IFAN OWEN TY’N LLWYN. “Nedw,” medde Betsen Jones y crydd pan es â thipyn o datws iddi oddiwrth mam un diwrnod, “be sy ar dy ddwylo di’n gwaedu?” “Taro’r ddafad yma mewn carreg ddaru mi,” medde fi. “’Rargen fawr,” medde hi, “mae dy ddwylo di’n llawn defed. Wyddost ti sut i’w mendio nhw? Galw yng ngefel Tomos Owen y gô a gofyn am gael molchi dy ddwylo yn y dŵr y mae o’n oeri haearn ynddo fo, bob dydd wrth fynd adre o’r ysgol, ac mi gei weld y clirian nhw i gyd ond iti beidio â sychu dy ddwylo, ond gadael i’r dŵr sychu arnyn nhw ohono’i hun.” Mi ddarum, ac mi ffeindies mai dyn clên iawn ydi Tomos Owen, hoff iawn o stori, ac o dipyn i beth, aeth Wmffre a fi ac ynte’n hen ffrindie, ac arhosem yno am gom bob dydd wrth alw i mi ’molchi nwylo. Dyn go newydd yn yr ardal ydio, wedi cymyd yr efel pan fu farw William Pitars. Un diwrnod yr ha dwaetha roedd hi’n llethol o boeth, ac yn bygwth trane trwy’r pnawn. Roedd Wmffre a fi’n cychwyn adre wedi bod dipyn yn hwy na’r gweddill o’r plant, oherwydd castie Joseph y Titshar. O’n blaene ni roedd ene nifer o fechgyn yn mynd tuag efel Tomos Owen tan gomio. Dene daran sydyn, a mellten, a tharan wedyn. Ac i ffwrdd â phob un ar sgruth a throi i’r efel. Ac ni chawsom ninne ond cyrraedd y drws na ddaeth yn gafod ofnadwy o law trane, ac yr oedd y mellt yn ddychrynllyd. Roedd pawb wedi dychrynu, a Tomos Owen yn ceisio ein diddanu. Wrth ei weld mor rydd, dene Morus yr Allt yn mentro gofyn iddo,—“Tomos Owen, o ble ’rydech chi’n dwad?” “O Lanfangu, machgen i,” medde Tomos Owen. “Sut le ydio?” medde Morus. Ddeydodd Tomos Owen ddim byd am dipyn. “Meddwl amdano fo y bum i trwy’r pnawn,” medde fo yn y man. “Mae’r pnawn poeth yma yn fy atgoffa am bnawn poeth tebyg iddo fo dro’n ol yn Llanfangu, pnawn pur ryfedd. Fasech chi’n leicio cael hanes y pnawn hwnnw?” “Basen,” medde pawb. “I ddechre,” medde fo, “rhaid i mi ddeyd sut le ydi Llanfangu, ac mi ddechreua i yn y dechre. Dene’r peth gore am wn i.” Ac aeth Tomos Owen ymlaen gyda’i stori, a dyma hi,— “Lle rhyfeddol o dawel ydi Llanfangu,” medde fo, “a’i Eglwys a’i fynwent yn ei ganol. Mwy o lawer iawn ydi trigolion y fynwent na thrigolion y Llan ei hun. Hwyrach mai dene’r rheswm pam fod y lle mor rhyfeddol o dawel, mai ymostwng y mae o, fel y dyle pob lle, i lywodraeth y mwyafrif. Welwch chi’r un fynedfa ohono fo, ac y mae ei beder ffordd fel tase nhw’n darfod ryw ganllath o’r Llan. Wedyn ’does dim i’w weled ond mynyddoedd, a brynie, a choedwigoedd, ar bob tu. Lle ydio fase’n taro bardd neu freuddwydiwr fel cilfach bell o sŵn y boen sy’n y byd. Ac wedi’r cwbwl, ei le amlyca o, mhlant i, ydi’r fynwent. “A’r pnawn crasboeth yma o fis Mehefin, roedd o’n ymddangos fel pe na base yno leiafrif o gwbwl, a bod y mwyafrif wedi gadael eu cartref yn y fynwent, a thrawsfeddiannu pob tŷ a thwlc o fewn y lle. Mor dawel oedd hi yno ag y gellid clywed yn glir hen gloc mawr yr ysgol bob dydd yn tipian cyn belled a buarth y _Crown_. Doedd na siw na miw arall ond y sŵn hwnnw na ellwch chi mo’i ddeffinio, sy’n yr awyr pan fo popeth yn berffaith dawel. Rhygnai ceffyl ei garn yrŵan ac yn y man ar gerryg llawr stabal y _Crown_, ac mi clywech o’n rhoi ambell gno ar ei fwyd rhwng ysbeidie o dawelwch, fel pe na base arno ddim angen am fwy o fwyd nag a fase’n ei gynnal i freuddwydio, ac mai cipio tamed rhwng y golygfeydd yr oedd o. Yr unig sŵn arall y gallsech chi ei glywed o’r ffordd fawr oedd cliciade gweill yr hen Farged Roberts y Gwŷdd, a ddoi’n ysbeidie di-reol trwy’r drws agored. Ac mae’n rhaid ei bod hi’n dawel felly. Ac yr oedd yn reit hawdd dychmygu cyflwr yr hen Farged ar y pryd,—mai gweu yr oedd hi, a phendympian bob yn ail. O dipyn i beth mi dawelodd hithe’n llwyr, ac ni welech unrhyw arwydd o fywyd o’r cyfeiriad hwnnw, ond y gath, a chwareuai ar garreg drws y ffrynt â hynny oedd yng ngweddill o’r bellen ddafedd ar ol iddi ei rholio yno trwy ddrws y cefn ac i lawr yr ardd a heibio talcen y tŷ.” “’Rargen fawr,” medde Wmffre dan chwerthin. “Mae o’n wired a’r pader i ti,” medde Tomos Owen. “Toc,” medde fo, “dene sŵn traed yn dwad o’r pellter o gyfeiriad Allt y Felin, a gŵr bynheddig yr olwg arno fo, yn dwad i lawr tua chanol y Llan a’r fynwent. Daeth Elin Huws Nymbar Ten i’r drws, ac ar ei chyfer yr ochor arall yr oedd Leisa Ifans Nymbar Nain, yn disgwyl yn ddyfal am i’r gŵr diarth ddwad heibio.” “‘Dyn diarth, Elin Huws,’ medde Leisa Ifans. “‘Gŵr bynheddig, Leisa Ifans,’ medde Elin Huws. “Mi ddaeth y gŵr bynheddig heibio iddyn nhw,— “‘Sut ydech chi heddyw, Elin Huws a Leisa Ifans?’ medde fo. Mi swiliodd y ddwy, a gwrido, a rhoi cyrtsi iddo fo, ond ddeydodd yr un o’r ddwy air. “‘Pwy oedd o, tybed?’ medde’r ddwy efo’i gilydd, wedi iddo basio, yr un fath a chi’r plant mewn dosbarth holi ac ateb. Ac er na fedren nhw yn eu byw ddyfalu pwy oedd y dyn diarth, roedden nhw’n bur falch fod un gŵr bynheddig yn y byd mawr, llydan, yn eu nabod nhw. “Ar y funud, dene sŵn curo ysgafn o’r fynwent fel tase hithe hefyd yn ymysgwyd wrth sŵn troed y gŵr diarth. A daliodd y curo’n gyson, a chryfhau bob curiad. I’r fynwent â’r gŵr diarth ar ei union. Roedd ei ddyfodiad wedi bywiogi tipyn ar drigolion y tuallan i’r fynwent, ac roedd hi’n debyg fel tase fo’n gneud yr un peth i rai o’r trigolion y tumewn. Aeth y gŵr bynheddig heibio cornel yr Eglwys tua’r sŵn curo. Y tu arall i’r Eglwys yr oedd gŵr ar ei linie o flaen carreg fedd dywodfaen, cŷn yn y naill law, morthwyl yn y llall, a phot jam llawn o ddŵr budr, a cherpyn, ar lawr wrth ei ochor o. Roedd golwg go fywiog ar y gŵr yma erbyn hyn, pan ddaeth y gŵr bynheddig wyneb yn wyneb ag o, ac yr oedd curiade’i forthwyl yn seinio dros y lle. “‘Wel, Lias Tomos,’ medde’r gŵr bynheddig yn bwyllog, ‘sut mae hi’n dwad ymlaen?’ “‘Da iawn, da iawn, syr,’ medde Lias Tomos. “Ar y garreg fedd, mewn llythrenne newydd, oedd yn amlwg yn ffrwyth ymdrech ddiweddar Lias Tomos, roedd y geirie yma,— AC HEFYD AM ELIN OWEN, PRIOD Y DYWEDEDIG IFAN OWEN, YR HON A FU FA “Fel hyn welwch.” A dene Tomos Owen yn sgwenu’r peth ar ddarn o bapur i ddangos i ni fel yr oedd o. “Dene cyn belled ag yr oedd ffrwyth llafur Lias Tomos yn cyrraedd,” medde fo. “Mi drychodd y gŵr bynheddig ar y geirie yma, ac wedyn yn ddwys a hir ar eirie twyll, dipyn yn aneglur, uwchlaw iddyn nhw,” medde Tomos Owen. Ddeydodd o run gair am dipyn wedyn, a ninne’n ofni anadlu, gan y gwyddem fod rhywbeth mawr ar ei feddwl o. Ysgydwodd ei hun toc, ac aeth yn ei flaen. Ac medde fo,— “‘Ac mae o wedi marw ers deunaw mlynedd ar higien?’ medde Lias Tomos gan weithio’r llythyren “r.” “‘Ydi, ydi,’ ebe’r gŵr bynheddig, a dwyster ei wedd yn dyfnhau. “A dyma’r geirie.” A sgwenodd Tomos Owen y geirie ar bapur. Edrychodd arnyn nhw’n hir, yna dangosodd nhw i ni. A dyma nhw,— ER SERCHUS GOFFADWERIAETH AM IFAN OWEN, TY’N LLWYN, O’R PLWYF HWN, YR HWN A FU FARW RHAGFYR 2IL, 1891, YN 39AIN MLWYDD OED. — “Yn nghanol ein bywyd yr ydym yn angau.” “Ochneidiodd y gŵr bynheddig,” medde fo, “a throdd draw. Ochneidiodd Lias Tomos, ynte, ochenaid swyddogol, a daliodd i weithio’r llythyren ‘r’.” Cododd Tomos Owen ar ei draed, ac aeth i edrych trwy’r ffenest, a ninne fel llygod, a’r trane’n rhuo’r tuallan, a’r glaw fel tase rhywun yn ei dywallt o fwcedi. Daeth yn ei ol, ac ysgydwodd ei hun fel pe tase fo’n trio ’i ddeffro ei hun. Ac aeth yn ei flaen. “Ryw ddegllath oddiwrth y garreg yma,” medde fo, “roedd carreg farmor odidog. Ac am ysbaid wedyn edrychai’r gŵr bynheddig i bobman yn y fynwent ond ar garreg dywodfaen Ifan Owen a’i wraig, ac ar y garreg farmor ddegllath i ffwrdd. Ac mi ddeyda i chi’r rheswm pam. “Does dim Ty’n Llwyn yn bod i blant heddyw,—dim ond lle yng ngodre Coed y Garth o’r enw Cyt y Bugiel. Ond mi fu Ty’n Llwyn yno unweth, a chenhedlaeth ar ol cenhedlaeth yn byw ynddo fo,—yn cael eu geni ynddo, yn priodi ohono; yn gofidio, a llawenhau; yn pechu a chrefydda; yn torri clonne a’u cyfannu; yn diodde a marw. Ac un o’r rhai ola i fynd drwy’r driniaeth yno oedd Ifan Owen. “Er nad oedd mynd i fyw i Dy’n Llwyn yn rhyw ddyrchafiad mawr, mi lawenychodd Ifan Owen â chalon lawn pan aeth yno o’r capel, fore ei briodi ag Elin y Llety, â’i wraig ifanc yn pwyso ar ei fraich. Mi lawenhaodd uwch ben geni pob un o’i blant, ac mi ddiolchodd yn ddwys i’r Brenin Mawr bob tro y dychwelai’i wraig yn ol i’r gornel. Mi ddioddefodd Ifan Owen hefyd wrth edrych i wynebe ’i wraig a’i blant, a’r diodde yma a’i hanfonodd o i’w fedd yn beder ar bymtheg ar higien oed.” Rhwng popeth, roedden ni wedi rhyw hanner ddychrynu. Mi wnaeth hanes Ifan Owen yn priodi i mi gofio am briodas Lisi’r Pentre, ac Elis y Graig wedi cael hanner pwys o reis i luchio am ei phen, ond yn ei dywallt yn dawel ar lawr pan oedd pawb arall yn lluchio, am ei fod o’n swil. Ac er mai Elis oedd yn eistedd yn fy ochr i yn yr efel, roedd arnai ormod o ofn i edliw’r peth iddo fo. “Tŷ â hanner ei do’n wellt, a’i hanner yn slaets, a slabie cerryg, a thywyrch, oedd Ty’n Llwyn,” medde Tomos Owen. “Roedd ei lawr yn bridd, ag eithrio carreg yr aelwyd, a’r garreg oedd dan draed Elin Owen yn y gornel y mage hi ei phlant ynddi, a’r garreg oedd yn y gornel arall dan linie Ifan Owen rhag i’r llawr pridd godi crydcymale ar ei benneglinie, gan mor gyson yr oedd o arnyn nhw yn y gornel honno. A doedd dim llun carped yn unman, dim ond dau ddarn sach, gymint â chadache poced, ar y ddwy garreg o bob tu i’r aelwyd. “Y tu ol i Dy’n Llwyn yr oedd nyrs fawr o goed pinwydd,—cartre mebyd ffesants y plas. O flaen y tŷ dan garreg y rhiniog roedd ffos ddŵr. Ac wedi nos, anamal y clywid dim sŵn oddiallan ond sgrech ambell ffesant a ddychrynid gan heliwr, a murmur parhaus y ffos. Ac yn nyfnder nos sŵn ceffyl Mr. Richmond, ffarm y Daran Fawr, yn dwad adre o un o dafarne’r Llan, a sŵn y marchogwr ei hun yn rhygnu rhegi trigolion yr ardal am na wnai’r un ohonyn nhw ymostwng i’w wasanaethu o fel y dylent, ac ynte’n Sais. Ac ni bu storm drane er y dyddie hynny heb i blant Ty’n Llwyn gofio am Mr. Richmond y Daran Fawr. “Gwas yr Hafod oedd Ifan Owen. Mi gode gyda’r wawr, a dychwelai adre gyda’r machlud, hyd yn oed yn yr ha. Prin oedd ei gyflog o, ond medrai Elin Owen ei estyn cyn belled â neb heb neud gwyrth. A chyda help ambell i gypaned o laeth enwyn a meipen, magodd ei phlant heb iddyn nhw fawr erioed wybod beth oedd eisio bwyd. “Ond mi ddaeth tro ar fyd, ac mi ddechreuodd Ifan Owen nychu. Daliodd Mr. Huws yr Hafod o, gefn dydd gole, yn pwyso ar ei fforch ar ganol cae, ac mi gwyliodd o am ddeng munud heb weld osgo ynddo i symud. Rhoddodd wers o’r ysgrythur iddo ar olwgwasanaeth, ac mi rhybuddiodd o na fedre fo ddim goddef hynny wedyn. Ond mi daliodd o drachefn ymhen deuddydd yn eistedd ar garreg yng nghanol cae, pan ddylase fo fod yn agor ffos, ac mi hysbysodd o mai gartref oedd y lle i orffwyso. Mae’n wir fod Ifan Owen newydd gael cwrs o besychu nes bod bron darfod amdano. Ond roedd Mr. Huws, druan ohono, yn bur drwm ei glyw ar adeg felly. Mi blediodd Ifan Owen yn ddwys ger ei fron dros ei wraig a’i blant, ac mi fentrodd hyd yn oed gyfadde iddo fo ei nychtod. Ateb Mr. Huws oedd fod rhybuddio unweth yn ddigon, nad hospitol oedd yr Hafod, ond ffarm, ac mai dynion cryfion oedd eisio ar ffarm. A chan y cydnabyddid Mr. Huws yn grefyddwr selog, dylid ei gymyd ar ei air. A gwir a ddeydodd o mai ffarm oedd yr Hafod. Ffarm fwyaf yr ardal oedd hi, â deugien o wartheg godro ynddi, a dwy fil o ddefed ar ei moelydd. A rhyfedd oedd dylni Ifan Owen os camgymerodd yr Hafod o bobman am hospitol. “Mi drodd Ifan Owen tuag adre i ddeyd wrth ei wraig nad oedd o’n weithiwr yn yr Hafod mwy. Mi drychodd hithe arno am dipyn, ond gwelodd ei wyneb yn llwydo fwyfwy, yna mi drodd ei gwyneb a syllodd yn gadarn i’r tân. Lle da, mhlant i, ydi tân am sychu dagre, hyd yn oed cyn iddyn nhw adael cartre. Mi grwydrodd Ifan Owen lawer o ffarm i ffarm, ond nid oedd ar neb eisio gweithiwr a ddaliwyd yn gorffwyso gefn dydd gole. Mi fu ymhobman yn ei dro ond gyda Mr. Richmond, y Daran Fawr. Doedd unrhyw was yn ddigon rhyfygus i’w iselhau ei hun trwy ofyn am waith i Mr. Richmond pe tase rhithyn o obaith am le yn rhywle arall, o achos onid Mr. Richmond oedd y gŵr, ar ddiwedd cynhaea gwlyb, a regodd Dduw o dop y dâs. Roedd yr ardal yn ofni cynhaea gwlyb arall am y beiddgarwch ysgymun yma. Ac mi draddododd Mr. Huws yr Hafod araith ddwys i’w weision ar barchedigaeth. O achos ofnai Mr. Huws Dduw, a chredai mai Duw a lywodraethai’i gynhaea o.” Yr oedd golwg ofnadwy ar Tomos Owen erbyn hyn, a wyddem ni ddim yn iawn pa un ai bod efo fo yn yr efel, neu allan yn y trane oedd fwya dychrynllyd. Roedd o’n cerdded o gwmpas yr efel ers meityn ac yn bwrlymu siarad, a’i lygid o’n wyllt ac yn gochion. Yn y fan yma mi safodd yn sydyn, a bu am dipyn heb ddeyd dim, a ninne’n edrych ar ein gilydd, a Wil Tŷ Hen yn rhyw ddechre crio. Eisteddodd Tomos Owen i lawr, a dechreuodd wedyn yn fwy tawel, a chryndod yn ei lais. “Wel, mhlant i,” medde fo’n ddwys, “mi feddyliodd Ifan Owen gymint am ei gyflwr di-waith nes anghofio’i nychtod, ac mi ddaeth rhyw nerth iddo i grwydro na feddyliodd erioed amdano. A thystiai bob nos wedi chwilota cyson trwy’r dydd nad oedd o wedi blino dim. Pan gyrhaeddodd o adre un nosweth roedd y ddau blentyn ienga yn eu gwlâu, a’r ddau hyna,—Hannah a John,—wrth eu swper. Sgrifennu roedd Hannah ei henw ar damed o fara efo gwaelodion tun trieg, a John yn ei fwynhau’i hun trwy ddotio at ffurf ei ddannedd mewn brechdan doddion. Roedd Jane Jones, Pant yr Afon, wedi galw yno’n ystod y dydd efo’r toddion. Gwas ffarm oedd ei gŵr bithe, ond roedd hi wedi cael dau botied o’r ffarm ar ol priodas y ferch hyna yno. Ac roedd gan Ifan Owen, ynte, newydd da,—roedd o wedi cyfarfod â Mrs. Huws yr Hafod yn ystod y dydd, a hithe wedi deyd wrtho y cawse fo gwpaned o laeth enwyn yn rhad ond i rywun fynd i’w nol. Aeth John, y bachgen hyna, yno drannoeth i’w nol o, ac mi gafodd nid yn unig dunied o laeth, ond dwy feipen braf hefyd. Pan ddychwelodd Ifan Owen o’i grwydriade y nosweth honno, wylodd Elin Owen mewn diolchgarwch distaw, mhlant i, wrth y tân am fod y byd mor rhyfeddol o garedig wrth bobol ar lawr. Ac mi ddiolchodd Ifan Owen, ynte, ar ddiwedd y dydd, yn wresocach nag erioed, ar y tamaid carreg las a’r darn sach, am hael drugaredde Rhagluniaeth. Roedd o’n pwysleisio nad oedden nhw eto wedi eu darostwng i fara sych. Ac er nad oedd o ’n cofio, yng ngrym ei ddiolchgarwch, ddim ond am y nosweth honno, gwir a ddeydodd,—ia, gwir a ddeydodd o, canys roedd Rhagluniaeth wedi darparu digon o ddŵr genau hyd yn oed iddyn nhw i fwydo’u bara. Oedd, roedd digon o hwnnw.” Ac yn y fan yma cododd wedyn a phoerodd i bendraw’r efel. Erbyn hyn roedd pawb yn edrych arno fel tase ganddo gyrn ar ei ben. A fynte’n ddyn diarth hefyd. Dyna’r pnawn rhyfedda aeth dros ein penne ni. Dene fo’n eiste ac yn gafael mewn morthwyl, ac yn dechre siarad wedyn gan gadw amser ar yr eingion am dipyn efo’r morthwyl yma. “Ond darfu’r llaeth enwyn,” medde fo, “a’r maip, a’r trïeg, a’r toddion, a nosweth ryfedd oedd honno y bu raid i Ifan ac Elin Owen fod o bnawn un diwrnod tan drannoeth heb damed, rhag i’r plant ddysgu beth oedd eisio bwyd. A nhw’n myfyrio ar eu dyfodol o flaen ychydig farwor, y goedwig yn llethol dawel, a hyd yn oed y ffrwd wedi distewi yn eu myfyrdod nhw, dene sŵn rhoncian ymlaen o’r tuallan,—gŵr y Daran Fawr oedd yn pasio, ac yn melltithio’r Cymry rhwng rhegfeydd am na wnae nhw ymostwng i’w wasanaethu o, gan bwysleisio gogoniant llachar y genedl y tarddai o ohoni hi. “Mi wrandawodd y ddau arno fo’n dwad, yn pasio heibio, ac yn mynd, nes i’r sŵn golli yn y pellter. Edrychodd Ifan Owen ym myw llygid ei wraig, edrychodd hithe i fyw ei lygid yntau, y ddau am y llwyta,—ond cochni annaearol y marwor oedd yn tywynnu ar eu gwedd. “‘Wel,’ medde Ifan Owen toc, ‘yfory amdani.’ “Mi ddechreuodd gwefuse Elin Owen grynu, ond ddaeth cysgod deigryn ddim i’w llygid hi. Ond bore drannoeth roedd ei gobennydd hi’n wlyb ddiferol, am fod ei gŵr wedi ei ddarostwng i ofyn am waith i ŵr y Daran Fawr, o achos gwydde hithe’n rhy dda na pharche’r ardal byth mwy neb fase’n ymostwng i weithio iddo fo. Ond wedi’r cwbwl beth sydd i ddyn i’w neud, â’i blant yn gwelwi bob dydd? “Mi gafodd Ifan Owen waith yn y Daran Fawr, ac ymhen yr wythnos mi ddaeth â chwe swllt i Elin,—chwe swllt, mhlant i,—chwe swllt yr wythnos a’i fwyd oedd cyflog Ifan Owen i wynebu’i deulu. Ar bnawn y dydd cynta o Ragfyr, mi ddaeth Mr. Richmond ato i ddeyd bod yn rhaid iddo fynd dros y nos honno i nol glo. A thaith bell oedd y daith i’r glo. Mi gychwyunid un min nos, a theithio trwy’r nos, a dwad yn ol ddyfnder nos drannoeth. Welai Ifan Owen fawr o ddim yn hyn nes i Mr. Richmond enwi’r cyffyle,—Bocsar, hen geffyl musgrell a bregus oedd un, a cheffyl ifanc newydd ei dorri i lawr oedd y llall. Roedd Ifan Owen yn ofni’r ceffyl ifanc yn fawr, o achos mi wydde fwy am ei nychtod na neb arall,—na hyd yn oed ei wraig ei hun. “Nosweth oleu, rhwng ysbeidie o fwrw eira oedd y nosweth honno, a chaenen o eira tros y wlad. Rhaid oedd mynd ddwy filltir cyn cyrraedd Llanfangu ei hun, ac wedyn i’r mynydd, a ffordd anial, unig, am filltiroedd maith oedd y ffordd fynydd. Mi elwid rhan o’r mynydd, oedd ar godiad tir, yn Faes y Lladron, o achos bod traddodiad ar droed mai yno y llechai’r lladron ddyddie pedoli’r gwartheg a mynd â nhw i Loeger, ac ysbeilio porthmyn ar eu ffordd yn ol. Anodd oedd gweld y ffordd fynydd ar nos eira, ac roedd Elin Owen yn meddwl yn bryderus trwy’r nos am hynt ei phriod. “Roedd hi’n bwrw eira wedyn drannoeth, ac Elin Owen yn dwad o’r siop fin nos lle bu hi’n toddi tipyn ar y ddyled efo’r cyflog. Ar y funud honno roedd yr awyr yn glir, y sêr yn fflamio mwy nag arfer, a’r wlad yn wen ddisglair dan y gawod oedd newydd ddisgyn, ac Elin Owen yn brysio adre at ei phlant dan synfyfyrio uwchben eu rhagolygon. Mi wibiodd seren ar draws yr awyr, a chododd hithe ei golwg i edrych arni. Wedi ei dilyn nes iddi ddiffodd, mi dynnodd ei golwg yn ol ar y ffordd fawr. A gwelai rywun yn siglo dwad i’w chyfarfod gan sefyll o’i blaen. Fferrodd ei gwaed pan adnabu hi ei osgo. Pwy oedd o ond Ifan Owen ei gŵr, a hithe’n tybio ei fod o ymhell iawn o’r fan honno. “‘Ifan,’ medde hi, ‘be ydech chi’n ei neud yma?’ “Atebodd Ifan ddim un gair iddi, ond aeth heibio iddi gan edrych yn ofnadwy ddwys. Mi drodd hithe drach ei chefn i alw arno eilweth. Ond doedd Ifan Owen ddim yno, na siw na miw amdano. Mi drychodd Elin Owen yn wyllt ar y ffordd fawr, ond doedd ôl ei draed ddim yno chwaith. “Na, mhlant i,” medde fo â chrec yn ei lais, “doedd Ifan Owen ddim yno, a ’dallse fo ddim bod yno, o achos ar y funud honno roedd o newydd orwedd i orffwys, am ei dro ola ar ganol ei waith, ar allt Maes y Lladron. Yn gorwedd ar draws ei draed roedd olwyn trol, ac ar ei gorff lwyth o lo. Yn ei ymyl roedd hen geffyl yn gruddfan gan guro’i ben ar y ddaear, ac yn y pellter clywid sŵn myglyd carne ceffyl ifanc yn carlamu trwy’r eira, a’i gadwyne’n llusgo ar ei ol. Roedd y sŵn yn cyrraedd ymhell, ond er pelled ei gylch, roedd trigfanne dyn ymhellach. “O’r diwedd mi dawelodd y cynnwrf. Doedd dim sŵn yn unman,—dim ond siffrwd yr eira ar lyn oedd yng ngwaelod yr allt. Disgynnai’n gyson gan wynnu’n ddiwyd a charuaidd hen geffyl llonydd, a throl lo, a nyddu’n dyner gwrlid dros wyneb y gorffwyswr tawel dan y llwyth. O achos doedd yno neb ond yr Un a daenellai’r eira, i ddiweddu Ifan Owen Ty’n Llwyn.” Wedi deyd hyn, mi drychodd Tomos Owen yn hir i’r lle tân heb gymyd arno ei fod o’n gwybod ein bod ni yno. “Ddoi di adre?” medde fi wrth Wmffre, a dene ni’n rhyw ymysgwyd tipyn gan feddwl llithro allan. Deffrodd hyn Tomos Owen,— “O ia,” medde fo’n siriol, “sôn am bnawn crasboeth o fis Mehefin fel hwn oeddwn i ar y dechre, yntê? Wel, ar y pnawn crasboeth yma o Fehefin, mi safe John, mab Ifan Owen, fel gwrbynheddig ar lan bedd ei rieni. Wedi methu’n hir, mi drodd o’r diwedd ac mi syllodd ar y garreg, wedyn mi drodd ei wyneb at y garreg farmor. Casglodd ei boer, anadlodd yn drwm, ond mi ymataliodd. Tarodd i’w ben yn sydyn y gellid sarhau hyd yn oed boeryn wrth ei fwrw ar ambell fedd.” A gwenodd Tomos Owen yn hir tan edrych tua’r drws fel tase fo wedi anghofio wedyn ein bod ni yno. Roedd y glaw wedi stopio erbyn hyn, ac mi gododd pawb i fynd allan. Cododd Tomos Owen ar ei draed hefyd. Wmffre a fi oedd y ddau ola’n mynd drwy’r drws. Tynnodd Wmffre at fy nghôt ac mi aethom i’n dau yn ein hole. “Tomos Owen,” medde Wmffre, “Ar fedd pwy yr oedd y garreg farmor,—ar fedd Mr. Huws yr Hafod neu fedd Mr. Richmond y Daran Fawr?” “Dydio fawr o bwys, mhlant i,” medde Tomos Owen, tan wenu, “ewch adre rwan, mae hi’n codi’n braf ar ol y storm,—dacw i chi bont[12] law. A dydio fawr o bwys gan y dyn a wlychodd yn y storm pan wêl o ’r bont law. Diolch am bob pont law’n tê, mhlant i?” Ac i ffwrdd â ni. Ond wrth fynd drwy’r drws mi glywem Tomos Owen yn deyd rhyngddo a fo ei hun, dan ddechre curo’r eingion,—“Do, mi welodd Jac fy mrawd bont law y pnawn hwnnw.” ----- [12] Pont law=enfys, _rainbow_. DIWEDD. * * * * * Transcriber’s Notes: Spelling and punctuation have been left as in the original. Some illustrations have been moved slightly from their original positions to keep paragraphs intact. [End of _Nedw_ by Edward Tegla Davies] *** END OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK 67424 ***